Symud i'r prif gynnwys

CENINEN GWYLDEWI {ARGRAPRIAB ARBENIG O'R " GENINEN," 0 FAWRTH, 1901.) Y CYNTAF Y PRIFATHBAW T. C. EDWARDS, M.A., D.D. Un o feddyliau mwyaf awgrymiadol Duw jw " perthynas " mam â'i phlentyn; ac i'r graddau y bydd hon yn gynllun i'r perthynasau ffurfir gan gymdeithas y gweddnewidir hanes y byd. Rhydd y fam ei gofal, ei serch, ei gobeithion, a'i disgwyliadau, i'w phlentyn; a pha berthynas sy'n gadarn a phrydferth heb y pethau hyn? Onid y rhai hyn yw gogoniant pob deddfwriaeth ? all Senedd wneyd ei gwaith heb ofalu am y bobl, eu caru, a gobeithio a disgwyl gweled buddianau gwlad yn ddyogel yn eu dwy- law? Gofynion plentyndod yw gofyn- ion mwyaf dynoliaeth beunydd; ac o roddi y rhai hyn i ddyn y gwelir ef yn ei gogoniant. Onid y pethau hyn a geisir gan Dduw ei Hun yn yr Ym- gnawdoliad? Beth yw ystyr plentyn- dod y Gwaredwr ond Duw yn dod i geisio tynerwch, gofal, serch a gobeith- ion y byd? Yn nrych y berthynas hon y deallir cysylltiad cenedl â'i dynion mwyaf. Ddwysed fu gofal Cymru, gy- maint fu ei phryder, uched fu ei disgwyl- iadau a'i gobeithion yn ei meibion pen- naf! Ond ni fu hyn yn wir am neb yn fwy na'r Prifathraw hawddgar. Gwyl- iodd y genedl ef yn yr ysgol, pryderodd ynghylch. cyfeiriad ei fywyd wedi iddo orphen ei addysg, ymddiriedodd lyw ei haddysg i'w ofal, a disgwyliodd, efallai, fwy oddiwrtho nag oddiwrth yr un o'i meibion. Ac wedi ei farw y mae yn anwylo ei goffa, yn darllen ei lyfrau, aç yn mynwesu ei ddelfrydau—fel y gwna mam â dillad a rhoddion plentyn ym- adawedig. Ond nac ysgrifenner "ym- adawedig " na " diweddar" yng nglŷn â'i enw. Os iawn fu gwneyd hynny rywbryd, yn ystod y tair blynedd ddi- weddaf o'i oes y bu felly, pan analluog- wyd ef i ddilyn ei hoff waith. Nid' jw dyn mawr yn gadael cenedl ond pan y mae yn gadael ei waith, ac yn colli ei allu i arwain ac i ysbrydoli. Y parlys fu greulonaf wrth y Prifathraw—aeth â'i waith oddiarno, a bu raid iddo farw cyn ei gael yn ol. Dyna'r unig atalnod yn ei fywyd. Poenus iawn i Gymru oedd edrych ar Dr. Edwards—y gweithiwr arferai ddiystyru rhwystrau—yn gorfod bod yn segur. Ond gwelwyd ochr new- ydd dlos i'w gymeriad ym mlynyddoedd ei gystudd;;a llawn tlysach na'i weith- garwch diflin fu ei ymollyngiad tawel i ewyllys ei Dad yn y blynyddoedd hyn. Bu'n holi ar hyd ei oes: a rhyfedd ei weled yn y diwedd yn dilyn y " golofn niwl" mor ufudd a di-gwestiŵn. Arch- odd Duw iddo ddiosg ei ddillad gwaith yn anterth ei ddydd—pan oedd ei feddwl yn llawn o fwriadau—rhai o honynt yn newydd-anedig—a'i ysbryd yn goddeithio gan awydd i gychwyn cyfnod newydd yn hanes addysg ddiw- inyddol Cymru. Prin yr oedd neb yn meddwl fod mewn ysbryd mor orchfygol ddefnyddiau ufudd-dod mor swynol a thaweledd mor obeithiol. Dangosodd yn y diwedd ei fod yntau wedi bod lawn cymaint o ddysgwr ag o athraw; ac yn niwedd oes estynwyd iddo gyfle i weith- redu gwers anhawddaf bywyd—bod yn foddlon i'r arweiniad Dwyfol. Cafodd fywyd gogoneddus—bywyd o feithrin meddyliau ac o goleddu dyheu- adau; a bu farw cyn i'r un o'i gynllun- iau mwyaf gael ei fabwysiadu gan ei genedl. Tymhòr dedwyddaf tad yw'r adeg y mae'n magu ei blant ar yr ael- wyd—cyn i arferion y byd lychwino eu diniweidrwydd, a chyn i law arw cym- deithas gamdrin yr un o honynt: ac mor siomedig i dad fu cyfeiriad bywyd rhai o'i blant! Pelly gyda meddylwyr mawr—darganfod a meithrin cynllun- iau mawrion yw eu gwynfyd : a sawl un dorrodd ei galon wrth weled ei ddel- fryd yn cael ei dàl a'i chamdrin gan y byd! Mor siomedíg fu llawer meddyl- iwr mawr wrtb weled. eil syniadaui'n wrthodedig gan gvmdeithas. Araf iawn yw Cymru i werthfawrogi un o syniad- au anwylaf y Prifathraw—cael Neuadd Ddiwinyddol Anenwadol i Gymru ; ond y maö arwyddion eisoeis y bydd tfr plentyn hwn gyrhaedd ei gyflawn oed yn yr ugeinfed eranrif: a phan gyferfydd myfyrwyr diwinyddol Cymrn mewn nenadd felly i dderbyn hyffordd- iant athrawon medrusaf y byd gwn v bydd i'w llygad syllu ar ddarlun Thomas Charles Edwards yn crogi ar y mvv, a'i ysbryd ef fydd presenoldeb amlycaf gwyl yr agoriad. Amhosibl. mewn ysgrif fèr, yw frwneyd cyfiawnder â'i goffa.—^byddwn foddlon ar olrhain rhai o'r dylanwadau fu'n gweithredu rymusaf ar ei fywyd. Yr oedd ga.nddo ddynoliaeth oludog yn sylfaen i oruwchadeiladaeth ei gymeriad. Tardd yr holl ddylanwadau sy'n ffurfio cymeriad perffaith o dair ffynhonell fawr : —Natur, Diwylliant, a Gras. Yr hyn ydyw dyn yw ei natur: ac yn y ffvnhoneIl hon y cyferfydd yr hyn "a etifeddodd oddiwrth ei linach a'r dawn arbenÌÊr berthyna iddo'i hun. Drwy ddiwylliant dygir y natur hon i gymun-