Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN EISTEDDFODOL. 61 ANFARWOLDEB. (Pryddest Gadeiriol Aberdar). Ryfeddol Anfarwoldeb I Dyma destyn A lona f'enaid trist, ddaearol bryfyn, Nad wyf yn gweled dim ond cysgod angau, Yn mhob cyfeiriad, yn amgau fy llwybrau. Tybygwn fod dy lythyrenau glwysion 011 yn pelydru, megis ser tryloywon, O flaen fy Uygaid ílaith, gan fud-awgrymu Rhyw fawr ogoniaut y tu draw'n cartrefu. Ond pa beth ydwyt ? Ai dychymyg swynol— Rhy wyllt, rhy hyf i fod yn ffaith sylweddol— A daflwyd allan gan ryw brif-fardd trylen 0 eiddo'r oesau gynt, yn ngwres ei awen ? Neu ddyfais gywrain rhai o ddeddfwyr daear 1 ysgafnhau och'neidiau teulu jaiar, A rhwystro halog fyd i fyn'd, ar unwaith, I ddyfnder eithaf rhyfyg ac erchyllwaith ? Neu, a wyt yn wirionedd ddeil, fel huan, I daenu ei ogoniant pur, anniflan,— Gwirionedd nertha farwol fod annheilwng, Pan fyddo pob peth arall yn ymollwng ? Pa foJd y treiddiaist i bob gwlad a gorawr Eneinir gan gymylau'r nef uchelfawr.— I bob rhyw giífach yr aeth dyn â'i lygredd I dori ar ddystawrwydd ei hunigedd.— I LapUnd a Siberia bell, annyddan, Lle gwelir pawb a phobpeth, ond dy hunan, Yn gwywo beunydd, o dan anadl ddeifìol Y pegwn oer a gwyn y rhew tragwyddol,— I Affrig ëang a Brazil adfydiog, Dan daallyd belydr y cyhydedd enwog; Cyn i waieiddiad mwyn nac addysg daflu Tosturiol drem ar un o'u meib melynddu,— Ac i'r ynysoîdd y'nt, fel alltud-bethau, Rliwng tỳu gadwyni myrdd o eirwon dònau, Yn mhelí o'r byd—heb wybod dim o'i hanes, Nac o'r syniadau sy'n cyffroi ei fynwes ? I ba ddybenion cerfia'r Groegwr craffus Ei " nef-esgynol fflam," â llaw mor fedrus, Ar gofgolofnau heirdd. uwch oer weddillion Ymadawedig geraiut ac athrawon ? Ai nid yw hon yn dystaw bortreiadu Esgyniad rhyw ddwyfolach flìam i fynu— Yr enaid annghydmarol—fllam na ddiffydd Yn nghanol niwloed 1 angau a'i ystormydd ? I ba beth hongia yntau'r Scythiad dinod Ei " lusern " yn nhywyllwch du y beddrod ? Ai nid yw hi'n arwyddlun gwan o'i eiddo O'r gobaith sydd am Anfarwoldeb ganddo ? Paham gwna'r Indiad, yn ei ddagrau heilltion, Grynhoi syrthiedig eirf ei eilun-wron ; A'u claddu hwynt yn ymyl y ddeheulaw A fu yn nydd ei mawrnerth yn eu chwyfìaw ? Ai nid oes yn ei fron ryw lais yn tystio Na ddarfu bri ei dderch gadfridog eto? Paham y pianaf fìnau ûodau tlysion Ar lwch y rhai fu'n anwyl gan fy nghalon, Os nad wyf am roi'm blodau byw'n ddarluuiau 0 fywyd gwell tu draw i oergell Angau ? Nhy fer i'm henaid ydyw'r einioes hon, Rhy gyfyng hefyd yw y ddaear gron ; Am arall fywyd ac am arall fyd Ymofyn yn ddiorphwys 'rwyf o hyd ; A'm hiraeth am eu hetifeddu sydd Yn myn'd yn ddwysach, dwysach, nos a dydd. Anffyddiaeth haerllug—mamaeth annuwioldeb— Mewn gwawdlyd wedd gyhoedda yn fy ngwyneb Nad wyf, anhyffawd ddyn, ond dyfrgloch ofer A daflodd damwain ddall ar gefufor Amser, 1 ymfalchîo fynyd yn fy ngwegi, Ac yna i gael fy nharo—fy nifodi. Mynega im' o ba le mae'th awdurdod I seinio uwch fy mhen fath dynged hynod A gefaist hyn gan Natur ? A gyhoeddir Cyffeljb iaith yn mysg ei gwersi cywir? Ai nid amdrei lad cyson, ac nid chwitkig Ddifodaeth, sydd drwy hon yn ganfyddedig ? Ai ni chanfyddi'n amlwg fod dadfeilrad Yn rhagredegydd llym i adgynyrchiad; Ac fod marwolaeth, er mor annymunol Ei gwedd, yn borth i fywyd adnewyddol ? A gollwyd rhyw dywodyn o fo lolaeth ? Neu a yw dyn—derch lyw y greadigaeth— I fod yn Uai ei fraint, yn waeth ei dynged, Na'r Uwch y troedia arno mor ddiarbed ? O ba le deiíliodd y dymuniad cyndyn Sydd ya fy mynwes am barhau'n ddiderfyn ? 