Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HANES AC ADGOFION. 177 yn yr hen ddiod yn teilyngu i bobl ei charu ? Mae'n amlwg nad oes; am hynny, ymaith â hi! ymaith â hi! Mae lladron yn anhyfryd ; mae meddwon yn fwy anhyfryd. Nid oes fawr o berygl ond am y meddiannau efo lladron ; ond mae perygl efo meddwon i fywydau. Mae Dirwest yn llong, a'i baner yw, ' Na wna i ti dy hun ddim niwed ;' ac ar ei thu ol y mae, 'Tyred gyda ni, a ni a wnawn ddaioni i ti.' Mor fawr yw y cyfnewidiad a wnaed trwyddi i'r gweithwyr a'r tlodion ! Gobeithiaf y bydd Dirwest yng Nghaernarfon, cyn y terfyna y gymanfa hon, yn uwch na Thwr yr Eryr; y bydd megis wedi ei hail wneud; ac y bydd Cymru i gyd yn blodeuo fel gardd yr Arglwydd." Mr. Edwards, o Ddinbych, a ddywedai, os oedd ei gyfaill Mr. Prydderch am osod Dirwest fel llong i'r morwyr, y gallai yntau ei gösod allan fel cerbyd i bobl y tir sych. Pwysai lawer ar gael undeb yn yr ymdrech, er nad yn cryf dynnu, yn tynnu yn hir, ac yn cyd-dynnu. Os aent ymlaen felly, ei fod yntau yn barod i waeddi, " Clear the way " i'r cerbyd brenhinol. Nid oes dim cloffi rhwng dau feddwl i fod. " Ewch ymlaen, ddirwestwyr ! Onid yw teyrnas y gelyn at eich gwasanaeth ? Afreidiol profi fod Dirwest cyn hir i estyn ei theyrnwialen dros y byd. Mae y miliynau a restrir yn barhaus ar ei llyfrau yn flaenbrawf o lwyddiant heb ei ail. Ac yn ein llaw ni y mae y gymdeithas i fynd ymlaen. Gwyddom am Gymdeithas y Beiblau, na feddylia am orffwys nes, yn ol ei harwyddair gwych, y bydd wedi estyn Beibl i bawb o bobl y byd. Ac am yr un Ddirwestol, gwyddom hefyd na orffwysa nes y bydd wedi estyn sobrwydd i bawb o bobl y byd." Yna galwyd ar y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn. O gymharu drwg meddwdod a daioni Dirwest, gan eu pwyso yn y glorian, câi mai Dirwest bwysai hyd y llawr. '• Mae meddwdod yn wrtaith i bob drwg ac anffawd a all gyfarfod dynion. Yr oedd dyn yn Sir Feirionydd, yn ei feddwdod, wedi cyfarfod â damwain ; ac wrth ddod adre yn rhoi ' cetyn cwta' ym mhoced ei gryspas ; ac erbyn i'r wreichionen fach oedd yn ei getyn gael amser i gynneu trwy y boced, &c, aeth ymlaen, nes liosgi ei frest yn ddych- rynllyd, ac yntau yn ddiymadferth i ofalu am dano ei hun. Yr oedd yr olwg arno yn resynus dros ben. Ond wedi mendio, mynai feddwi drachefn ! Nid oes cymaint achos i gwyno am y merched; ond y rhai ohonynt sydd yn yfed, dwbl wfft iddynt! y maent yn ddychrynllyd i feddwl am danynt. Byddai yn anodd i un o breswylwyr y lleuad gredu mai creaduriaid rhesymol ydynt. Mae gwarth Prydain Gristionogol yn ei hymddygiad yn nodedig mewn cyfer- byniad i'r gwledydd paganaidd. Ei meddwdod a warthrudda Eglwys Dduw. Gwna y gair ' disgyblaeth egwysig ' mewn mannau yn ddi-ystyr, oblegid bod y rhai mwyaf cyfrifol yn yr eglwysi eu hunain yn yfed i ormodedd, ac am hynny yn analluog i alw eraill i gyfrif am eu bai. Yr wyf yn gwybod am ddyn o'r Deheudir a elwid Dafydd, ac a ystyrid yn « hanner pen '; ond byddai yn haws gen i, yn hytrach na hynny, goelio mai pen a hanner oedd ganddo. Sut bynnag, cafodd Dafydd ei geryddu am feddwdod: ond dywedai wrthyf wedi hynny, «Nid oes genyn nhwtha ddim llawer i ddeyd wrtha i chwaith ; gwelis i nhwtha yn feddwon ; ond bydden nhw'n deyd mai 'r ceffyl oedd yn tasgu; ond os felly, pam na fasa fo'n tasgu wrth fyned ?' Yr oedd pen Dafydd yn rhy sownd. A phan y mae meddwdod ymhob ffordd wedi gwneud y fath ddifrod mawr a chyffredinol, tybed nad yw yn bryd i ni bellach ddweyd yn ei erbyn ? Ac y mae Dirwest yn foddion teg, effeithiol, hawdd, ac ymhob modd ardderchog, i'w ymlid ymaith. Nid ydyw am geisio yr enedigaeth- fraint trwy unrhyw dwyll. Ei diod, y dwr glan, yw yr unig ddiod angenrheid- iol. Mae yn llawn mor addas yn ddiod ag yw yr awyr i'w hanadlu. Gwrth- ddadleua ambell un, « Os yfaf fì ddwfr oer, fe fydd salwch yn fy nghyfansodd- iad am ddyddiau.' Dichon hynny. Ond oni chei anwyd trwm oddiwrth yr awyr hefyd, wrth wneyd cam-ddefnydd o honi, yr un fath yn gymwys ag efo'r dwr ? Mae eisio pwyso'r da sydd yn ein hegwyddorion yn erbyn y drwg, cyn eu collfarnu. Ewylfysiwn i bawb ddyfod yn ddirwestwyr trwy nerth rhes- ymau, ac nid yr un ffordd arall. Nid deddf, na gorfodaeth, ond rhyddid