Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrtaraton Cenefclatt&ol. Rhif. 3.] GORPHENAF, 1893. [Cyf. XI. Y BOBL A'E TIE YN NGHYMEU. ii. Fel y gwelwn, y mae y gweithwyr sydd yn rhydd oddi wrth ddaliad tir yn ymadael â'r rhanau amaethyddol i gael gwell manteision yn y gweithfeydd a'r trefydd mawrion. Ond y mae yna ddosparth pwysig o bobl sydd yn fwy clymedig wi th y tir, o herwydd y meddianau sydd ganddynt arno ac o herwydd y serch sydd ganddynt at eu hen gartrefi a'u hen arferion. Yr wyf yn cyfeirio at y dospaith amaethyddol. Er fod lleihad yn ddiau wedi cymeryd lle yn eu nif'er hwythau drwy fod fîermydd bychain oedd a theulu yn byw ar bob un, yn awr ac yn y man yn cael eu dodi at eu gilydd i wneud un lle mwy o faint, nid yw y lleihàd wedi myned mor bell ag y mae gyda dosparth y gweithwyr a'r crefftwyr. Y mae y cydymgais am ffermydd yn awr bron gymaint ag erioed; a pha un a all pobl dalu am danynt ai peidio y mae digon i'w cael yn barod i addaw yr hyn a ofynir. Guel lìe, o ryw fath, yw y pwnc mawr. Ai diffyg anturiaeth yn ydosparth amaethyddol sydd yn cyfrif am eu hanfoddlonrwydd i ymadael â'r tir? Oni bai fod yna ryw beth yn cadw yr amaethwyr gartreí diau yr elent hwythau yinaith. Y mae bywyd ffermwyr bychain Cymru yn galetach o ran gwaith nag eiddo y gweithiwr cyflog. Yn yr amseroedd caled yma peth mawr yw i ddyn allu talu ei holl ofynion a chadw rhag dyled, heb son am enill arian ; ac er mwyn gwneud hyn rhaid iddo gael dau neu dri o'r plant gartref i weithio gydag ef, heb enill dim ond eu bwyd a'u dillad, tra y gallent wneud yn well rywle arall. Treulia y plant fìynyddau ieuenctyd ar y fferm, pan y mae eraill yn dysgu elfenau crefì't neu fasnach, nes iddynt'fyned yn rhy hen i wneud dim ond dilyn galwedigaeth eu rhieni. Ehaid iddynt hwythau cyn hir edrych allan am ryw le bychan i ddechreu eu byd arno. Ẅedi disgwyl yn bryderus am gyfle a chael eu si'omi dro ar ol tro, nid yw yn rhyfedd eu bod yn barod i gynyg am le pan ddaw yn rbydd fwy nag a aìlant wneud o hono heb amddifadu eu hunain o gysuron bywyd a manteision addysg i'w plant. Felly, fe welwn fod plant amaethwyr Cymru, wedi iddynt gyrhaedd oed, yn teimlo naill ai anallu neu an- ewyllysgarwch mawr i ymadael o'r wlad. Y mae y duedd hon i aros gartref yn beth y dylid ei Ystyried wrth ymdrin â phwnc y tir. , Gan fod y pwnc hwn yn ei agwedd fasnachol a gwleidyddol wedi dyfod 1 sylw yn ddiweddar feallai y bydd y darllenydd yn disgwyl i mi ymdrin à'r agwedd hon. Y mae yn deg, gan hyny, i mi ddweyd cyn myned yn mhellach mai cysylltiad y bobl â'r tir yn ei àgẁeddau cymdeithasol a meddyliol y dymunwn yn awr alw sylw darllenwyr Y Geniîíen ato. ■ Yr wyf yn hyderu na fydd 1 bwysigrwydd yr agwedd wladwriaethol sydd yn dyfod i sylw mor amlwg yn y dyddiau hyn eìn rhwystro i weled pwrsigrwydd yr agwedd arall. Mae cael gwell deddfau yn beth da, ond nid yw yn ddigon. Un o r i^ethau mwyaf pwysig i amaethwyr Cymru, fel i bawb eraill, yw yspryd anmbynol. üs bydd pobl yn wasaidd pwy all eu cadw rhag cael eu gorthrymu ? Ehaid 1 w hawliau gael eu dadleu a'u henill ganddynt hwy eu hunain. Ehaid wdynt ddeall gwerth rbyddid a bod yn barod i wneud aberth er ei fwyn. Rhaid ìddynt hefyd wybod digon am y byd, a'r ffordd i fyw mewn manau eraill, a medru cyfaddasu eu hunain i amgylchiadau newydd er mwyn cadw yn fyw eu hyspryd annibynol, a'u galluogi i symud os bydd raid. Yn y blynyddoedd diweddat y mae llawer o amaethwyr ŷ wlad wedi prynu eu lleoedd eu hunam ac ymaait yn llawenhau yn y sicrwydd y mae perchenogaeth yn ei roddi. Ond pe byddai holl amaethwyr Cymiu heddyw yn meddu y sicrwydd hwn- ni fyddai 1 nyny symud eu holl anhawsderau. Wedi prynu Ue yn ddrud a benthyca arian y mae yn rhaid talu y llog, neu eto golli y tir. Meddylier fod tad yn gadael öerm