Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplr&graton Cene&IaetfcoI. Rhif. 1.] IONAWR, 1893. [Cyf. XI. CYMRU FYDD. Y mae'n bosibl fod y darllenydd wrth ganfod y penawd hwn yn barod i ddywedyd, " Cymru Fu" yr wyf fi yn ei adnabod, a Ohymru Sydd a adwaen, eithr pwy ydych chwi, a soniwch am " Gymru Fydd?" Onid ydyw iaith cenedl y Cymry, ei hiaith gyntefig (y Geltaeg), yn cael ei llefaru yn Mhrydain, Ffrainc, amanau eraill yn Èwrop, er's mwy o oesau nag a wyr neb cyn dyfod- iad Csesar i'r ynys hon, yn agos i ddwy fil o flynyddoedd yn ol ? Ac oni leferir rhai canghenau o'r hen iaith y dydd heddyw, nid yn unig yn Nghymru, ond yn yr.Iwerddon, yn Llydaw, yn America, ac yn Awstralia? Ac wedi goroegi o honi gyfnewidiadau miloedd o flynyddoedd, paham bellach y sonir am " Gymru Fydd?" Am fod dylanwad gwareiddiad, addysg, gwybodaeth, celfyddyd, gwyddoniaeth, a chrefydd, yma fel mewn rhanau eraill o'r byd, yn cyflawni dywediad y prif-fardd Seisnig:—r " Ring out the old, ring in the new." Y mae'n bosibl i ni, yn ein brwdfrydedd, a'n cariad at yr hen iaith a hen arferion ein cenedl, geisio sefyll ar y traeth a'n hysgubell yn ein Uaw, er ceisio cadw allan y llanw sydd yn ymarllwys i fewn yn mhob cyfeiriad, a hyny gyda'r fath neith, fel na fydd ein hymgais ond testun chwerthin a gwawd; gwell i ni o lawer ydyw ceisio parotoi ar ei gyfer, amcanu deall arwyddion ein hoes a'n hamser, i'elìy y byddwn yn fendith i'n cydgenedl, yn garedigion i'n gwlad, ac yn arweinwyr i fewn i ddj-fodol newydd, ond gwell a rhagorach, efallai, i ni, i'n cenedl, i'r byd, ac i ddyfodol dynolryw. Fel y mae'r dyn unigol yn bodoli er mwyn y genedl, y mae y genedl hefyd yn bodoli er lles yr hil ddynol. Ac y mae pob cenedl sydd a hanes iddi, wedi bod yn help i wnend dynolry w yr hyn ydyw ar y ddaear heddyw. Ac yn ddiddadl, y mae y Cymry wedi cyfoethogi yr hil, yn gyfîredinol, â' rhai gwersi pwysig. Y mae'r genedl sydd yn enill goruchafiaeth ar unrhyw ragfarn neu anwybodaeth, ar drais neu orthrwm, yn ei enill nid iddi ei hun yc unig, ond i'r byd am bob oes. Yr oedd rhyddhad y caethion yn Mhrydain, yr help rawyaf i'w rhyddhau yn Ame^ica, ac yn mhob gwlad arall, ac feíly yn enill i ddynoìryw hyd ddiwedd amser. Y mae preswyl- wyr " Cymru Fu " wedi djroddef dros ei hiawnderau crefyddol a pholiticaidd. Y mae ei beirdd wedi gwisgo gwirioneddau aruchel mewn gwisgoedd gwir farddonol; y mae ei phregethwyr, ei huchelwyliau crefyddol, a'i heisteddfodau cenedlaethol wedi dysgu rhai gwersi i'r byd yn gyffredinol. Y mae ei Mabinog- ion, yn nghyda'r hen ysgrifau Celtaidd, yn ol tystiolaeth awdurdodau gwledj^dd eraill, wedi dylanwadu ar lenyddiaeth Ewrop. Y mae " Cymru Fu," felly, wedi bwrw ha'tling ei dylanwad i drysorfa fawr yr oesau, ac y mae y byd, o'r herwydd, heddyw yn fwy cyfoethog. Yr oedd yr hen Gymry yn trigo mewn castell diogel, rhag cael eu llygru fan lenyddiaèth aciaith estroniaid, sef Castell " D'un Saesiwj." 0 fewn i furiau wn, gallent hwy a'u plant deimlo yn hollol dawel; cyhoedded y Saeson eu cyfrolau anffyddol, eu newyddiaduron llygredig a'u pamphletau aflan,—yr oedd "Cymru Fu" rn gallu herfeiddio yr holi ddylanwadau estronol hyn o'i hen gastell—" Dim 'Saesneg:' Ond erbyn heddyw, y mae yr hen gastell hwn yn cael ei chwalu yn deilchion, a chyn hir bydd yn gydwastad â'r llawr. Nid ydym yn golygu wrth ddywedyd hyn y bydd yr iaith Gymraeg wedi marw am ganoedd o flynyddoedd, ond y bydd yr iaith Seisnig wedi dyfod i fewn i bob cilfach a glàn, drwy Gymru benbaladr. Ac y mae yr iaith hon yn dwyn gyda hi holl elfenau, diwg a da, llenyddiaeth yr holl fyd. V mae y gwahanol ddylan- wadau canlynol yn tueddu i chwalu yr hen gastell Dim Saesneg, ac i ddwyn i mewn Gymru Fydd.