0 ba le'r gobaith hyf, a'r hiraeth hyfryd Am arall fyd, lle byth-fìagura bywyd ? Neu yate'r dirgel fraw, a'r arswyd mewnol, Rhag cael fy ng dlwng i ddiddymdra hollol ? DJifodiant erch ! Mae f'enaid yn ymwylltio,— Nis medraf ddal yn hwy yr olwg arno. Rhy wan yw'th dwyll a'th ddoniau di, anffydd- iaeth,— Rhy wan f'ai iaith taranau'r greadigaeth,— Rhy wan yw pobpeth—ond dialedd dwyfol, I'w wneuthur im' am eiliad yn dderbyniol. 1 ba beth cynysgaeddwyd dyn â gallu I ddringo ar hyd grisiau dysg i fyny, Ac i arfogi a dadblygu nerthoedd Ei feddwl mawr mor ddibaid is y nefoedd ? A fedr anifail dori dros derfynau Na sangwyd gan flaenorol genedlaethau ; A chwareu mewn cre'digaeth newydd, wirfyw, Na welodd meddwl egwan un o'i gydryw ? Na, na, ni fedra byth : ond dyn ä rhagddo Drwy'r ffiniau roddodd ei hynafiaid iddo, 0 radd i radd, dros holl deyrnasoedd sylwedd A meddwl. Ýmddifyra'n nghanol mawredd Na chanfu dyn o'i flaen. A i ddidor awydd Am wel'd—am wybod—sydd, o hyd, ar gynydd. Ai'r 'chydig flwyddi dreulia ar y ddaear, Mewn anhawsderau fil, a phoen a galar, Yw'r oll fesurir iddo i weithio allan Ei iyfedd nerth a'i yni, wedi'r cyfan ? A edy'r Ior ei awydd, yn anniwall, 1 fod yn eithriad syn i bobpeth arall ? Beth am gymeriad yr Anfeidrol Hanfod Sy'n Uywodraethu'r nef a'r ddaear isod? Onid yw rhinwedd, weithian, yn dihoeni, Mewn blinder siomedigaeth a thrueni; A phechod, ar arianaidd sedd, yn ysgwyd Ei deyrnwialen haiarn yn ddiarswyd ? Ai nid yw'r cyfiawn, gyda chalon ysig, Yn aml i'w weled, fel yr hydd clwyfedig, Yn gorfod troi i dawel dir neillduaeth, I dderbyn yno chwerw ddafn marwolaeth; A'r annuw'n cael Uonyddwch ac ymgeledd I ymddigrifo fwyfwy yn ei lygredd, A rhoi, fel creulawn ddraig, y tlawd diniwaid Yn abeith i liniaru bâr ei enaid ? Ai dyma yw cyfiawnder pur ? a ydyw Hynyma'n arddangosiad teg o'r Gwirdduw ? Ai nid oes arall ran o'r gylcharlunfa I lwyr esbonio'r hyn sydd dywyll yma ? Onid oes byd ac adeg eto i rinwedd I gael ei gyflawn wobr, ac i anwiredd Y gwae a haedda ef ? Ai ni chanfyddir Y duwiol megis seren wen; yr anwir Fel pygdalp diwerth ; a chyfiawnder dwyfol, Heb frychyn ar ei wedd, yn fyth-ddysgleiriol ? Er troi dalenau Natur, 'n ol a gwrthol, A'u chwilio'n fanwl, ganwaith yn olynol, Siomedig wyf. Ni welaf ar eu gwyneb Wir eglurhad ar brofen Anfarwoldeb. Rhyw awgrymiadau, rhy anhawdd eu deall, I wneyd fy nymuniadau'n fwy anniwall; Ac ambell ddarlun o wneuthuriad dwyfol I wneyd y sylwedd im' yn fwy hud-ddenol, Yw'r oll a gaf. Nid oes un frawddeg eglur I'w brofi ef, ac i wellhau fy nolur. A rheswm dynol eto ymgynghoraf,— Fel dysgybl ffyddlawn wrth ei draed eisteddaf : Dadguddia yntau, gyda doniau helaeth, Gyfrinion celf, a gwyddor, ac athroniaeth;