Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINE Cjẅögraüm €mùAnttí)ùh Rhif 3.] GORPHENAF, 1895. [Cyf. XIII. ADDYSG UWCHRADDOL L'R GWEITHIWR. Mewn rhifyn blaenorol o'r GENINEN ceisiais alw sylw at yr angenrheidrwydd am addysg well i feibion a merched amaethwyr bychain ein gwlad ac eraill sydd yn arfer gweithio ar y tir, ac at anigonoldeb y ddarpariaeth bresenol. Nid wyf yn nieddwl fod ein harwcinwyr mewn pethau addysgol eto wedi dyfod i weled pa mor fach a gwael yw y ddarpariaeth ar gyfer addysg uwchraddol y gweith- iwr. Yr wyf yn addef fod modd i bìant y gweithwyr drwy enill ysgoloriaethau gael manteision addysg uwchraddol; ond nidgweithwyr fyddant hwy. Ni fydd addysg y plant hyn yn gwneyd fawr, os dim, i godi safon addysg y gweithwyr eu hunain. Mae yn deg â phlant y gweithwyr fod manteision mor fawr yn cael eu hestyn iddynt; ond y mae yn rhaid i ni beidio anghofio y gall y manteision hyn droi yn anfanteision i'r gweithwyr fel dosparth. Dylem edrych ar waith fel peth urddasol: ond nid ydym yn gosod urddas ar waith pan yn dysgu y plant mai amcan yr addysg oreu yw eu cynorthwyo i beidio bod yn weithwyr. Cyn y ceir gwell syniadau i ffynu am urddasolrwydd gwaith rhaid i ni ddyrchafu addysg y rhai sydd yn aros yn weithwyr. Ac yn y fau hyn y cyfyd yr anhaws- der mawr, sef, Pa fodd y gall bachgen ddysgu grreithio a chaeladdysg uwch- raddol hefyd. Gall, dan y drefn bresenol, gael y naill neu y llall; ond y mae yn anhawdd iawn iddo gael y ddau. Mae manteision addysg barhaol yn amlhau. Nid wyf o gwbl yn amheu hyn ; ond yr hyn yr wyf yn ddal yw fod ein trefn- iadau diweddaraf wedi lleihau yr ychydig fanteision oedd genym i roi addysg eíFeithiol i'r rhai a ewyllysient ail-yniaflyd ynddi ar ol dysgu gwaith. Mae bachgen sydd yn myned i weithio yn gadael yr ysgol elfenol tua tbair-ar-ddeg oed, neu yn fuan wedi hyny ; ac nid yw yn debyg o allu ail-ddechreu ei ysgol cyn bod yn ddeunaw neu ugain oed. Mae yn wir y gall fod gwell manteision i hwn hefyd, os mai gwella ei wybodaeth gelfyddydol neu wyddonol sydd ganddo mewn golwg : ond nid yw hyn yn cyffwrdd â'r gosodiad fod llai o fanteision addysg uwchraddol o fewn ei gyrhaedd. Disgwylir pethau mawr oddiwrth yr ysgolion canolraddol: ond os ca Dirprwywyr yr Elusenau, ac eraill sydd yn cydolygu â hwynt, eu ffordd, bydd yn amhosibl i neb dros ddeunaw oed gael mynediad i'r ysgolion hyn. Yr wyf tì yn credu, ac yr wyf yn gwybod fod eraill yn Nghymru yn gryf o'r farn, na ddyhd cau allan rai dros ddeunaw oed o'r ysgohon hyn os byddant wedi colli manteision boreuach. Nid wyf yn anobeithio y ceir teimlad digon cryf yn y wlad ar y pwnc i orfodi Dirprwywyr yr Elusenau i symudymaith y rheol gyda golwgar oedyr ysgolheigion, fel y caffo y bachgen sydd wedi dysgu gweithio gyfle i ail-gychwyn gyrfa addysg. Ond rhaid i mi addef, ar yr un pryd, nad yw y myfyriwr ieuanc hwn yn debyg o dderbyn addysg yn y ffordd fwyaf cymwys i'w anghenion os na cheisir ei chyfaddasu at ei oed a'i sefyllfa. Rhaid peidio disgwyl i fachgen deunaw oed ddysgu fel bachgen naw òed,—er ei fod yn gorfod dysgu yr un pynciau. Cael ysgolion neAvy-dd ar gyfer y dosparth hwn fyddai oreu; ac nid wyf yn gwybod paham nas gellid eu cael. Ond hyd nes gwneir darpariaeth gyfaddas felly, dylai yi- ysgolion canol- raddol fod yn agored i weithwyr icuainc dros ddeunaw oed, a dyhd trefnu cynllun o addysg wedi ei gyfaddasu at eu hangenion neillduol hwynt, fel y trefnir addysg at angenion neillduol y plant. Fe fu amser pan ddysgid plant heb geisio deall fawr am y meddwl ieuanc. Erbyn hyn y mae y rhai sydd yn paratoi i fod yn athrawon yn cael eu dysgu i astudio cyneddfau y meddwl a chyfaddasu eu haddysg at ei neillduolion. Gan mai â phlant y byddant hwy yn ymwneyd gelwir eu sylw yn benaf at y meddwl ieuanc. Nid wyf yn gwybod