Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENINEN GWYL ÛEwX 27 Y PAECH. E. WYNNE PABRY, M.A., B.D. Ail fab ydoedd Edrmmd Wynne Parry i'r Parch. Griffith Parry, Í).D., Carno. Ganwyd ef yn nhref Caernarfon, Awst 8fed, 1855. Dechrcuodd ar ei yrfa addysg yn Ysgol Ramadegol Llanrwst, yn 1862; a phan symudodd ei rieni oddiyno i Fan- ceinion, bu yno hefyd am beth amser mewn ysgol ramadegol. Pan yn bur ieuanc cafodd le yn Liverpool fel clerh mewn swyddfa marsiandwr. Oddiyno llwyddodd i gael lle yn y North and South Wales Bank, Liverpool. Symudodd oddi- yno i'r ariandy yng Nghaer. Yn ystod yr amser hwn ymwelodd Mr. Moody â'r wlad hon. Bu Mr. Parry yn ei wrando, a medd- ianwyd ei enaid gan awydd cryf am bre- gethu'r efengyl. Deehreuodd bregethu, pan tua 19eg mlwydd oed, yn eglwys John Street, Caerlleon. Am betb amser yr oedd yn bregethwr, ariannydd, ac ysgolor yn un,—triniai'r aur y dydd, ym- godymai âg anhawsterau yr ieithoedd clasurol yn yr hwyr, ac ar y Sabboth pregethai i bechaduriaid. Ond buan y bu raid i'r pregethu gael mwy o'i amser na'r Sabboth : nid ymgynghorodd efe â chig a gwaed, ond rhoes i fyny ei le yn yr ariandy, ac yniroes i waith yr efengyl. Derbyniwyd ef yn aelod o Gyfarfod Misol Fflint. Ÿn fuan aeth i Goleg y Brif Ysgol, Abeiystwyth, lle y bu ynefiydydd am y blynyddoedd 1877-1879. Cyn gadael yno eymerodd yr unig radd ag y gallai'r coleg hwnnw ei roddi ar y pryd, sef " Associate of thc Unẁersiti/ Collcge of Wales." Oddiyno symudodd i Goleg Lincoln, Rhydychen, lle yr enillodd efe opcn exhibition ; ac yno, o dan y diweddar Mark Pattison, y treuliodd efe bedair blynedd, y cymerodd honours in classical moderations, ac y graddiodd yn B.A., gydag anrhydedd mewn Hanes Diweddar; ond nid aeth i dderbyn urdd y radd honno hyd Hydref lOfed, 1890. Yn y flwyddyu 1883 ymgymerodd â gofal eglwys Seisnig Watton Street, Aber- honddu. Yn 1884 pasiodd yr arholiad Cymanfaol, yn ail ar y rhestr; ac yn 1885 ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidog- aeth, yng Nghymdeithasfa'r ÌDeheudir, a gynhaliwyd yn Llaneili. Yn Hydref, 1887, derbyniodd alwad i gymeryd gofal yr achos Seisnig yn Rhuthyn ; ac yno y bu efe hyd fìs Medi, 1889, pryd y daetli yn un o athrawon yr Ysgol Ragbarotoawl yn y Bala. Ar y 9fed o Awst, 1888, priododd Miss Lizzie Rol>erts, merch y diweddar Mr. Roberte, Bridge Street, Aber Ystwyth, a nith i'r diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A. Cymerodd ei radd o M.A. yn Rhydychen, Mawiih 14eg, 1895 ; ac mewn canlyniad i lafur eithriadol galed, llwyddodd, ar y 29ain o Fawrth, 1895, i gymeryd y gradd o B.D. ym Mhrif Ysgol St. Andrews. Ychydig iawn o amser a gafodd efe i f anteisio ar y wybodaeth a gasglasai wrth weithio ar gyfer y radd ddiweddaf yma. Cof gennyf ei weled