Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN EISTEDDFODOL. 63 Ac einioes faith yr hynaf gawr a fu, Yn ymyl gwir hirhoedl y dedwydd lu ? Mor ynfyd wyf! Paham y ceisiaf fesur Sylweddau'r Nef wrth ffrilion daear anmhur ? Wrth gefnu ar y beddrod oer, Lle rhoed ei baban mwynaidd, Er fod ei gwedd fel gwelw loer, Sibryda'r fam yn wanaidd :— " Fy mhlentyn hoff, os ydyw'r pridd Yu awr yn cuddio'th wyneb, Caf eto'th wel'd yn llon, ryw ddydd, Mewn hyfryd Anfar» oldeb." Wrth ymdrechu â'i elynion Yn yr anial dyrus, blin,— Wrth gael cwpaneidiau chwerwon Dyfroedd Mara ar ei fin,— Dyma ydyw nerth y duwiol, Dyma gwyd ei feddwl gwan— Fod y Ganaan wen anfarwol I'w meddianu yn y man. Y merthyr dewr, yr hwn gysegrai'i oes I daenu gwirioneddau pur y Groes, A welaf draw, rhwng erledigol lu, Yn cael ei arwain o'i garchargell ddu Eu poeredd daflant i'w lwyd wyneb ef, A bloedd eu cabledd ddyrch hyd entrych nef. Mal oen diniwaid rhodia yn ei flaen, A nefol glaerder dros ei wedd ymdaen. Mae'n cael hergydiad at y pawl amrosgo, Mae'r gadwyn ddur yn cael ei ihoi am dano, Mae'r byrnau coed o'i gylch yn cael eu tyru, Mae'r craswellt oddidanynt hwy yn ffaglu, Sisiala yntau :—" O fy enaid drud, Bendithia'r Arglwydd am ei ddoniau i gyd." Mae'r wisg am dano'n troi yn llen o fflamau, Mae'r wisg a'r tân yn cydymddyrchu'n dorchau. Cyfoda i fyny ei ddihalog ddwylaw, A dywed eto'n groyw a digyffraw:— " Mi wn fod fy Ngwaredwr raawr yn fyw,— Er chwalu'r babell hon caf wel'd fy Nuw." Mae'i fysedd oll yn cyneu fel canwyllau, Mae'i gnawd yn disgyn yn Hosgedig ddarnau ; Ond yn nyfnderoedd angau gorfoledda, A chyda fflamllyd wefus y cyhoedda— " Nid wyf yn cyfrif fy mlinderau i gyd Yn ddim yn ymyl mwyniant Gwynfa glyd." Ei nerth sy'n pallu Mae yn llwyr ddiffygio. Ymollwng wnaeth. Bu farw, gan gyflwyno Ei enaiJ glân, mewn sicrwydd Anfarwoldeb, I'w nefol Dad, uwch cyrhaedd pob gerwindeb. Drugarog Ner, rho'th ddidwyll ras o hyd I'm harwain drwy lygredig anial fyd ; A'm cadw'n mhell o'r ddyeithr wlad lle mae Blin oes ei phreswylyddion yn parhau,— Heb obaith gweled Anfarwoldeb gwir Yn mynwes neb tu fewn i'r tywyll dir. J. Gwrhyd Lewis. I WANT TO DIE (" MAE ARNAF EISIAU MARW."—TUDNO).— (Eisteddfod Dalaethol Powys). I want to die, I want to die That I may live the purer life That's hiddeu in my God on high; I long to quit this scene of strife, And be with Christ, where there is peace, And where all pain and sorrow cease. I want to die, I want to die, But, Oh ! I dread the surging tide ; With hands stretched out I wander by The swelling waters deep and wide, And feel for my Redeemer's hand To bring me to the heavenly land. I want to die to sin, and free My soul from every wordly tie, So that to die a gain may be, An endless gain;—I want to die That I may live, in peace and love, The life that's hid in God above. R. Abbey WlLLIAMS, Y CROESHOELIAD. (Pencoed, 1907). Er siriol wên y Uoer, rhyw noson ddu Oedd hono yn Gethsemane pan f u Gwaredwr byd mewn ing, a'i galon fawr Fel ar ymdoddi'n llif o waed i'r Uawr,— Pan yfodd Ef y cwpan chwerw i gyd, Wenwynwyd gan bechodau euog fyd ! O dywell nos !—Cyn sychu o'r ingol chwys Oedd ar ei ddwyfol rudd, o lys i lys Arweinid Ef yn wirion, ond diofn, Trwy d'w'Ilwch gwaeth na th'w'llwch uffern ddofn. Goddefodd lawer wedi gadaw'r Ardd,— Do, boeri gwawdlyd yn Ei wyneb hardd,— Y curo, a'r fflangellu dig drachefn, Nes oedd y gwaed yn ffrydio ar ei gefn,— Ei wisgo â'r goron ddrain, a gwrando bloedd Y filain dorf—" Croeshoelier Ef," nes oedd Ry wan i ddwyn Ei groes i ben y bryn ! Fy enaid, dwed :—Ai drosof fi bu hyn ? Fy Arglwydd Dduw, anrhaethol well gen' i F'ai 'namnio byth, pe cadwai hyny di Rhag goddef malais eithaf dyn, a'i wawd, Dros un mor wael:—O Fendigedig Frawd! 'Rwy'n diolch fod o'm blaen drag'wyddol ddydd I'th ganmol a'th glodfori yn ddiludd. Ar fryn y Groes, er pob arteithiol boen, Aeth trwy yr oll '* yn fud," addfwynaf Oen ! Y milwyr, tra yn pwyo'r hoelion dur Yn greulawn drwy Ei draed a'i ddwylaw pur, Yn Ue bytheirio melldith ar eu pen, Anfonodd weddi daer i'r nefoedd wen I eiriol drostynt, epil lawn o frad, Gan ddweyd:—" O maddeu iddynt anwyl Dad! " O ryfedd awr ! Ni fedrai'r haul uwchben Ddim edrych arno'n marw ar y pren ; Y creigiau rwygent, crynai'r ddaiar ddofn, Cyfodai cyrph y saint o'r bedd gan ofn; Trwy ymherodraeth Ior ni bu, ni bydd, Dim i'w gydmaru â'r amgylchiad prudd. Ond swn y gair " Gorphenwyd," er ei gur, Newidiai'r prudd-der yn Uawenydd pur ; A'i farw gogoneddus Ef a droes Ysgymun, fnaidd, afìan bren y groes, A'r bryn, Ue safai, yn destunau cân I deulu Duw hyd byth yn Seion lân ;— Calfaria Fryn, a Gwaed y Groes, fydd mwy Y nodau uchaf yn eu hanthem hwy : " Calfaria " dreigla'n mlaen o oes i oes ; A chreigiau'r byd adseiniant—" Gwaed y Groes." Nantymoel. W. JONES. CYLLIDEB 1909. (Y Cwrtnewydd, 1909). Cwys o wndwn Cysondeb,—a dorodd Da arädr Brawdoldeb, Er gwellhâd, yw'r Gyllideb;— Un well na hon ni aU neb. Rhyw aradrwr o wrhydri—a'i tròdd ; Hâd Rhyddid roed ynddi; 'Storm drist dramwya drosti,— O! 'gawn ni dês ? 'gnydia hi ? Cledlyn.