Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y OBNINBN BISTBDDFODOL. 35 Yno gwelaf haul difachlud, dros benrhynau fy nyfodol Yn cawodi ei belydrau mewn boreuau annifianol. Yno gwelaf afon Duw yn tonni'n dawel drwy'i borfeydd, A chynulliad o angylion i'm hyfforddi i'w rodfeydd. Dyna'r gobaith sy'n fy nhywys yn ddiwyro atto Ef, Dyna'r gobaith sydd yn siarad yn anfarwol iaith y nef. Dyna'r gobaith sy'n tywynu drwy gysgodau fy mhrydnawn, Dyna obaith nad yw'n blino sugno'i nerth o'r Phiol lawn. Phiol lawn o'r bywyd hwnw sy'n cartrefu gyda Duw,— Dan ei ddylanwadau tawel nis gall enaid fethu byw : Mae yn llifo'n anfarwoldeb esmwyth i ddyfnderau enaid, Ac mae Sabbath o ddedwyddwch byth yn gloewi'i wawr fendigaid. IV. DIGON DUW. Mae cyflawnder yn yr Arglwydd nad yw'r byd yn ei amgyffred, Mae gogoniant yn y fendith nad yw'r ddaear wedi'i weled, Mae goludoedd yn Ei gariad sy'n awgrymu mwy o hyd, Fel y gawod sy'n y cwmwl heb ddatguddio'i hun i gyd. Llifo'n dlysach mae Ei afon drwy y byd wrth ranu'i rhin, Ac mae cenedlaethau'n plygu yn addolgar at ei min. Er fod oesau dirif wedi drachtio o felusder hon, ; Ymhelaethu mae'i therfynau, cyfoethocach yw ei thon ; Wyr y lili fach sy'n gwenu yn unigedd pell y glyn Fod ffynonau yn bwrlymu yn dragwyddol ar bob bryn ? Beth yw'r don sy'n mynd yn ddarnau ar y graig, ond awgrym gwan Fod eigionau Ei dosturi eto heb gyrhaeddyd glan, Ond mae eco'r tonau'n cerdded yn beroriaeth i bob man. Llanw mwy na'm disgwyliadau aruchelaf mae Efe,— Pan fo enaid yn Ei geisio mae yr Arglwydd lond Ei le. Nid yw Duw'n gwastraffu bendith, ond wrth gael Ei eiddo adref, Djnry fwy na cheisia'r angen, rhag i'r enaid hwnw ddioddef,— Dyry'n fynych, heb ei ofyn, dragwyddoldeb tlws o dangnef. Rhoi'r dadguddiad godidocaf mae Efe ar ol fy ngwahodd,— Ymfoddlona weld fy Phiol heddyw wedi llifo drosodd : Enill cynydd mae y fendith gyda chynydd ei blynyddoedd, Fel y cwmwl sydd yn tyfu'n greadigaeth yn y nefoedd. Uwch dirgelwch y gymwynas y myfyriais lawer awr, Fod y Phiol fechan hon yn medru cynwys rhodd mor fawr. Enaid wedi mynd a'i phiol o'r lle llifa gwin y nef, Ac yn gwrthod derbyn ganddo, sydd yn blino'i galon Ef. Pan fydd holl ffynonau'r cread wedi rhoi eu bwrlwm olaf, A phob afon wedi sychu o dan fflam y dydd diweddaf ; Pan fo'r lili ola'n gwywo, heb un gwlithyn ar ei min, A thelynau cerdd y byd yn segur ar ganghenau crin ; Bydd fy Phiol yn fy ymyl, a bydd Duw'n gofalu'i llanw, A bydd gwlith ar lili'r saìm yn aros mwy yn sanctaidd loew, Bydd breuddwydion fy mlynyddoedd gwynaf wedi troi'n sylweddau, A digonedd yn fy Phiol i ddwyfoli'm dyheuadau. Ni bydd eisíau arnaf mwyach : ni ddaw prinder at y bwrdd Sy'n doreithiog o'i rasusau : lle mae Duw a'i sant yn cwrdd ;— Nis gall enaid sydd yn gwledda ar y fendith hon ddyheu Ond am weld y gwyrthiau hyny, nas gall neb ond Duw eu creu. Ni ddeisyfaf weled mwy na gwel'd fy Phiol wedi'i llenwi,— Troi'n anghofrwydd mae pob cardod ond y rhodd ddaw oddi fyny. Boddlon wyf i gymwynasau prin y ddaear farw'n dawel,— D'wêd y caredigrwydd hwn fod Gwlad oludog yn fy arddel. Boddlon wyf i'r câr agosaf bellach gau ei law agored,— Gwneud fy ngwynfyd yn helaethach mae y fendith ddaw i waered. Mae y ddrycin ola'n marw ar gorynau bryniau'r nef, — Ni ddaw poen i aflonyddu oriau gloewa'i salmydd Ef. Gwn fod digon yn fy Phiol i fy ngwneud mor grÿf a'r angel, I fy ngwneud mor bur a'r perl sy'n gloewi pyrth Ei wynfa dawel : I fy nghodi hyd uchelion difrycheulyd Ei fyfyrion, Gydag emyn ar fy min, a gweddi newydd yn fy nghalon. Gwn fod digon yn fy Phiol i egluro'i gariad grasol, I roi goleu ar bennodau mwyaf cyfrin yr Anfeidrol : I fy nhywys i gyfeiriad gogonianau anfarwoldeb, I fy nghadw yn dragywydd yn ei hawddgar bresenoldeb ; Yn y presenoldeb hwnw canaf salm fy ngwaredigaeth Am fod digon Duw'n fy Phiol,—Phiol lawn fy Iechydwriaeth. Cenech.