Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

210 Y PABCH. B. EVANS (TELYNFAB). der llinellau da Tudno wedi dallu llygaid bemniaid ac eraill fel na chanfyddent y beiau gerllaw. Hyn sydd sicr : fe fedrai Tudno ganu yn gelfydd neillduol; ond ni wnai bob amser—pan yn frysiog neu ddiofal. A fydd i lawer o'i farddoniaeth fyw yn hir? nis anturiaf brophwydo atebiad. Yr wyf yn credu fod oes a bri helaeth i rai pethau a wnaeth, ac y buasai i lawer ychwaneg pe buasai ,wedi bod yn fwy gofalus, ac wedi rhoi gwell chware teg i'w awen a'i farn. Fe ganodd lawer gormod, dan yr amgylchiadau; ac fe ganodd yn rhy ddarniog i wneyd y cyf- iawnder goreu â'i waith ac a'i enw. Ond fe fydd yn dda gan ei hen gydnabydd- ion gael mynd am dro eilwaith a thra- chefn trwy aml un o'i ganiadau; ac y mae rhyw swyn a bery iddynt yn yr enw Tudno. Alafon. Y PAECH. B. EVANS (TELYNFAB). Gadawodd y Parch. Benjamin Evans, y Gadlys, Aberdâr, y byd hwn am y byd anweledig tu hwnt i'r llen brydnawn ddydd Iau, Awst 23ain, 1900. Prudd- hawyd Aberdâr ar dderbyniad y newydd difrifddwys, oblegyd yr oedd " Evans bacli y Gadlys " yn cael ei anwylo yn gyffredinol. Ganwyd y Parch. B. Evans yn Nowlais, ar yr ail dydd o Fai, 1844. Dechreuodd weithio pan nad oedd ond plentyn wyth mlwydd oed ; a chlywsom ef yn dweyd ragor nag unwaith am ei anwyl dad yn gorfod ei gario i fewn ac allan o'r weithfa lle yr oeddynt yn gweithio. Pan oddeutu deuddeg oed teimlodd ei galon ieuanc fod arni eisieu Ceidwad, ac arosodd ar ol yn y seiat yn Eglwys Fedyddiol Moriah, Dowlais ; a chafodd ei fedyddio ar broffes, o'i ffydd yn Iesu Grist gan weinidog Moriah, yr enwog Barchedig William Lewis. Yr o-edd ei dad wedi ei fedyddio cyn hyn, ac yn grefyddwr da yn Moriah: ond, hynod i'w adrodd, cafodd Benjamin bacli y fraint o fod yn Nghrist o flaen ei anwyl fam, oblegid yn mhen rai blynyddau wedi hyny y bedyddiwyd hi—gan y Parch. W. Williams, Mountain Ash. Yn mhen oddeutu tair blynedd wedi ei fedyddio symudodd gyda'i rieni i Mountain Ash, lle, yn mhen peth amser, y cyfarfyddodd ei anwyl dad â damwain angeuol yn y gwaith, ac y cafodd mam gwrthddrych ein nodiadau ei gadael yn weddw gyda nifer o blant bychain heb hanner eu magu. Ond gofalodd Duw roi nerth i'r hen fam dda ac anwyl, a chafodd y plant eu magu yn ardderchog. Y mae pump o'r plant yn aros hyd y dydd hwn— un mab yn America, un arall yn Mountain Ash, a thair merch yn Mor- ganwg. Dechreuodd bregethu yn ieuanc, ac yn mhen peth amser aeth i ysgol baratoadol y Parch. J. P. Evans, Abertawe, er mwyn cael ei hun yn barod i sefyll yr arholiad am dderbyniad i Athrofa Fedyddiol Hwlffordd ; ac yn 1868 cafodd dderbyniad i'r athrofa. Cawn ei fod yn llenor, ac yn llawio ei ysgrifbin gyda medrusrwydd eithriadol, cyn iddo fyned i'r athrofa, oblegid ysgrifenodd nifer o erthyglau cryfion ar bynciau gweithfaol i'r Gwladgarwr a newyddiaduron ereill, ac yr oedd pob ysgrif o'i eiddo yn bleidiol i'r dosparth gweithiol, ac arosodd felly hyd derfyn ei oes brysur a defnyddiol. Yn y flwyddyii 1871 cafodd ei ordeinio yn fugail Eglwys Fedyddiol Ty Ddewi, sir Benfro, lle y llafuriodd yn gydwybodol, a chyda derbyniad gwerth- fawrogol, am dros bum' mlynedd. Pan yn weinidog yn Nhy Ddewi, cyssyllt- wyd ef mewn glân briodas â Miss Annie James, merch Mr. a Mrs. James, Pencoed Farm, Pentyrch, Morgauwg. Profodd Mrs. Evans yn wraig rag~ orol i'n hanwyl frawd ar hyd ei oes, a bu yn dyner, dyner, o hono hyd nes i'r anadliad olaf fyned allan o hono. Yn y flwyddyn 1876 derbyniodd alwad unol a serchus i fugeilio eglwys y Gadlys, Aberdâr, lle y cafodd y fraint o lafurio yn ddiwyd a chyda graddau helaeth o Iwyddiant a pharch am gyfnod yn ymylu ar chwarter canrif, a lle y coeliwn y persawra ei enw am gyfnod Ilawer iawn meithach. Dewiswyd ef bedair gwaith yn aelod o Fwrdd Ysgol Aberdâr, a safai yn uchel iawn ar.yr ethol-res. Nid cerflun o aelod oedd yr 'Esgob,' ond aelod ag oedd yn fyw i gyfrifoldeb ei swydd, ac yn cyflawni ei ddyledswyddau gyda chydwybodolrwydd a ffyddlondeb. Pan y bu farw yr oedd yn aelod gwerth- fawr o'r Cynghor Dinesig dros y ward yn yr hon y preswyliai, ac hefyd yn ysgrifenydd gofalus Ysgol Ganolraddol Aberdâr, dros yr hon ar ei chychwyn- iad y gweithiodd mewn amser ac allan o amser i gasglu arian i'w sefydlu ; a bu yn eithriadol Iwyddiannns, Daliodd nifer o safleoedd o anrhydedd ac