Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN EISTEDDFODOL. 57 Wrth edrych dros ymylau'r bedd, A gweled Mary yno, Mae hiraeth ar fy nghalon am Gael myned i orphwyso. '' Mi gofiaf byth yr olaf wên A welais ar ei gruddiau— Y wên oedd ddigon, dybiwn I, I ddotio calon angau, A'i hudo ar lesmeiriol hynt Dros lawer o flynyddoedd, Cyn meiddio dwyn fy nuwies hardd Drwy niwl y glyn i'r nefoedd. " Wrth weled angau'n d'od yn mlaen, j A'i gleddyf yn dysgleirio Gan fellten o'r bygythiad gynt Yn adlewyrchu arno ; Gobeithiem wel'd ei gledd yn sarn, Pan ddeuai i gyffyrddiad A'r cleddyf tanllyd hwnw oedd Yn fflachio'n myw ei Uygad. " Ond O ! wrth edrych arni hi Yn ngrym y dŵr yn " ildio," Fy enaid yn gwallgofi sydd, A'm calon yn llesmeirio ! Fy ngobaith a fy nghysur aeth I lawr i'r bedd i'w chanlyn ; Ac nid oes genyf hyd fy medd Ond trallod fyth i'm derbyn. " Mae ambell gyfaill yma a thraw Yn erfyn ar fy awen, Ehedeg dros ryw ddifyr gerdd, Er gwneud y cwmni'n llawen ; Ond O! mor anhawdd im' yw gwneud— Mae'r hiraeth mor angerddol : Gallaswn wylo iddynt hwy Hyd lan y byd anfarwol! " ' Beth dalaf mwy i flino'r byd, A chalon drom a thafod mud ; Yn wir fy nghladdu sy' lawn bryd— 'Rwy'n farw'n fyw ! " Yr ydym yn ei adael, a'r olwg arno'n ; brudd— Uwch beddrod ei anwylyd, a'r dagrau ar | ei rudd : Y nefoedd a ofalo am anfon iddo hedd, Hyd nes y caffo'i galon orphwyso yn y ! bedd! Llanwrtyd. JOHN THOMAS. Y WENITHEN. (Cwmlline, 1908). Gronyn aur gorona ein hŷd,—allwedd A chnewyllyn bywyd, Yw'r Wenithen ; bob enyd, Morwyn Iôr yn bwydo'r byd. Y GORON DDRAIN. (Llanrhaiair, Gwyl Dewi, 1909). Dirmyg gorddwys ar drem Gwirdduw,—drain barn Ar Deyrn byd, ro'i 'r didduw :— Wenwynig goron annuw Roddai waed ar ruddiau Duw. Dofwy. Y PULPUD. (Pen y Cefn, 1908). Gallu hyfedr, diledryw—i helpu, Yw'r Pulpud digyfryw: Hanfodol borth Nef ydyw, A gris aur at y Groes yw. Pwy yw'r Awdwr ? CWYMP DAGON O FLAEN YR ARCH. (Rhiw, 1907.) Diwrnod gofir byth fydd hwnw Pan roed Arch Cyfamod hedd Meibion Israel gyda'r ddelw Farwol, fud, a salw 'i gwedd ; Duw o Siloh ymadawodd, Israel ga'dd eu trechu'n llwyr,— Haul eu gobaith a fachludodd Yn ngorwelion prudd yr hwyr. Cerdda'r nos dros fryniau Canaan Mewn distawrwydd dwfn a phrudd ; Yntau Eli, o'i eisteddfan, Wedi syrthio'n farw sydd ; Ond yn rhandir y gelynion Dawns a chân sy'n llenwi'r gwynt:— " Am fod nerthoedd yn nhy Dagon Holltai'r hen Iorddonen gynt." Gyda'r wawr-ddydd beth yw'r wylo Drwy heolydd Asdod sydd ? P'le mae'r dewrion balch fu'n brwydro, Ac yn cyfÌLwn gario'r dydd ? P'le mae'r dawns fu'n llenwi'r awel ? P'le mae Dagon mawr ei barch ? " Hwnw," eb y bore tawel, " Sydd ar lawr o flaen yr Arch." Syndod ydyw i'r Phüistiaid Wel'd eu duw a'u hymffrost mawr Yn ymgrymu i Dduw'r Hebreaid, Gyda'i wyneb ar y llawr : Yn eu dychryn hwy a dybiant Mai rhyw ddamwain ddaeth ar hynt, Yna'r ddelw fawr gyfodant Yno i sefyll megis cynt. Gyda gwawr y bore wedyn Ant y i llu i dŷ eu Duw ; Mae'r olygfa yn eu dychryn,— Dagon ar ei draed nidyw. Syrthiodd eilwaith yn ddrylliedig,— Methodd sefyll hyd y wawr O flaen mawredd ansigledig, Dwyfol y Secinah Mawr. Pwy all sefyll, mwy na Dagon, Heb ymgrymu i'r Arglwydd Ior, Sydd â'i lwybrau yn nirgelion Holl ddyfnderau mawr y mor ? Pan ddaw'r danchwa fawr drag'wyddol, I wneyd nerthoedd byd yn sarn, Pwy a ddeil ogoniant dwyfol Brenin Nef yn d'od i'r Farn ? R. D. Jones (Daniel Cledwen). Dinbych. Y GWLADGARWR. (Cilfriw, Nadolig 1908). Gwladgarwr yw'r gwr rhagorol—a lŷn Wrth ei wlad byth bythol; A theyrn yw na thry yn ol: Hŷf wron,—mae'n anfarwol! T. GWERNOGLE EVANS. YR AWYR LONG. (Y Gerlan, Bdhesda, 1910). Awyr Long : wel, Hari, lad,—dyma hi " I'r dìm " at ein galwad : Awn yn syth, os nofia'n sàd, I roi llaw ar y Ileuad I Gwilym Llafar.