Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ERYR ERYRI. " Ei lais gwiw felysai gôr: Bu i'n cyrddau'n ben-cerddor. Daelun dyddorol a pharchedig yw y darlun o'r hen Eryr hofi sydd gennym ni a'i hadwaenai 'n dda yn ystafell ein cof. Yr oedd yn ddyn golygus, o ran ffurf a gwedd a gwisg. Hytrach yn fyr na thàl ydoedd; ond llydan, trwchus, a chadarn. Yr oedd ffurf ) pen a'r wyneb llawn yn ateb yn dda i ffurf y corph, ac yn arwyddo cryn lawer o feddylgarwch, eofndra, a phenderfyniad. Gwr pur dawel a phwyllog oecld Owen Gruffydd, eto llawn o nwyf ac ynni; a golwg effro arno bob aniser, fel dyn parod i waith a pharod i anturiaeth, gydag egni a dewrder di-droi-yn-ol. Cas beth ganddo oedd y syniad o droi yn ol ar lwybr gwaith neu ddyledswydd; a gwael yn ei olwg fyddai y sawl a lwfrhai y'ngwyneb dyledswydd. Y mae hen gyfaill yn fyw heddyw a gafodd gernod effeithiol ganddo â'i law, pan oedd grym geiriau yn rhy fychan i'w berswadio i fyned ymlaen yn ei waith gyda chôr. Nis gwn paham na pha bryd y cymerodd efe y ffugenw " Eryr Eryri." Y mae gennyf gof fod rhai, pan ddechreuwyd ei alw wrth yr enw, yn tueddu i alw yr enw yn enw lled fawreddog a honiadol: ac wrth yr enw oedd wedi dechreu glynu wrtho ymhell cyn hynny y galwai llawer o'i gymydogion ef hyd y diwedd, enw ei hen gartref a chartref ei dad— " Penygreuor " : ond fe ddaeth yr enw "Eryr Eryri" hefyd yn enw hoff yn bur fuan ; ac yr oedd yn enw pur gymwys i'r gwr a'i cafodd. Yr oedd grym a beiddgarwch yr eryr yn ei natur: f e allai ymddyrchaf u yn uchel, fel yr eryr ; ac yr oedd llygaid eryr (onü heb eu llymder creulon) yn ei ben. Nid oedd neb na ddaeth i ddygymod â'r enw, oddigerth y bobl ag y mae seinio y llythyren r yn un o'u profedigaethau. Yn "Nhyrpaig Pen Llyn," ger Cwm y Glo, lle yr oedd ei nain o ochr ei fam yn preswylio, ac ym Mhen y Greuor (Llanrug), a'r Waen Fawr, a Hafod y Wern, y treuliodd efe flynyddoedd ei ieuenctid. Ar y deuddeg- fed o Âwst, yn y flwyddyn 1839, y cafodd ei eni. Enw ei dad oedd Gruffydd Owen : ac yr oedd Gruffydd Owen, Pen y Greuor, yn gerddor o gryn fri a defnyddioldeb yn ei gwmwd—yn arweinydd seindorf, yn ddysg- awdwr gwledig mewn cerddoriaeth, ac yn awdwr amryw dônau ac anthemau. Bu farw'n ieuanc (36ain mlwydd) o'r darfodedigaeth : ac oher- wydd hir waeledd a marwolaeth gynnar ei dad ni chafodd Owen ieuanc ddim addysg mewn ysgol ddyddiol. Da oedd iddo fod " yr ysgol rad Sab- bothol " yn dysgu rhai fel efe i ddarllen a meddwl. Yr oedd anian canu ynddo yntau, fel yn ei dad; ac aeth yn aelod pan yn bur ieuanc o gôr rhagorol y Waen Fawr, a ddysgid ac a arweinid gan y cerddor gwych a'r dyn galluog Pierce Williams, tad y meddygon hoff W. Lloyd Williams, M.B., Llanberis, a H. Lloyd Williams, M.R.C.S., Llundain. Un o'r dynion doethaf, llawnaf, a phuraf ei effaith ar eraill, a welodd Arfon erioed, oedd Pierce Williams. Nid oedd ball ar ganmol- iaeth yr Eryr iddo hyd ei fedd ; a da'r paham : fe gafodd eglur weled ei rin- weddau a'i wasanaeth trwy flynyddoedd lawer, ac fe gafodd lawer o hyfforddiant ganddo mewn dysgu- cerddoriaeth, mewn meddwl, ac mewn byw : ac fe ddaeth yr athraw i fod yn edmygydd mwy a mwy o'r disgybl, fel y cynyddai y disgybl. Yn mhen amser daeth "Owen Pen y Greuor " yn ddigoh galluog a medrus i fod yn arweinydd Côr y Waen ei hunan ; ac fe gafodd y swydd yn y flwyddyn 1866. Yr oedd ganddo barti da o dan oi ofal cyn hynny, yr hwn a enillodd y gamp mewn cystadleuaeth bwysig yn Eisteddfod fawr Caernarfon, yn y flwyddyn 1862! Wedi iddo gael y côr dan ei ofal fe ffurfiwyd Undeb Cerddorol Dirwest- wyr Eryri—undeb mawr a thra phwysig, a wnaeth waith effeithiol, dan arweiniad Ieuan Gwyllt; ac fe ymunodd Côr y Waen yn frwd ei fryd â'r undeb ; ac fe barhaodd hyd y diwedd i fod y côr mwyaf ffyddlon iddo. Y mae yn y wlad adgofion melus hyd heddyw am ganu ardderchog Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri pan oedd yn ei ogomant. Fe ganai Côr y Waen mewn cystadleuaethau pwysig, yn fynych, yn y blynyddoedd hyn ; ac fe orchfygai yn fynych. Yn y flwyddyn Ì872 claeth côr yr Eryr i fod yn " Gor Undebol y Waen Fawr a Llanberis;" a buan y gwnaeth y côr mawr hwn enw clodforedig iddo'i hun. Fe ddechreuodd fuddugoliâethu ar ei gyfer. Buddugoliaeth wech oedd yr un a gafodd yn Eisteddfod Gen- edlaethol Pwllheli. Ond y fuddugoliaeth fawr oedd ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, pan oedd corau mawr y Deheudir