Symud i'r prif gynnwys

CENINEN GWYL DEWI. (ARGRARHIAD ARBENIG O'R " GENINEN," Y CYNTAF 0 FAWRTH, 1894). GTJTYN PADAEN: EI ATHEY- LITH A'I WAITH. Yn Ngheninen Gwyl Dewi yllynedd rhoddasom fvr sylwadau ar fywyd a marwolaeth Gutyn Padarn. Yr oedd y defnyddiau a'r am ser yn brin genym; ac, o ganlyniad, y byr gofiant yn dra diffygiol. Drwg genym nad ydyw y defnyddiau yn ddim helaethach, ond rhoddes amser o ystyriaeth i ni y cyf- leustra i ofyn y cwestiwn, Pa beth ydyw gwersi bywyd Gutyn Padarn ? a wnaeth efe erioed rywbeth ag sydd yn werth ei efelychu ? Os na bydd yn y coffadwriaeth o honom ryw wersi o fudd ac elw i'n holafìaid eu gwybod ac ymdrechu eu hefelychu, gadawer iddo suddo i dir anghof. Neges fawr dyn ar y ddaear ydyw meithrin, magu, dysgu, dadblygu a pherffeithio ei gym- meriad personol, yn foesol ac ysprydol, at gyfarfod â buchedd well; ac, hyd y gallo, gynnorthwyo eraill i wneuthur yr un peth. Yng ngoleuni y safon yma yr edrychwn ar fuchedd y Parch. Gruffydd Edwards, M.A. (Gutyn Padarn), diweddar Eeithor Llangad- fan, Sir Drefaldwyn. Yr oedd Gutyn Padarn yn ddilys yn un o feibion athrylith. Arhoswn funyd i ystyried pa beth yw athrylith. Onid yw yn rhywbeth mawr ? yn rhywbeth ar ben ei hun ? yn rhywbeth nad oes ond un o ddeng mil, un o gan' mil, un o genedl, un mewn oes, un mewn can- rhif, yn ei meddiannu ? Byddys yn aml yn camgymeryd wrth son am athrylith, drwy gyfyngu ystyr y gair at yr ar- ddangosiad uchaf o athrylith, megis Shakespeare mewn barddoniaeth, Bacon mewn athroniaeth, a Eeynolds mewn paentwaith. Credwn mai yr ystyr gyffredin a roddir i athrylith ydyw galluoedd med^yliol grymus. Nid wyf yn meddwl fód y gair Cym- raeg athrylith yn meddwl y genedl yn gyfystyr â'r gair Saesonaeg genius yn meddwl y genedl Seisnig. Ehoddir yn fynych i'r gair genius yr ystyr o alluoedd a thueddiadau meddyliol neillduol ac arbenig yn troi y meddwl i gyfeiriad un math o wybodaeth a gwyddor neu faes llenyddol neu gel- fyddydol, megis athrylith farddonol i un, areithyddol i arall, rhifyddol i arall, paentyddol i arall, a milwrol i'r llall. Nid ydym yn amcanu gwrth- wynebu y golygiadau yna a ddygir i'n meddwl gan y gair Saesonaeg genius; ond credwn nad oes un angen ei lusgo i mewn i ystyron y gair Cymraeg athrylith. Gwell gennym gadw y gair yn ei eangder cryf a'i rym pennodol i ddynodi galluoedd meddyliol yn eu holl eangder, eu twf, eu dadblyg- iad, eu meithriniad, a'u perffeithiad. Am y meddwl dynol nid oes yr am- heuaeth lleiaf nad ydyw yn gwahan- iaethu o leiaf laion cymmaint yn ei rym a'i alluoedd mewn gwahanol bersonau ag ydyw cyrff dynion. Ond yr ydym yn gryf o'r farn Dad yw y gwahaniaeth yn llawer iawn mwy. Credwn fod gan bob dyn o feddwl iach fesur o athrylith : ond yr oedd gan Gutyn Padarn fesur mawr o athrylith : yr oedd ganddo (1) Feddwl effro.—Dyna, nod gyntaf athrylith. Mewn gallu i gymmeryd sylw, i graffu, ac amgyffred y dengys y rheswm ei hun. Y mae greddf yn gweithredu mewn tywyllwch, gan gyfyngu y sylw i anghenion chwaeth a theimlad; ond y mae athrylith yn ymdrechu ymgydnabyddu âg allanol bethau. Dangosodd Gutyn Padarn yn foreu fod ei feddwl yn effro. Cymmerai sylw o bobpeth. Yr oedd yn hynod o hoff o chwilio cilfachau a chymmoedd rhamantus cymmydogaeth fynyddig Llanberis. Gwelai fonedd- igesau a boneddigion, llenorion a gwleidyddwyr, fel plantos, yn hoffi " Dringo'r Wyddfa, goppa gwyn, A chwareu ar ei choryn." Bu yn fachgen bychan yn arweinydd i lawer un i ben y Wyddfa; a deffroes yr argrafnadau a wneid ar ei feddwl gan sylwadau yr ymwelyddion a chan y golygfeydd eu hunain gynneddfau ei ddeall a'i ddychymmyg. Ehaid i'r meddwl eff ro a'r ddychymmyg fy w gael gwybodaeth yn seiliau cedyrn dan eu traed. Ni foddlonir y meddwl effro â dychymmyg. Breuddwyd yw'r ddych- ymmyg ynddi ei hun; a myn y meddwl wybod a oes sylwedd o'r tu cefn. Mynnodd Gutyn Padarn addysg yn dra chynnar. Cymmerodd drafferth a phoen i ddysgu. Dyma brif nod ath- rylith, sef