Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GTJTYN PADARN. " Yn y nos pwy sy'n Iesu ?—0 ! y diafi, Nid dyn, wna'i fradychu ! Na'r dyn sydd yn penderfynu, Nes synu diafl â'i gusan du ! " Yn rhwym, dacw'r orymdaith—arfog Yn ei orf od ymaith; Annwn oedd yn hyn o waith,— Dyn welid yno eilwaith. " ('E wridai dieifi mewn rhwyd o dân—adwyth Pan oedd Judas afian Yn gosod uffernol gusan, Feius lid, ar ei wefus lân.)* " Dim amser i'w garcharu—hyd brawf,— Gormod brys i'w faeddu, 0 lys i lys, anwyl Iesu;—a'r dyn Yno fu wed'yn benaf i'w wadu! "Mewnbrys, o'r naill lys i'r llall,—arwein- Yr anwyl Oen diwall: [ient Barnu Duw heb 'r un deall, A'i wawdio'n dost fel dyn dall. " Y goron wawd, a'i gernodio,—a rhoi'r Wisg borphor am dano : Yntau'n fud, dyna fo,—heb neb drwy'r 1 gynyg siarad gan ei gysuro. [wlad " O! Rufeinwr, rho i fynu:—di-feius Hyd fywyd fu'r Iesu: Ai gollwng! na, fflangellu Ei gnawd Ef wna'r pagan bu! " Wedi'r gorphen a'r penyd,—yr Iesu, Pan roes fyny'r ysbryd, Weiaf, yn ei olaf fûnyd, Yn gwyro'i ben i garu byd ! " Fel hyn, ei hun gyflwynodd—i angeu, A'r holl ing wynebodd : Pob cnawd ymaith draw drodd; lë, Duw a'i gadawodd ! " Yr Oen, yn Ue yr annuw,— Arno daeth llawn ddyrnod Duw : Dyodde' wnaeth; ac nid oedd neb Efo'r Oen, dan guddfa'r wyneb ! " Yn ol y ' cyngor bora',—Ei linell Gyflawnodd bob iota: Yn nherfyn Ei yrfa,—coron cariad, Pinacl ei fwriad, oedd Pen Calfaria." Yn ei sel mae yn nesau At ryw fan o'r terfynau, Lle'r oedd gan y paganiaid Lu blin, o annuwiol blaid, Eu teml, o gamp—ty amlwg oedd, Feddianai'r Anghrist fyddinoedd. Ac Elen deg lawn o dan—oedd selog I dai enwog ei Duw ei hunan : A chwalai hon nes ei chael hi—heb f aen Na mur, i'w adwaen, yn ei mawrhydi; Isel fan ei sylfeini,—yr un pryd, I fyny i gyd a fynai godi. Ac wrth hyn ca'i werth enwi Nerth ei holl brif wyrthiau hi! Do'i er prawf o hyd i'r pren Lle'r hoeliwyd Llyw yr Heulwen! Yr hen bren lle'r rho'i Ion braw' O'i gur dwys, ar gariad Duw, Yn marw 'i Hun heb un bai, A dwyn gwledd o dan Ei glwy'! Dychwelai'n frwd ei chalon, Yn foddhaus yn nghrefydd Ion; A chodai demlau 'i Cheidwad, O'i bywiog lwydd, yn mhob gwlad. * Yr oedd yr awdwr wedi croesi'r englyn hwn *Uan.—GOL» Os hyd ôl troediad Olwen—y tyfid Hafaidd dair meillionen, Codi wnaent, acw, hyd nen,—binaglog Dai'r Duw dihalog hyd droédiad Elen. Rhodiodd, er anrhydedd Ion, Ei breiniawl lwybrau union. Trwy sel, yn rhestr y saint,—gorphwysodd,— Yn Iesu hunodd dan bwysau henaint. Taliesin o Eifion. GUTYN PADAEN. Ym marwolaeth y diweddar Barch. Griffith Edwards, M.A. (Gutyn Padarn), yr hyn a gymmerodd le ar y 29ain o Ionawr di- weddaf, collwyd un gadwyn yn ychwaneg oedd megis yu clymu dau ben y ganrif hon wrth eu gilydd. Mab oedd Gutyn Padarn i'r bardd-chwarelwr enwog yn ei ddydd, William Edwards (Gwilym Padarn), o Lanberis. Yr ydym yn cofio yn dda myned gyd a'r talentog a brwdfrydig Glasynys yn y flwyddyn 1851 i Chwarel Llanberis i ymweledà Gwilym Padarn, a'i gael ef yn eistedd ar y faingc drwel yn naddu Üechi. Cawsom lawer o ymgom difyrus â'r hen fardd gwledig a diymhon- gar; ac ymddangosai yn hynod o falch o'i i'ab Grifnth, yr hwn oedd ar y pryd yn Gurad Parhaus yny Mwnglawdd (Minera), yn y rhan uchaf o blwyf Gwrexham. Ni wyddom pa bryd y ganwyd Gutyn Padarn, ond rhaid y bu yn gynar yn y deng mlyn- edd cyntaf o'r gannf, o herwydd yr oedd wedi myned gryn lawer dros yr oedran arferol pan urddwyd ef yn Ddiacon yn 1843. Nis gwyddom beth a fu ei fanteis- ion addysg yn ei blentyndod a'i ieuengctid ym mhellach nag iddo fariteisio yn dda ar yr ysgol ddyddiol yn Llanberis, ac ar bresenoldeb ymwelwyr Seisnig â'r lle, amryw o ba rai a gymmerasant sylw neillduol o'i gyflymder yn dysgu, a'i afael boreu ar y r iaith Seisnig. Nid peth hawdd oedd cael gafael, drugain a deg o flyn- yddoedd yn ol, ar fachgen ieuangc, hyd yn nod yn Llanberis, yn alluog ì siarad Saesonaeg yn rhwydd. Gallai Griffith Edwards wneyd hynny, a bu yn foddion i'w ddwyn i sylw cefnogwyr o'i athrylith, y rhai a i cymhellasant i fyned ym mlaen, ac, meddir ar draddodiad, a fuont yn gyn- northwywyr iddo. Ond cynnorthwy goreu pob dyn ydy w dyfalbarhad, cymmedroldeb, pai"odrwydd i dderbyn dysg, ac iechyd corph a meddwl i ddal pwys llafur. Dyma a fu ffynhonell anhysbydd dechreuad, cynnydd, a llwyddiant Gutyn Padarn. Gwnaeth y defnydd goreu o'i ysgol ddydd- iol, darllenodd hefyd lyfrau ei dad, gan feistroli yr iaith Gymraeg yn foreu. Cymmerodd ran mewn addysgu fel athraw cynnorthwyol; a bu, yr ydym yn credu ^, gryf, yn cadw ysgol ei hun dros enyd fer, ond nis gwyddom yn mha le. Pa fodd bynnag, dechreuodd astudio yr ieithoedd clasurol yn lled gynar. Gwaith caled i'r pen ydyw hyn i'r hunan-ddysgydd; a hunan-ddysgydd oedd Grifflth Edwarda i bob syniad ymarferol; o herwydd nid yw yr ambell were, ddwy neu dair gwaith yn yr wythaoB, oddi wrth offeiriad plwyf, wedi