Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cîîlrteaírm CetteblaBtír^L Rhif. 3. GORPHENAF, 1909. Cyf. XXVII. PENNOD O ADGOFION. Y teimlad cryfaf yn fy mynwes wrth ddechreu ysgrifenu ydyw edifeirwch, oherwydd i mi, ar awr wan, wneuthur addewid : ac nid heb reswm yr wyf yn edifarhau ; oherwydd mewn gwirionedd nid oes yn fy meddiant unrhyw adgofion ag y mae yn werth eu gosod ar ddalenau Y Geninen ; ac yn ol yr hen ddiareb, " ni ddaw o lestr ond sydd ynddo." Am adgofion o nod- wedd lenyddol, wrth gwrs, y dysgwylir ; ond yn mhell iawn o'r byd llenyddol y treuliais i holl flynyddoedd fy mebyd a'm hieuengctyd. Ni chafodd fy nhad na fy mam awr o ysgol ddyddiol erioed ; a byd yr Ysgol Sul a'r Seiat yn unig oedd eu byd hwy. Ni ddeallais i'r naill na'r llall erioed gymeryd dyddordeb mewn unrhyw fardd heblawr emynwyr Cymreig. Yr wyf yn credu y gallai fy nhad adrodd holl emynau Anne Griífiths, ac Edward Jones, Maes y Plwm, yn gystal a llawer eraill. Dyna fyddai ein difyrwch yn fynych ar hirnos gauaf—adrodd pennillion. Ar un ochr byddai fy nhad wrtho ei hun ; ac ar yr ochr arall fy mam, fy chwaer, a minnau. Ni byddem yn caniatäu i fy nhad adrodd yr un penniîl os byddai un o honom ni yn ei iedru ; ond er hynny byddai ein stoc ill tri wedi rhedeg allan yn mhell o flaen yr eiddo fy nhad. Ag eithrio Ieuan Ionawr, yr hwn oedd yn byw yn yr ardal pan oeddwn yn blentyn bychan, ond am yr hwn nid oes genyf nemawr o adgofion, y bardd cyntaf a welais erioed oedd Meurig Ebrill, yr hwn a ddeuai i Aberllefenni yn achlysurol i ymweled â pherthynasau neu ^yfeillion iddo. Un tro yr wyf yn ei gofio yn gofyn i mi, pan nad oeddwn ond plentyn deg neu ddeuddeg oed, a allwn i brydyddu ; a phan attebais nad allwn, dywedodd ei fod ef yn prydyddu pan oedd yn blentyn wyth oed. Rywbryd yn ddiwreddarach yr oedd Caledfryn yn pregethu am Sabboth yn Aberllefenni a Chorris ; ac nid bychan oedd y dyddordeb a gymerid yn ei ymweliad. Ni byddai fy nhad un amser yn gadael ei gapel ei hun ar y Sabboth i fyned i unrhyw gapel arall ; ac felly ni chefais i y Sabboth hwnw ond golwg ar Caledfryn yn cerdded yn nghanol cwmni o edmygwTyr oddi wrth y capel. Pe buasai Caledfryn, neu ryw bregethwr arall, yn nghapel Acchor ar noson waith, ni fuasai dim ond afiechyd yn ein hattal i fyned yno. Pa fodd bynag, y mae yn dda iawn genyf hyd heddyw i mi gael yr un olwg hono ar Caledfryn. Yr wyf yn cofìo yn dda y llathen y safai (yn hytrach y cerddai) arni ar y pryd ; ac y mae ei ddelw yn fyw ar fy nghôf y foment hon. Mi ddechreuais areithio yn y Band of Hoỳe yn Rehoboth, Corris, pan nad oeddwn yn fwy na saith oed. Fy mam y pryd hwnw oedd yn gwneyd fy areithiau. Byddwn yn eu hysgrifenu o'i genau hi, yna yn eu dysgu allan, ac yn myned i'r cyfarfod i'w hadrodd. A chefais golled am y Band of Hope pan y symmudasom i fyw i Aberllefenni, yn gymaint ag nad oedd yno yr un cyfarfod o'r fath yr adeg hono. Cyn hir cefais fy ngalw i areithio mewn cyfarfodydd dirwestol. Cynhelid y rhai hyny, bob pythefnos, yn y ddau gapel, y Methodistaidd a'r Annibynol, bob yn ail; a rhoddwyd i mi bob cefnogaeth gan flaenoriaid y nailì a'r llall. Bob yn ronyn gwahoddwyd- fi i gyfarfodydd dirwestol yn Nghorris, Esgairgeiliog, a Rhiwspardyn. Ar un adeg yr oeddwn yn dipyn o gantwr ; a bum droion yn y lle diweddaf gyda chyfeillion eraill yn canu ac areithio. Wedi i mi ddechreu pregethu, mynnai yr hen flaenor hybarch, William Jones, Ty'ntwdl, mai yn Rhiw- spardyn yr oeddwn wedi dechreu gwmeyd popeth oddi cartref. Un nos Sabboth yn Awst, 1868, yr oeddwn yn pregethu yno pan yr oedd y capel