Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENINEN GWYL DEWI. 13 Y PARCH. J. BOWEN-JONES, B.A. Parodd y newydd am farwolaeth y Parch. J. Bowen-Jones, tua diwedd y flwyddyn ddiweddaf, syndod a siomedigaeth i lawer o'i gyfeillion. Yr ydoedd wedi bod mor gryf a hoenus trwy gydol ei oes, mor weithgar a llafurus, fel nad oedd neb o honom yn cyssylltu gwendid a methiant â'i bersonoliaeth. Pwy bynag fuasai yn methu neu yn esgeuluso yr oedd efe yn wastad yn cyflawni ei ymrwymiad ac yn ffyddlawn i'w ddyledswyddau ; ond, er ei holl gadernid a'i ddyfalbarhad, y mae ei nerth yntau hefyd wedi ei ddarostwng, ac y mae weithian yn cael ei rifo yn mhlith y rhai sydd wedi dianc i fyd yr ysprydoedd. Yr olwg gyntaf a gefais arno oedd, yn y flwyddyn 1845, yn arholiad blynyddol Coleg Caerfyrddin. Yr oeddwn ar y pryd yn fyfyriwr yn Athrofa Ffrwd y Val ; a chefais awgrym oddiwrth Dr. Davies, yr athraw, trwy Mr. ThomasJones Trewaun, gyda'r hwn yr oeddwn yn llettyîu, y buasai yn fanteisiol i mi fod yn bresenol yn ar- holiad Coleg Caerfyrddin, ac y buaswn yn debyg o dderbyn llawer o wersi buddiol trwy wrandaw ar y gofyniadau a'r attebion, a sylwi ar y modd y byddai pethau yn cael eu dwyn ymlaen. Aethum yno yn ol yr awgrym ; ac un o'r pethau a adawodd yr argraff ddyfnaf ar fy meddwl oedd y gys- tadleuaeth rhwng John (Bowen) Jones a Thomas Evans, dau o'r ymgeiswyr am dderbyniad i'r coleg. Yr oedd John Jones wedi derbyn ei addysg baratoadol yn Ysgol Ramadegol Mr. Thomas, Llandyssul, gweinidog Undodaidd, ac un o ysgolheigion goreu ei oes; ac yr oedd Thomas Evans wedi bod dan ofal Dr. Lloyd ei hun, ac yn boarder yn ei dŷ. Vr holwr oedd y Parch. D. Davison, M.A., cynrychiolwr y Bwrdd Presbyteraidd yn Llundain ; ac yr oedd yn amlwg oddiwrth ei wyneb a'i holl ym- ddygiad ei fod yn llwyr fwynhau yr arholiad. Parhaodd, yn ddifwlch, am oddeutu tair awr; ac yr oedd yn anhawdd penderfynu pa un o'r ddau ymgeisiwr oedd yn rhagori. Derbyniwyd y ddau i'rathrofa yn ddiatreg. Yn 1846 bûm innau o dan arholiad ; a derbyniwyd fi gydag amryw eraill, yn mhlith y rhai yr oedd David Griffiths, mab y Parch. S. Griffiths, Horeb; David Davies, Aberddeuddwr; Evan Jones, Garth, Gwernogle, &c. Yr oedd Mr. William Roberts, gyda'r hwn y buaswn yn cyd- efrydu yn Ysgol Ffrwd y Val, wedi cael ei dderbyn i Coward College, Llundain ; ond gyda'r mudiad a gymerodd le i uno holl athrofeydd Cynulleidfaoi Llundain (yr hyn a arweiniodd i uno Homerton a Coward, &c, ac adeiladu y New College, St. John's Wood) anogwyd ef i ymuno â rhyw goleg Cymreig : felly trodd ei olwg tua Chaer- fyrddin ; a derbyniwyd ef, os nad wyf yn camsynied, ryw bryd tua Hydref 1845, neu ddechreu 1846. Pa fodd bynag, yr oedd yno pan ddaethum i'r athrofa; a neilldu- wyd J. (Bowen) Jones, WT. Roberts, a minau, yn ddosparth ar ein penau ein hunain, o dan yr enw " First Division "— yn mhob cangen ond yn yr adran Dduwin- yddol. Byddai pawb a dderbyniwyd yn 1846 yn cydgyfarfod fel un