yn dod gartref o'i gyhoeddiad rhyw ddydd Llun ym mis Tachwedd, 1896, a golwg wael iawnarno ; ac ni bu agos mor iach yn ystod gwan- wyn y flwyddyn hon ag y buasai cyn hyimy. Yn niwedd mis Gorffennaf, 1897, aeth i Landrindod ; a phan yno teimlodd fod rhyw afiechyd blin, os nad peryglus, wedi cymeryd gafael ynddo. Aeth yn fuan oddiyno i Landudno ; ac yno galwyd ar Dr. Carter i'wweled ef. DealloddMr. Parry, wedi ymgynghoriad y meddygon, nad oedd ond ychydig amser yn ol iddo ; ond ni chythryblodd. Dychwelodd i'r Bala, Awst 6ed. Yn fuan aeth i orwedd ; ac ar ol bod yn gorwedd, mewn cystudd blin iawn, am tua thair wythnos, bu farw'n dangnefeddus am wyth o'r gloch, nos Sadwrn, Medi 4ydd, 1897. Wele'r hanes. Ond ni buasai o fawr weiih dweyd hyn oll oni bai fod pethau llawer gwell a phwysicach i'w dweyd eto. Fel y dywedwyd, yr eglwys g\rntaf y bu Mr. Parry yn ei bugeilio oedd eglwys Seisnig Watton Street, Aberhonddu. Dechreuodd weithio yno o dan yr un an- fantais ag y mae llawer o'n bugeüiaid ieuainc yn gorfod ymladd yn ei herbyn— yr anfantais, os anfantais hefyd, o gael eglwys a dyled drom ar y capel. Ond ymroes ati â'i holl egni i symud ymaith y ddyled, a llwyddodd. Gweithiodd yn egniol yno ym mhob cylch y gelwid am ei wasanaeth; ac y mae ei enw'n berarogl yn y dref honno hyd heddyw. Ac nid llai a fu ei barch a'i lwyddiant yn Rhuthyn, pan y symudodd yno, yn Hydreí', 1887, i fugeilio'r eglwys Seisnig. Nid hir y gall dyn f od yn y dref honno na chlyw eiriau caredig am Mr. Parry,— geiriau j'n dangos gwerthfawrogiad Uawn o'i lafur diflin yno yng ngwaith yr Arglwydd. Yr oedd gan Mr. Parry syniadau chr am waith bugail. Nid oeddynt yn syn- iadau anghyffredin, ac yn sicr nid oedd dim }Ti chwjidroadol j-nddynt; ond yr oeddynt yn gìir ganddo, a'i ymgais ef tra y bu yn fugail oedd eu gweithio allan yn aawel a phenderfynol. Un peth a fawr gasai, ac y rhoddai ei wyneb yn ddi-ofn yn ei erbyn, oedd y sjiiiad mai gicas bach i'w egl^ys ydyw" bugaiì i fod,—mai ei brif ddiben mewn eglwys ydyw cymeryd y gwaith oddiar ysgwyddau y blaenoriaid. Mynych y clywais ef yn gi-esynu wrth feddwl am y drudgeri/ sy'n disgyn i ran ambell fugaìl. Yr oedd efe, yn ddilys, yn un o'r djmion hynawsaf; ond ni arbedai ei hun pan y caffai gyfle i gondemnio hyn. Gwyddai mai peth anhawdd, ac i ddyn gaeì chwareu teg, ydyw arwain eglwys, poiihi'r praidd, gofalu ainyr ŵyn, chwüio am ddefaid ar gyfeiliom, a diddanu'r gweiniaid a'r cystuddiedig. Gwn mai peth croes iawn i'w deimlad a'i farn ef i'uasai ei ddal ef i fyny fel cynllun o fugail; ond gallaf ddweyd fod rhai nod- weddion a berthynai iddo yn sicr yn ei wneyd yn fugail da. Yn un peth, yr oedd yn Pethodist Calfinaidd da; achredai yn wastad mai peth pwysig yw cadw y blaenoriaid oU, a'r eglwys hyd y gellir,