Symud i'r prif gynnwys

Y PABCH. THOMAS AÜBBEY. Mae Aubrey yn enw lled ddieithr yn y wlad hon. Dywed Theophilus Jones, awdwr hanes Sir Frycheiniog, mai y cyntaf o'r Aubriaid y gailasai efe wybod dim am dano oedd " Saunders de Alber- ico," neu "De Alba Ripa," o'r White Cliff, yr hwn y dywedid fod yr Iarll Boulogne a Maeslywydd Ffrainc yn frawd iddo, Daeth yr enw " De Alber- ico," neu " De Alba Ripa," i gael ei silliadu yn Awbrey, ac Aubrey. Daeth y teulu i'r wlad hon gyda William y Gorchfygwr, tua y flwyddyn 1066; ac yn ol arfer yr oes, yr oedd y brenin yn rhanu y wlad orchfygedig rhwng swydd- ogion ei fyddin, gan gadw yr hawl eith- af yn ei law ei hun: ac mewn canlyniad i hyn cafodd Syr Reginald Awbrey faen- orydd y Slwch ac Abercynrig yn eiddo íddo. Yn llyfr Theophilus Jones ceir achau Aubriaid y Slwch ac Abercynrig, Aubrey, Llanelieu, Tredomen, ac Ynis- cedwin, fel rhai yn meddu tiroedd ac eti/eddiaethau yn y wlad; a chawn hv/ynt yn cymysgu gyda theuluoedd uchel-waed yr amgylchoedd. Bu un o'r Aubriaid, o'r enw William Awbrey, yn gangellydd esgobaeth Ty Ddewi yn y flwyddyn 1514; a bu un Thomas Aw- brey, wedi hyny, tua dyddiau Charles I. ac 01iver Cromwel, er nad yw enw hwn na'i ddylynydd, Dr. Cruso, ar lechres Brown Willis; ond y mae ef e ei hun wedi ei roddi mewn ysgrif sydd yn nglŷn â'i lyfr sydd yn nghadw yn Llyfrgeli Bodleian. (Gwel Jones' History of Brecknockshire, tudal. 465). Gallwn feddwl, ynte, mai disgynydd oedd Mr. Aubrey o rai o'r teuluoedd uchod o'r Aubriaid: a gallwn yn naturiol dybied *îi fod yn ddisgynydd o rai o'r canghen- au cyfoethog ohonynt. Yr oedd rhyw- beth annghyffredin yn oego ei gorph a'i feddwl; a dywedir fod ei dad yr un modd, fel pe buasai ôl diwylliant er ys cenediaethau wedi bod ar y Uinach yr hanodd ef o honi:—yr oedd rhywbeth mawreddog a breninol yn osgo ei gorph a'i feddwl ef. Ganwyd y dyn mawr hwn yn Nghefn Coed y Cymer, Sir Forganwg, yn 1808, ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Mai. Enwau ei rieni oeddynt Thomas Aubrey ac Anne Price, y,rhai nid oeddynt erbyn hyn amgen nag aelodau anrhydeddus o'r dosbarth gweithiol. Pan nad oedd Mr. Aubrey ond ieuanc symudodd ei rieni i fyw i Nant-y-glo. Nid ymddengys iddo gael ond ychydig fanteision addysg yn more ei oes; eithr trodd allan i weithio mewn gwaith haiarn; a'r gangen neill- duol o'r gwaith yr oedd a wnelai â hi ydoedd y rholen (roller). Gyn belled ag y gellir casglu, treuliodd bedair blyn- ©dd ar ddeg cyntaf ei fywyd mewn an- wybodaeth meddwl ac anystyriaeth calon; eithr yn yr oedran hwnw troes i mewn yn ddamweiniol i addoldy Wes- leyaidd bychan gerllaw ei gartref; a phwy a ddigwyddai bregethu yno ar y Pryd ond y