Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HUNAN-GOFIANT ENWOGION. y PARCH. EVAN phillips : (80ain mlwydd obd, hydref, 1909). Ganwyd fl yn ymyl y gareg filltir sydd yn rhanu y daith rhwng Aberteifì a Llanbedr yn ddwy ran gyfartal. Tŷ newydd ydoedd, wedi ei adeiladu i'r teulu newydd. Tŷ bychan oedd, er fy mod i yn meddwl ei fod yn dŷ go fawr. Bûm yn synu, wrth edrych arno wedi hyny, ei fod mor fychan. Efe oedd y tŷ cyntaf yn y parth hwnw i wisgo cap careg : ac yr oedd mwy o edrych ar ei ben nag ar ddim arall. Merch i Daniel Evans, Capel y Drin- dod—gweinidog gyda'r Methodistiaid—oedd fy mam. Yr oedd Daniel Evans a Christmas Evans yn blant i ddau frawd. Mab i saer yn ymyl oedd fy nhad. Bu fy nhad farw pan nad oedd Margaret, yr hynaf, ond naw oed, a John, yr ieuengaf, yn ddim ond tair wythnos: saith mlwydd oed oeddwn innau. Yr wyf yn cofio yr angladd yn dda. Yr oeddwn yn myned i Lanfair yn llaw fy nhaid, ac yn wylo, ac yntau yn addaw gofalu am danaf. Wrth fyned dros gefn Danderi, gwelwn y bobl yn cludo y gwair adref yn y gwaelod yno ; a synwn eu bod yn trin y gwair a fy nhad yn cael ei gladdu. Ymddangosai y fonwent yn lle rhyfedd i mi y diwrnod hwnw: ac nid wyf yn cofio i mi fod ynddi cyn hyny. Wedi myned i fewn i'r fonwent gwelwn yr offeiriad—Mr. Lloyd, Gilfachwen, yn dyfod i gyfarfod yr arch yn ei wisg wen ; a chefais fy nharo yn rhyfedd gan y contrast rhwng ei wisg wen ef a'r ywen ddu oedd yn ymyl. Deffrödd yr olygfa hono fy meddwl drwyddo ; ac y mae yr effaith heb beidio hyd heddyw. Y du a'r gwyn ! Y mae y cwbl rhwng y du a'r gwyn. Nid oes dim yn y du, ond y mae'r cwbl yn y gwyn. Y mae y du yn dywedyd—4 Byddwch barod i farw,' a'r gwyn yn dywedyd— « Byddwch barod i gyfodi.' • Myfi yw gwyliedydd y meirw,' medd yr ywen. Wedi cyrhaedd gartref yr oedd ein mam a ninau yn wylo ein goreu ; a daeth hen frawd i mewn ; a chan sefyll ar ganol y gegin efe a ddywedodd, " Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon," &c. Tybiais fy mod yn Ei weled yn llanw'r gadair lle'r arferai fy nhad eistedd. Nid wyf byth yn edrych ar y bwlch hwnw na byddaf yn gweled Tad yr amddifaid yn ei lanw. Pan fyddwyf yn methu cael hyd iddo yn unlle byddaf yn taflu fy ngolwg at yr hen fan hwnw ac yn cael Ei fod yn Uanw y lle. Y mae yn debyg mai rhyw ddrychiolaeth o blentyn oeddwn ; ac yn ol tystiolaeth y meddygon nid oeddwn i fyw ond am ychydig flynyddoedd. Bu y meddygon yn ddigon caredig i ddweyd hyny wrth mam, ac i ddweyd hyny wrthyf finnau wedi i mi dyfu i fyny. Ymhen rhai blynyddoedd wedi i mi ddechreu pregethu yr oeddwn wedi myned i Abertawe i lanw dau Sabbath yn y Trinity. Yr oeddwn yn wir wael y pryd hwnw. Yr oedd fy ngwaed yn aflonydd, a minnau yn ei boeri yn goch ei wala. Foreu Llun ar ol y Sabbath cyntaf aethum i shop yr Henadur Phillips, ac i fewn i eistedd yn y back rootn yno, lle y byddai diaconiaid a gweinidogion y lle yn cyfarfod i drin a thrafod pob peth. Nid oedd neb yn y room eto oblegid ei bod yn bur foreu. Gwelodd yr Hen- adur Phillips fì yn wael, mae'n debyg; ac aeth allan oddiwrthyf. Ymhen tipyn o amser dychwelodd a Dr. Michael, prif ddoctor Abertawe y pryd hwnw, gydag ef, â llond ei ddwrn o offer,—wedi bod yn operatio ar rywun, mae'n debyg. Gosododd y rhai hyn ar y bwrdd ; a daeth ymlaen ataf gan beri i mi sefyll ar fy nhraed, heb ddweyd dim arall wrthyf. Dechreuodd edrych fy ngenau, a gwrando ar guriadau fy nghalon, a gwrando beth oedd gan yr ysgyfaint i ddweyd, &c. Yna, wedi gorphen, gofynodd yn dyner i mi, " Where do you come from, sir?" " Prom Newcastle Emlyn, sir," meddwn innau. Yna meddai, " What made you leave those Arcadian groves for this smoky place ? Go back as soon as you can, for you are going to die." Cynghorodd fl i beidio dringo rhiwiau, na cherdded yn rhy gyflym ar unrhyw ffordd, rhag i un o'r llestri gwaed dori. Nid aethum adref cyn y Sul canlynol. Cyfodais y boreu Llun hwnw i fyned adref i farw. Cyrhaeddais gartref, ac yn fuan aethum i'm gwely, ac yno y bûm am ryw dri neu bedwar diwrnod. Yn foreuol iawn y pedwerydd dydd, rhwng