Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrbgraton CfnẁIartftoL Rhif 4.] HYDREF, 1895. [Cyf. XIII. Y PARCH. LLYWELYN IOAN EVANS, D.D., LL.D* NlS gwyddoin am un Cymro o gyffelyb feddwl ac enwogrwydd wedi disgyn i'r bedd yn y blynyddoedd diweddaf hyn a chyn lleied o sylw coffadwriaethol wedi ei wneyd o hono yn y cyfnodolion Cymreig a'r gwr dysgedig ag y mae ei enw uwchben yr ysgrif hon. Diau fod hyny i'w briodoli i'r ffaith iddo dreulio y gyfran heìaethaf o'i fywyd yr ochr draw i'r Werydd, ac ymgysylltu yn fwy ncillduol âg un o ganghenau crefyddol Seisnig America. Gall ei fod yn gymhar- iaetbol ddieithr oblegid hyny i gorff mawr o'r genedl yn yr Hen Wlad ; ond nis gellir dyweyd ei fod felly i'r dosbarth mwyaf darllengar a diwylliedig o'i gyd- wladwyr—y cyfryw na phetrusant dori dros derfynau iaith a phlaid i bori yn meusydd toreithiog ccnhedloedd eraill. Cymhellir ni i ymgymeryd â'r gwaith o geisio gwneyd y diffyg hwn i fyny yn fwy oddiar ystyriaeth o ddjdedswydd nag o gyfeillgarwch personol, er cadw yn fyw o flaen darllenwyr ieuainc Y Geninen un o'r cymeriadau puraf a niwyaf diymhongar a fagodd Cymru erioed. Fel y cawn sylwi yn ol llaw, yr oedd cylch defnyddioldeb y Proffeswr Evans yn eangaeh na'r cyfundeb y perthynai iddo. Tra yn yfed yn helaeth o ffynhonellau llonyddol pob oes, pob gwlad, a chenedl, nid oedd yn brin o'r ddawn o wasgar ei dda er budd cenhedíoedd, a thrwy gyfrwng ieithoedd, eraill. Ond gan nad pa gyfrif ellir ei roddi am annibendod Cymru i anrhydeddu ei goffadwriaeth mae yn hyfrydwch ini sylwi na adawodd ei edmygwyr American- aidd i'r dywarchen Lsu ar ei feddrod heb roddi mynegiant sylweddol o'u parch tuag ato ac o'r meddwl mawr oedd ganddynt hwy o'u cydwladwr fel pregethwr, llenor, ac athraw. Cyfeirio yr ydym at ddwy gyfrol olygus sydd yn awr ar ein bwrdd, yn cynwys detholiad o bregethau, traethodau, a barddoniaeth yr ym- adawedig, wedi eu cyhoeddi gan y New Yorh Christian Literuture Society, a'u golygu gan y Parch. Henry Preserved Smith, D.D., Proffeswr Hebraeg yn Athrofa Dduwinyddol Lane, Cincinuati. Hysbyswyd ni gan un ddylasai wybod fod bwriad pellach i gyhoeddi rhai o brif gynhyrchion Cymreig yr awdwr, os ceir sicrwydd am gefnogaeth resymol i'r anturiaeth : ond pa bryd ? Llais a etyb, pa bryd? O angenrheidrwydd, blaenft'rwyth awen ieuanc y bardd y gallesid disgwyl i'r rhai hyny fod; oblegid yn fore yr ymddisgleiriodd ef fel seren yn ffurfafen lenyddol y Gymraeg, gan ddiflanu am dymhor lled faith, a hyny yn anterth ei lwydd, eto i leAvyrchu yr un mor ddisglaer yn ffurfafen llenyddiacth Seisnig ci wlad fabwysicdig. EI ENEDIGAETII A'l SYMUDIAD I FANGOli. Mab ydocdd Ioan Llywelyn Evans (dyna ffurf wreiddiol yr enw cyn iddo ymfudo i'r Gorllewin ; ar ol hyny, er mwyn mantais i'r Americaniaid deimlent anhawsder i gynghanu yr enw cyntaf trawsnewidiwyd ef am yr ail, ac fel Llywelyn Ioan Evans yr adwaenid ef o hyny allan,)—mab ydoedd i'r Parch. Edward Evans, pregethwi- parchus gyda'r Methodistiaid Calflnaidd yn Sir Fflint. Ganwyd ef yn y Treuddyn, ger y Wyddgrug, Mehefin 27, 1833. Gydagolwgar yr enw, onid ocs tinc cenedlgarol iawn ynddo, ac onid yw hefyd yn brawf o deyrngarwch y tad a'r fam i hyd yn nod enwau Cymreig ? 0 du ei fam yr oedd yn ŵyr i'r hybarch Robert Robcrts, Phos, hynafieithydd a duwinydd o gryn fri * Pootns, Addrcsses, a>i<l Essays, by the Eev. Lleweljrn Ioan Evans, D.D., LL.D. New York : The Chrístian Literature Society.—Prcaching Chrìst: Sernions by the Kev. Llewelyn I. Evans, D.D., LL.D. New York : Thc Christian Literature Society.—Biblical Seholarship and Inspiration : Two Papers by Llewelyn I. Evans and Henry Preserved Smith. Cincin- nati: R, Clarkc & Co,