Symud i'r prif gynnwys

108 THOMA8 GEE. mawr," deall amcan gwaith y meistriaid, a dysgu gweithio dan ddylanwad eu hesiampl nes y dont yn feistriaid eu hunain. Ein perygl yn Nghymru gydag addysg o bob math yw meddwl nad yw yn werth dechreu dim mawr os na welwn fodd i'w gadw yn mlaen. Achwynir arnom gan ein cymydogion fod ein brwdfrydedd yn oeri yn fuan: yr ydym ninau yn gorfod cyfaddef fod peth gwir yn hyn. Yn awr, os yw brwdfrydedd dros amser byr yn nodweddiadol o honom, ac os mai anhawdd yw ein cyf- newid, oni ddylem geisio trefnu rhyw gynílun i gymeryd mantais o'r brwd- frydedd tra y parhao. 4- fyddai ddim yn bosibl i ni gael ysgolion symudol, fel hen ysgolion Griffith Jones Llanddowror, er engraifft, a gedwid i fyny gan frwdfrydedd cymydogaeth am ychydig flynyddau ac y gellid eu symud i fan arall wedi iddynt wneud eu gwaith yno ? Gellid cymeryd mantais mewn ffordd arall eto o'r un duedd genedlaethol drwy dfefnu i'r addysg beidio bod yn barhaol. Mae llwyddiant eisioes mewn un 'cyfeiriad wedi dilyn y cynllun o roi addysg am gyfran neillduol o amser, megys chwech neu wyth wythnos yn y flwyddyn. Onid ellid dadblygu y cynllun hwn mewn cyfeiriadau eraill ? Pe ceid cwrs o addvsg yn ein coiegau cenedlaethol dros dymhor y gauaf yn unig, a hwnw wedi ei gyfaddasu at angenion myfyrwyr na chawsant fan- teision blaenorol, dichon y caem weled bechgyn a merched y wlad yn dyfod am addysg yn y gauaf ac yn myned yn ol at eu gwaith yn yr haf. Caent yn y coleg olwg ar bethau newydd llenyddiaeth a gwyddoniaeth yr oes a'u cymwysent, yn mhen amser, i weled gwerth hen ragoriaethau eu hardal enedigol ac a'u galluogent i'w dadblygu, eu cyfaddasu, a'u cyfoethogi. Tueddai hyn i wneud addysg Cymru yn fwy cenedlaethol a chenedl y Cymry yn fwy diwylliedig. AberystwytTi. D. Morgan Lewis. THOMAS GffiE EEL YMNETLLDUWB GFWLEIDYDDOL. Ganwyd Thomas Gee Ionawr 24ain, 1815—y flwyddyn yr ymladdwyd brwydr fythgofiadwy Waterloo. Daeth ei dad, Thomas Gee, i Gymru, i fod yn argraphydd i'r Parch. Thomas Jones, Dinbych, un o ddynion enwocaf y Methodistiaid Calfinaidd y cyfnod hwnw, a chydweithiwr a chydoesydd â'r anfarwol Thomas Charles o'r Bala. Priododd Thomas Gee Miss Mary Foulkes, Llawog, ger Llanrhaiadr, Dyffryn Clwyd, nith i'r Dr. Edward Williams, Rotherham. Gwelir felly, er nad oedd ein gwrthddrych yn Gymro o ochr ei dad, fel y dengys ei enw, ei fod yn Gymro o ochr ei fam. Bu i Thomas Gee, yr hynaf, bump o blant; a'r hynaf o'r pump oedd gwrth- ddrych hyn o sylwadau. Bu am beth amser mewn ysgol yn ei dref enedigol, yr hon a gynhelid yn Castle Hill, Dinbych, o dan adclysg athrawes o'r enw Mrs. Williams. Pan ydoedd yn un ar ddeg mlwydd oed aeth i Grove School, Gwrecsam, i fod dan addysg Mr. Jackson, y prif athraw. Yma dechreuodd ei alluoedd dysglaer ymddadblygu. Wedi dychwelyd i Dinbych bu mewn ysgol a gynhelid gán y" Parch. John Roberts. Estynwyd iddo gymhellion yn y tymhor hwn i fyned i mewn am " urddau Eglwysig " yn Eglwys Loegr ; ond cafodd "ras ataliol;" dewisodd, yn hytrach, ymaelodi gyda'r Method- istiaid Calfinaidd, er mai Eglwyswr ydoedd ei dad. Wedi gorphen ei addysg cymerodd ei le yn swyddfa argraphu ei dad. Pan yn bymtheg mlwydd oed arwyddodd yr ardystiad dirwestol; a bu yn ddirwestwr selog o hyny hyd ei fedd. Nid oedd yn credu yn ardystiad y " cymedrolwyr." O'r braidd y gellid edrych arno ef fel cymedrolwr mewn unrhyw gysylltiad. Etholwyd ef, pan yn 15eg mlwydd oed, yn ysgrifenydd cymdeithas ddir- westol a gynhaliwyd yn nhref Dinbych yn 1830—y gynhadledd gyntaf o'r fath a gynhaliwyd yn Nghymru. Dengys y ffaith hon fod yspryd cyhoeddus ac awydd am wasanaethu ei gyd-ddynion wedi ei feddianu yn fore yn ei hanes. Yn ddyn ieuanc un ar hugain oed, gwynebodd ar y brif ddinas gyda'r amcan- o berffeithio ei hun yn ei alwedigaeth. Blwyddyn fu ei arosiad yn Llundain. Pan yno yr oedd yn gyd-ysgolor âg ef, yn ysgol Sab- bothol y Methodistiaid yn nghapel y Boro', y diweddar Syr Hugh Owen, yr hwn a gymerodd ran amlwg ac anrhydeddus er hyrwyddo addysg uwch- raddol yn Nghymru. Tra yn aros yn y brif ddinas dechreuodd ar y gwaith o bregethu yr Efengyl. Ordeiniwyd ef ar ol hyn i gyflawn waith y Ẅeinidog- aeth; ond dywedir ei fod ef yn edrych arno ei hnn fel lleygwr ar hyd