Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENINEN GWYL DEWI (ARGRAP3IAD ARBENIG OyR "GENINEN," Y CTNTAF 0 FAWRTH, 1892). Y PAECH. DAYID CHARLES DAYIES, M.A. Anfynych y talodd y Wasg Gymreig y fath bareh a gwarogaeth i enw a choffad- wriaeth neh ar ei farwolaeth, ag a dalodd i eiddo y Prifathraw sydd newydd ein gadael. Yr oedd y ganmoliaeth iddo o ran ei gymeriad yn ddiamwys, a'r dyst- iolaeth i'w allu a'i athrylith yn gryf a chalonog. Yr oedd yn anhawdd dyweyd gormod am dano ar gyfrif gloewder a nerth ei athrylith, dyfnder a phrydferth- wch ei feddyliau, ehangder a manyldeb ei ddysgeidiaeth, helaethrwydd a llwyredd ei ddiwylliant, ei ymgysegriad trwyadl, a'i ymroddiad diflino i wasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab. Ystyrir hefyd ei weith- iau llenyddol yn mhlith y trysorau meddyliol gwerthfawrocaf a feddwn fel cenedl. Nis gellir disgwyl, mewn ysgrif o fath hon, ddim byd tebyg i fywgrafnad o hono. Y mae defnyddiau ei gofiant eto yn wasgaredig, ac nis gellir eu cael yn nghyd ar unwaith. Yr ydym hefyd eto yn rhy alarus ar ol ei golli i ysgrifenu sylwadau beirniadol ar ei f y wyd cyhoeddus a nodwedd ei athrylith. Hyd yn hyn y mae ei farwolaeth yn cysgodi trosom, a'n dagrau hiraethlawn yn ein rhwystro i weled y gwrthddrych yn ddigon da i elfenu ei alluoedd ac i ddesgrifio ei nod- wedd. Pan y bydd amser wedi lleddfu ychydig ar deimladau galarus y darllen- ydd a'r ysgrifenydd y bydd yn briodol ei feirniadu. Ond, heddyw, y mae " ein telyn yn alar, a'n horgan fel llais rhai yn wylo." " Yr holl wlad a wna gwynfan a galar tost megys am unig fab," oherwydd ei golli. Cynysgaeddwyd ef â galluoedd naturiol eithriadoi o gryfion, a chafodd y rhai hyny yr amaethiad goreu o'r cychwyn, fel nad yw o un syndod i'r sawl a'i h&dnabu yn blentyn iddo ddyfod yn ddyn mor anghyffredin. Hanai o ochr ei dad o un o'r hen deuluoedd parchusaf yn Sir Peirionydd; ac yr oedd ei fam yn ferch £r Parch. David Charles, heuaf, Caer- fyrddin, priod yr hwn, a nain David Charles Davies, oedd yn un o had Abraham, ac yn wraig foneddigaidd a thra pharchus. Cefnder oedd ei dad i briod y Parch. Pdchard Jones, o'r Wern, ac i'r holwr pknt digymhar, y Parch. Owen Jones, o'r Geli, Sir Drefaldwyn. Bu ei dad, Mr. Robert Davies, gyda ei gefnder, Uwen Jones, yn ymdrechgar iawn i gy- »*} Ysgol Sabbothol mewn cwr o dref •a-berystwyth a elwir Trefechan. Yr ysgol hon oedd dechreuad yr Ysgol Sul yn Aberystwyth; a thrwy ei ymdrech yn y lle hwn y daeth Mr. Davies i sylw fel gweithiwr difefl gyda chrefydd. Daeth yn wr o barch a tlylanwad yn y dref, agorodd ei dŷ i groesawu gweinidogion y G-air, a bu yn garedig i'r achos mawr mewn llawer dull a modd. Yn nhy Mr. Robert Davies y cyfarfyddodd y pwyllgor unedig o Dde a Gogledd i ffurfio a threfnu erthyglau Cyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd. Cymerodd hyny le dair blyn- edd cyn geni Charles Davies ; ond yr oedd y ffaith ddyddorol hon yn cael ei chofio yn y teulu gyda pharchedigaeth mawr; a chedwir yr ystafell yr eisteddai y gwyr da ynddi ar achlysur mor bwysig gyda chysegredigaeth yn nhŷ ei frawd-yn- nghyfraith, Mr. D. Jenkyn Davies, hyd y dydd hwn. Dyddorol i'r plentyn wrth däarllen y Cyffes Ffydd, oedd clywed ei dad yn adrodd hanes ei ffurfiad: a dychymyged y darllenydd pa feddyliau a ddeffröent ynddo wrth glywed yr adrodd- iad. Pwy ŵyr nad rhyw air o'r adrodd- iad hwnw oedd y marworyn cyntaf a gyffyrddodd â'i ysbryd, i'w gyffroi a'i addasu at waith mawr ei fywyd. M«gys ei dad yr oedd ei fam hefyd yn hynod o weithgar gyda chrefydd, a bu yn athrawes ffyddlawn a llwyddianus jn yr Ysgol Sul am dros drugain mlynedd. David Charles Davies oedd yr hynaf o'r plant: ac am fod y teulu yn dda arnynt, cafodd bob manteision addysg. Bu am dymhor yn yr ysgol gyda yr hen rifyddwr enwog, John Evans, o Aberystwyth; gwr y teimlai Dr. Edwards, y Bala, ei hun ' dan rwymau parhaus iddo, fel un y der- j byniodd hyfforddiant a symbyliad oddi- ] wrtho. Pun o gylch un ar ddeg oed, an- | fonwyd ef i'r Bala; ac yr oedd ef yn un I o'r deuddeg a adnabyddir fel efrydwyr j cyntaf Athrofa y Methodistiaid yn y lle, I dan addysg Dr. Edwards a Dr. Charles. Arhosoda yno am rai blynyddoedd: ac adroddai yn ddiweddar mai wrth wrando ar Dr. Owen Thomas a Dr. Parry, pan yn efrydwyr yn y Bala, yn cwestiyno eu gilydd, ac yn ymresymu yn nghylch syn- iadau Jonathan Edwards ar "Byddidyr ! Ewyllys," y deffrowyd ei feddwl gyntaf i ' dalu sylw i bynciau duwinyddol, pryd nad oedd ond deuddeg oed. Wedi aros am rai blynyddoedd yn y Bala, aeth at un Mr. Fletcher i Hanley, yr hwn a gymerai ychydig o ysgolheigion ato ér eu parotoi i fyned i Brifysgol Llundain. Nid llawer o fantais a gafodd gyda Mr. Fletcher; ond darfu i'w awyád a'i ddyfalbarhad ef