Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

/I\ Y GENINEN EISTEDDFODOL. (ARGRAPHIAD ARBENIG 0'Ä " GENINEN," AWST, 1894; YN CYNWYS CYFANSODDIADAU BUDDÜGOL YN UNIG MEWN EISTEDDFODAU, &c.J EDMWND PRYS, ARCHDDIAOON MEIRIONYDD. (Âwdl y Gadair yn Ffestiniog, 1883). Gwir fawrion feibion a fu—o wir werth Lawer oes i Gymru ; Teg weis, a dreuliasant gu—oes o les,— Sai' rhai â'u hanes fyth i serenu. Bu i' w hurddas benbeirddion— yn gymhwy s Deg emau'n ei choron ; Rhoddodd Nêr dêr awduron Heirdd, heb rif, i urddo'i bron. Gweledig oleuadau, Harddent asur bur y bau ; Eu gwênau, i'w gogonedd, 0 ŵydd byd ni chuddia bedd. Yn eu mysg, Archddiacon Meirionydd Ga wir fri awen ein hygar fröydd; Oedd fardd, a llenawr, a mawr Omerydd, Lonai ei genedl â'i gyflawn gynnydd ; Parhaus fawl Edmwnd Prys fydd,—drwy'n gorawr Hanes y dirfawr waith wnaeth nis derfydd. Pwy ŵyr werth dawn Edmwnd Prys,—aH Wybodaethau hysbys ? [ethawl Yn ei adeg bu megys—tad Uawen I blant awen, o'u blaen i'w tywys. Ar daeniad goraruthr dunos—y bu I'n bardd hoff ymddangos; Yn gwâu, fel unig eos, Ei gathl bêr yn nyfnder nos. MawrhauawnaMeirion wyl,—yn ffyddlon, Enw'i Harchddiacon UDÌon, aawyl: Mae i Prys yn mhob preswyl—barch a bri, 'E ddeil ei enwi'n dragwyddol anwyl. Yn ei wychion linachoedd—yr enwir Gwroniaid yr oesoedd; Hanai o'n hen frenhinoedd, Ac yma'r gwaed Cymreig oedd. O'r pena' gwŷr pwy'n hygarach ?—a phwy A'i ffyrdd yn ddysgleiriach ? [nydd Oherwydd gwaith rhagorach,—saif beu- Yn wir olynydd teilwng o'r linach. Ein ardal, heddyw'n irdw',—yn nydd hwn Ydoedd wael ei delw; Yr oedd olion prudd-welw—blindywydd Yn toi Meirionydd y tymor hwnw ! Ei loyw einioes gyflwynodd—i lwydd Cymru, 'r wlad a'i magodd ; A mawr aidd o'i thu ymroddodd ;—yn fri Ac enw iddi mewn dawn cynnyddodd. Gwelid e'n mhrifysgolion—hen ein gwlad, Dan glodus lawryfon; Yn fawredd i wlad Feirion,—daeth yn ol 0 fysg colegol brif ysgolheigion, Drwy ddiwydrwydd, i enwogrwydd Deuai'n ebrwydd, dan ei wobrau ; Caed dyddorus ffrwyth daionus O'i lwyddiannus, uchel ddoniau. Dan ei fri deuai'n fawr iawn,—o nodwedd Gweinidog coeth, cyflawn; Drwy ei ddysg, ei fedr, a'i ddawn, A'i fanwl yrfa uniawn. Da ysgolhaig disigl oedd,—a gloywbur Nodedig awdur godidog ydoedd. Drwy'n pau, ei Salmau pêr sydd—o dan fri, Dan fawrhad tragywydd; Ag yni dysg-awenydd Ymrôdd i waith mawr ei ddydd. A bydd am y Salmydd sôn Ddyry fawredd ar Feirion. A'n penaf, enwocaf wŷr,—parhau'n loyw Y mae ei enw;—tad ein emynwyr. A'i fawr enw ef, eir a ni—i'r oes Cyn i'th wawr wèn dori, [erch, Ein gwlad hoff; pangweliddi,—gan wýll Yn rhy w ddu lanerch oer, ddioleuni. Y nos o hyd yn dwyshau, Heb arwydd am wên borau ! Ein gwerin dlawdyn gorwedd—yn nhrym- Rwymau cwsg a llygredd ; [ion Uwch y bau ceid t'wyllwch bedd;—erch niwlen A'i dudew aden doai y dudwedd. I bydew anwybodaeth—disgynai Ein dwys genedl waethwaeth ; Ac ar daen, gau grediniaeth Geid yn hau chwedleu di chwaeth. Diluwiaeth gwag chwedleuon—ordoai Y fro dawel, dirion ; Gwalia a'i hofergoelion O sedd ei bri suddai bron. Is cauedig gysgodion—y nos wŷll, Dawnsiai erch ellyllon ; Pob ceunant a nant yn hon Briodwyd âg ysbrydion! Y gwr doeth â geiriau dysg Ailai darfu'u holl derfysg. Ar eu heddwch a'u rhyddid—'e dorai Ein mad wron, meddid ; Yn fynych, ef a enwid Fel yn gallu lleddfu'u llid. Yn yr hanes uthr hynod,—ynganai Fy nghenedl ei fawrglod ; O ! clyw, fel mae'n derbyn clod O au dybiau'r diwybod.