dosparth yn ystafell yr athraw Duwinyddol, y Parch. D. Davies, Pant-teg. Yr oedd ymuno â'r dosparth hwn yn ddyrchaflad i mi ; ond yr oedd anfanteision yn gystal a manteision yn nglŷn âg ef. Gan fod y naill a'r lla.ll o fy nghydfyfyrwyr ryw ddwy flynedd yn henach na mi, nid oedd ammodau y gys- tadleuaeth yn gwbl deg. Mae dwy flynedd yn gwneud mwy o wahaniaeth rhwng dynion yn ystod y cyfnod sydd rhwng pymtheg ac ugain oed nag a wna yn ystod gweddill yr oes. Yn yr arholiad blynyddol ! yn 1847 blinid fi gan gornwydydd ar wàr ! fy ysgwyddau ac ar fy mochgernau, fel yr I oedd fy wyneb yn chwyddedig ; ac edrych- j wn yn llawer tewach nag yr oeddwn. Er I ei holl ddysgeidiaeth nid oedd Dr. Lloyd | yn wr craffus ei sylw nac yn meddianu I llawer o ddoethineb ymarferol yn mhethau | cyffredin bywyd. Barnodd ef fy mod wedi \ bod yn ddiog ac esgeulus ; a gadawodd yr ; argraff hwn ar feddwl fy nhad. Yr oedd y : brif wobr wedi ei rhoddì rhwng Jones a i Roberts ; ac ni ddaeth ond ail wobr i'm rhan i. Ffrommodd fy nhad yn aruthr wrthyf, a gomeddodd fyn'd i'r draul ofynol ; er teithio i Lundain ; ac felly bu gorfod i arnaf roddi yr amcan heibio am y flwyddyn j hono, er fod y gwaith gofynol wedi ei gyf- | lawni. Yn 1848 aethum i fyny gydaThomas Evans, mab Mr. Evans, Pantsoar, heb fod yn nepell o Salem, plwyf Llandeilo Fawr ; a buom í 11 dau yn llwyddianus. Profedig- aeth i henafgwr, wrth ymdrin â helyntion ; boreu oes, yw ymdroi ac ymhelaethu nes ! blino y darllenydd ; ond y mae yn rhaid i i mi gadw at fy nhestyn, er fod genyf ; hawl, yn ol " braint a defod beirdd a llen- orion Ynys Prydain," i fanylu ae ymhel- aethu wrth fyn'd ymlaen. Yn 1850 buom ; ill dau o dan arholiad yn Somerset House. \ Llettyem ai y pryd yn Jewin Crescent,— y drwsnesaf i gapel y Methodistiaid Calfin- ; aidd : ac yr oedd yr enwog John Jones, Llanllyfni, a'i ferch, yn dygwydd bod yno | ar y pryd. iMewn ysgrifen yr oedd yr ; arholiad yn cael ei dwyn ymlaen ; ond yr ' oedd hawl gan yr arholydd i ofyn cwes- tiynau i'r neb a fynai ar lafar. Bu raid i ni ddysgwyl am wythnos cyn gwybod y canlyniad. Hir yw pob disgwyl; ond cawsom lawer o ddyddordeb wrth edrych | ar ryfeddodau Llundain. Byddem yn ym- ! wahanu yn y boreu, ac yn myned bob un ar ol ei orchwylion a'i ddyfalion ei hun ; ond cyfarfyddem bob nos a rhoddem gyfrif i o'n crwydriadau. Y noson cyn cyhoeddiad ; rhestr yr ymgeiswyr buddugol yr oeddwn ; yn gorwedd ar y soýa, tra yr eisteddai ì Jones wrth y ffenestr: a phan ddechreuodd \ ar y gwaith o adrodd helyntion y dydd yr ; oeddwn yn barod i gysgu ; eithr pan ddaeth, ! yn hamddenol iawn, i gymydogaeth Somer- set House yr oeddwn yn glustiau i gyd. Bu yn ymdroi am dipyn cyn dweyd ei newydd. Yr oedd wedi cwrdd âg un o'r gweinyddion; a thrwy roddi swllt yn ei law wedi cacl golwg ar y gyfres. Gor- awydd am wybod y canlyniad yn unig a allasai orchfygu ei gynildeb etifeddol a thynu swllt o'i logell. Gwelaf fod Y Tyst am Ragfyr 13, 1905, yn dweyd fod Mr.