Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IEUAN O LEYN. arno mewn rhyw ystyr fel tâd, oblegid mai ar ei anogaeth ef yr esgynais i risiau pulpud am y waith gyntaf, tra nad oeddwn i ond glaslangc nag yntau ond bachgen-bregethwr. Nid yn unig aeth ef i mewn i'r winllan, ond daeth hefyd yn driniwr gwinwydd ar y drydedd awr o'r dydd; ac y mae wedi dwyn pwys y dydd a'i wies yn rhagorol yn ngwasanaeth y Meistr da i'r Hwn y rhyngodd bodd ganiattau iddo seliau lawer i'w weinidogaeth." Drwy gynildeb, ac ymroddiad llafurus i'w efrydiau, cafodd ei hunan mewn safie i ymgeisio am dderbyniad i'r Ooleg newydd yn Aberhonddu : ac efe ydoedd y myfyriwr cyntaf a dder- byniwyd i'r athrofa honno. Wedi gorphen ei dymhor yno, dechreuodd ar ei weinidogaeth, yn Llangollen, ar y Sabboth cyntaf yn y üwyddyn 1843, pryd y pregethodd foreu a hwyr yn nghapel y Wesleyaid, oblegid fod capel yr Annibynwyr yn cael ei ail-adeiladu ar y pryd. Ar y 6ed o Ebrill agorwyd y capel newydd; ac"urddwyd" y gweinidog newydd yr un dydd. Cost- iodd yr adeilad y swm o bedwar càn punt; tuag atyswmhwn casgloddiMr. Hughes, yn Llundain a mannau eraill, drwy lafur a helbul nid bychan, y swm o gàn punt. Mae'n debyg mai dyma oedd yr hen ddull o dalu dyledion, i fesur mawr. Yn 1845 ymunodd mewn glân bri- odas à Miss Jane Jones, o'r dref honno, a chwaer i'r diweddar Mr. Thomas Jones, masnachydd yn Barbadoes, India'r Gorllewin. Bu yr undeb yn un maith a dedwydd; ac y mae Mrs. Hughes wedi cael help i aros hyd yr awr hon i dystiolaethu maida a ffydd- lawn yw yr Arglwydd. Yn 1847 ym- gymerodd Mr. Hughes â gofal yr Eg- lwys Gynnulleidf aol Seisnig yn Demer- ara, British Guiana, yr hon y pryd hwnnw oedd dan nawdd Cymdeithas Genadol Llundain. Aeth yno yn olynydd i'r Parch. W. G. Barrett, tad y Parch. G. S. Barrett, B.A., o Nor- wich. Ymdaflodd yn egniol i'w waith Eno; bu yn ddiwyd, dedwydd, a wyddiannus iawn yn mhlith y bobl gymmysg hynny,—lliwddu.ganmwyaf o lawer. Y mae amryw o'r bechgyn Negroaidd addysgwyd yn yr ysgolion oeddynt dan ei ofal ef erbyn hyn yn llenwi lleoedd pwysig mewn byd ac eglwys; un ohonynt yw y Parch. F. C. GÍasgow, ysgrifenydd Undeb Oyn- nulleidfaol British Guiana, yr hwn a fu yn ddiweddar ar ymweliad â'r wlad hon, ac a lefarai mewn ymadroddion uchel am waith Mr. Hughes yn y dre- fedigaeth honno. Ymae o'm blaen ddarlith Seisnig ar " India'r Gorllewin, a'r hyn a welais yno," yn llawysgrif brydt'erth Mr. Hughes ei hun, yn yr hon y dywed gryn lawer am olygfeydd, cynyrchion, a phobl y wlad; ond llai nag a ddy- munem am ei waith ei hun yn y tir pell. Ymddengys fod yr ynysoedd hynny yn nodedig o hardd; ac ni chollwyd eu tegwch arno ef. Dywed mai hawdd yw maddeu i Columbus am ei afiaeth a'i dipyn gorinodiaeth pan yr ysgrifenai at Fferdinand o'r Hispaen, acydywedai, "Felyrhagora yr haul ar y lloer mewn dyegleirdeb a gorwychedd, felly y rhagora tegwch y gwledydd hyn ar eiddo pob gwlad arall." Gwnaeth gwyrddlesni yr ynysoedd argraff ryfeddol arno. "Nidoesmo'i fath dan haul-gylch Ewrob, ys canai rhywun." " Byth nis anghofiaf yr hyfrydwch a'r syndod a deimlwn pan am y waith gyntaf y syllwn ar rai o'r ynysoedd hyn: yr awyr las, ddigwmwl, y bryniau gwyrddion, y palmwydd uchelfrig yn moes-grymu gyda'r awel, gerddi trefnus y llafurwyr, a gwlattai {villas) prydferth y cyfoethogion — dygai hyn, a milfwy o wrthddrychau swynol eraill, eiriau Heber yn fyw i'm cof,— " Y mae mewn pell ynysoedd Awelon pér yn hael, A hyfryd eu hardaloedd; Ä dim ond dyn yn wael!" Y mae yn yr ynysoedd amryw fyn- yddau tanllyd. " Dywedir fod bach- gen o Negro unwaith yn gwylio gwar- theg ar ochr mynydd yn Ynys St. Vincent, yn agos i Barbadoes, pan y disgynodd carreg yn ei ymyl, ac yna un arall. Tybiodd mai rhyw fechgyn dirâs oedd yn eu taflu ato oddiar y bryncyn uwchlaw. Ond, yn y man, disgynai y cerrig yn amlach, ac yn eu plith feini mawrion nas gallai undyn mo'u codi; ac ar hyn deallodd y llanc mai y mynydd ei hun oedd yn lluchio y cerng ato; a chan adael y gwartheg ì'w ffawd, ffoes am ei hoedl.' Dilynwyd y cellwair chwareu hwnnw gan ffrwydriad anferth; ond pan ym- welodd Mr. Hughes â'r lle yr oedd y mynydd " mor dawel â'r Ẅyddfa, a choron o niwl arian ar ei ben." Siwgr yw prif gynyrch y wlad, a choffi yn nesaf ato. Y mae coffi yn blanhigyn dyf yn mhob math o dir y'mron. " Gwyrdd tywyll yw lÛw y ädeilen; dŵg doraeth o flodau gwyn- ion; a gorchuddir y ffrwyth fberryj â mwydionyn coch, melus. Y mae planhigfa goffi helaeth yn deg i edryoh arni." Yr oedd llygad y bardd yn fyw i'r prydferth. "Mewn ogof yn Bar-