Parch. John Williams yr Ail, fel ei gelwid, yn ddechreuol o Lanfair- pwll-y-gwyn-gyll, Mon. Yr oedd Mr. Wiiiiams yn un o'r gweinidogion cryfaf o ran dawn a gallu meddwl a feddai y Wesleyaid: brawd ydoedd i'r enwog David Williams, " Yr Hen Frenin" fel ei gelwid yn gyffredin. Glynodd saeth oddiar fwa y weinidogaeth hono yn ei galon, ac o hynny allan y mae cyfnod newydd yn gwawrio ar ei gymeriad. Yn tnhen noswaith neu ddwy ymunodd â'r gyf eiiiach; ac yn mhen blwyddyn cawn ef yn dechreu pregethu. Ymroddodd ati o ddifrif i wneyd i fyny ddiffygion boreu oes; a chydag yni a nerth cawr dechreuodd ddryilio huaiau anwybod- aeth oddiam ei feddwl; a bu ei lwydd- iant yn gýfa'tebol i'w ymdrech. Gwel- wyd fod ynddo ddefnydd dyn—dyn a adawai ei ol ar y byd er gwell. Yr oedd yn gallu " creu mellt yn y pwl- pud," ys dywedai Williams o'r Wern am anhebgorion pregethwr llwyddian- us. Galwyd ef i'r weinidogaeth deith- iol yn 1826, pan nad oedd ond 18 mlwydd oed; ac ymddangosodd ei enw ar gof- nodau y Gynhadledd fel gweinidog rheolaidd Cylchdaith Dinbych a Llan- rwst, gyda nodiad fel hyn :—" D.S. : Y mae y brawd Aubrey i roi haner ei lafur i Gylchdaith Rhuthyn." Yr oedd y maes hwn, y pryd hyny, yn cyrhaedd ar ei hyd o Frymbo, ger Gwrecsam, hyd i Gonwy, yn Arfon; ac ar ei draws o Abergele i Benmachno; cynwysa yr un maes yn awr luaws o gylchdeithiau. Yn 1827-8 llafuriai ar Gylchdaith Dolgellau, yn cynwys Abermaw, lle y torodd ad- fywiad nerthol allan dan ei weinidog- aeth. Oddi yno aeth i Lundain, lle yr arosodd am ddwy flynedd, ac y ffurfìodd gydnabyddiaeth â'r duwinydd enwog, y Parch. Richard Watson, yr hwn ydoedd arolygwr Cylchdaith City Road ar y pryd, a than reolaeth yr hon yr ydoedd y gweinidog Cymreig yn y Brif-ddinas. Yn 1831 llafuriai ar Gylchdaith Rhuthyn a Llangollen, ac ar Gylchdaith Treffyn- on a'r Wyddgrug yn 1832-3; Llanfyllin a Llanf air Caereinion yn 1834-6; Rhuthyn a Dinbych, 1837-9; Liverpool, 1840-2; Caernarfon, 1843; Llangollen, 1843-5; Merthyr Tydfil, 1846-8; Liver- pool, 1849-51; Bangor, 1852-4; Treffyn- on, 1855-6; Bangor, 1857-9; Liverpool, 1860-3; Llanfyllin, 1863-4. Tra yn ei gylchdaith olaf, sef Llanfyllin, yr oedd nychdod yn dyfod arno yn gyflym; a rhoddid aml arwydd o rybudd iädo ef a'i gyfeillíon Uuosog fod ei oes brysur yn tynu tua'i therfyn. Yn Awst, 1865, rhoddodd ei weinidogaeth deithipl i fyny, ac ymsefydlodd yn Nghaerlleon fel Uwchrif: symudodd oddi yno i'r Rhyl yn Ngorphenaf 1867. Oddiar ei fynediad cyntaf i faes y weinidogaeth ystyrid ef yn perthyn i'r dosbarth blaenaf o arwyr y pwlpud Wes- leyaidd yn Nghymru: ac fel y syrthiai y naill arwr ar ol y llall i'r bedd yr oedd ei safle ef yn dyfod ya fwy amlwg a