Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GBNINBN EISTEDDFODOL. 31 DECHREU HAF. (Awdl Cadair Ffestiniog, Nadolig 1906.) Wedi gogoniant adeg y Gwanwyn, Daw'r Haf a'i ddeiliaid yn dorf i'w ddilyn A'i riniau, deffry bob bryn a dyffryn; A chlyw y dolydd ei uchel delyn : Rhydd ei dwf i erddi dyn,—a thremiad Bywiol ei gariad i bob blaguryn. Yr hedydd gâr yr adeg,— Bore y dyrch i'r wybr deg ; A gyrr, i'w frwynog orawr, Alaw wech o deml y wawr. Ac yn y gwŷdd cân y gog,— Aeres Anian rosynog : Ei deunod byr adwaenaf, Wrthi'i hun ar drothwy haf. Hedfan wna'r wenol glodfyw,— Rhag-fynegydd haf-ddydd yw,— A'i "thwi twi," hen iaith y tês, Rhan o gân yr hin gynes. Fe ddaeth yr haf heddyw, a thrig— cynghanedd Rhwng canghenau'r goedwig : Cy wair hoff fedd côr y wig Yn ei nodau unedig. Ar gangau eu pêr gyngerdd,—a geidw Teulu'r goedwig Iwyswerdd, Ehedgân a molawdgerdd A gyfyd o'r drigfod werdd. 0 mae'r haf yn llonni 'mron A'i lais anwyl a'i swynion,— Iach ei naws, serch yn ei wedd, A gwefredig hyfrydedd. O'i dý unig doed annuw 1 weied ol meddwl Duw ; A gwêl, os syml ei galon, Yn nhw y berth, wyneb Ion. Pêr yw odfa y prydferth,— Hauir swyn ar Iwybrau serth : I'w yfed rhydd Mehefin Hardd ei wedd ei beraidd win. Ar y llwyni darllenaf Heddyw'n wyrdd arwyddion haf. O dymor prid, y mae'r pren Afalau dan lif heulwen Oludog, yn flodau'i gyd,— A siriol iawn y sieryd Wrthym am ryfedd wyrthiau, Ewyllys Iôr i'n lleshau. 0 geined wyt, ganaid Ha', I'.th ganfod fel porth Gwynfa. 1 ddirfawr lu rhanu'r wyt,— Un goludog, hael ydwyt: Fel un halog ! gwyro gâf, Oni welir anwylaf Wenau y Tad ynot ti,— Dyst araul o'i dosturi. O'i law erioed, yn hael, rhydd Y caredig Greawdydd. Ca'r amaethon ei lonni Drwy dy hael gyflawnder di: Doi â bri i'w weryd braf ;— pob corsdir A pharth a lenwir â'r cnwd ífrwythlonaf: Ac hoyw yw pob gewyn,— Golud Duw sy'n galw dyn. Ar eu teithiau, Daw'r tymhorau, I'w hamserau, yma i siarad Am Ragluniaeth— Ddyry'n helaeth lachaf luniaeth o'i chyflenwad. Daw o auaf dihewyd Ddefnydd haf newydd o hyd. Y mae gwywiant llwm y gauaf, A min y rhew, er mwyn yr Haf. Mynd ar ei gwell, mwyned y w'r gân—lawen Glywir drwy holl Anian : Daw y mil trychfilod mân I'w hynt oll,—codant allan. Hwy wysir o'u llochesau —i dderbyn, I ddarbod rhag eisiau : Yn ei bryd pob gwyfyn brau Gâ nefol gynauafau. A'r gwenyn a drigianant—yn y maes,— Am y mêl ymholant: Hoff lu â'u phiolau ânt,— Rai diwyd, adre' deuant, O hel, bob un, ei gwala O fêl drud o flodau'r ha'. Iaith yr wyn yw—Daeth yr haf ; Ac i'w hynt ânt am y cyntaf. Bywiog fe welaf ar gribog foelydd— Hen noddfa hudol—y mwyn ddefeidydd : Yn ei dawelwch, o drwst heolydd, Mor bur ei hanes ym mro wybrenydd : Oriau haf, câ'r bugail rhydd—a dyddan Ddifyru 'i hunan rhwng praidd ei fronydd. Bu eira Ionawr yn hulio'r bryniau,— Y praidd dan nych ro'ent fynych riddfanau ; A'r corwynt anfad, ar ei grwydriadau, A'i hynt afradus yn gwneud difrodau ! Hen fryniau addien, gwisgo eu penau Wna Haf â'i oludog goron flodau : Yn llon, â'i hirion oriau,—gwna ddyddan Iach aelwyd eirian o'r uchelderau. Hyd lenyrch fu'n nod i alanas—'storm A'i stŵr, wele deyrnas Harddwch, mewn cyflawn urddas,— Tan îr wlith, tan awyr las. Dyry ddihalog glog glau Yn addurn i'r mynyddau. Dirif wledig dêr flodau—a rana Rhwng bronydd a bryniau ; Waria 'i fri ar dwyni'r íron Yn dirion hyd ei herwau. Ei effrös rydd i'r dyffryn, A'u harogl iach leinw'r glyn. Hyd i erw Duw, ar ei daith —y daw ; A dyd ei flodeuwaith Ar hyd y Ilwm feddrod llaith, Ail gwibiol angel gobaith. Daw â'i rosynau dros unig—fan bedd Un fu'n bur garedig, Imi draw, yn fy llwm drig, Yn nyddiau cur aniddig. Hoff ffoi o'r ddinas i brif ffyrdd Anian, I awyr wledig tan wybr lydan : Rhyw chwâ dyner, a iechyd ei hunan, A glew ewyllys, sy'n galw allan Yr ymwelwyr am wiwlan—fwynderau, O'u hen neuaddau a'u berw aniddan : Tawel gyffyrddiad huan—dry'n lloniant,— Tyrfaoedd geisiant yr hafaidd gusan. Hyd yr iach fynydd-dir uchel—yr ânt Am dro, i gael awel Bêr fwyn a dreiddia'n bur fel Di-ing anadliad angel. Caru edrych wna'r crwydryn—tua'r Haf, Trwy ei ing a'i newyn : Y di-lety dylotyn Oer a gwael, mewn eira gwyn