CENINEN QWYL DEWI. 45 Pan y oyfarfyddasom yn f uan ar ol eis- teddfod, na waeth i mi beidio ei henwi— eisteddfod yr oeddym ill dau yn digwydd bod yn aflwyddiannus ynddi, cofiaf yndda am ei eiriau calonogol—'' Na hidia ddim : mae beirdd gwell na ni wedi colli, ac y mae beirdd salach na ni yn ennill yn fyuych gadeiriau a choronau." Mor fan- teisiol yw ysbryd o'r fath i un a gystadl- euai gymaint ac un a gollai yn fynych yn yr ymdrech. Mae colli yn amí yn suro ysbryd y cystadleuydd afiwyddiannus, a thrwyhynnyyn ei anghymhwyso i fardd- oni yn deilwng o hono'i hun. Prin y mae ynof awydd na thuedd heddyw i geisio dadelfennu ei gymeriad fel bardd. Dichon mai symledd naturiol a phrudd-dynerwch (pathos) oeddynt y nodweddion amlycaf yn nheithi ei awen. Ymddangosai yn hapusach i mi yn ei alar- gerddi nag yn ei bryddestau eraill. Drwy ei awdl er cof am Hiraethog dringodd yn agos iawn i'r Gadair. Yr oeid testun ei awdl-bryddest, " Ac yr oedd hi yn nos," yn taro ei awen i'r dim, gan y rhoidai gyfie iddo i ddarlnnio tristwch a dioddef- aint yr Iesu. Yr oedd Ceulanydd yn wir fardd, yn meddu ar awen dyner, lednais, a phur; a dyna'r cwbl ddymunaf ddweud ar y pen hwn yn yr ysgrif fer hon o adgofion boi'eu oes: ond er bered yw, ofnaf ei bod yn rhy faith, gan na chyn- nwysa ddim svdd o ddyddordeb i neb ond i'r ysgrifenydd ei hun. Gan wneud ym- ddiheurawd am y fyfiaeth sydd ynddi, erfyniaf ar i ddarllenwyr Y Gentnen gyd- ymddwyn â mi, gan mai adgofion am febyd dau gyfaill o feirdd ydynt. Mae un yn mwynhau. bellach, dawelwch aniwyn- had y Nefoedd y'nghwmni beirdd a phro- phwydi yr oesau, tra y mae y llall eto y'nghanol anghydsain pechod ar ein daear; a thra yn sychu ei ysgrifen, yn methu sychu dagrau hiraeth ar ol cyfoed- ion cofiadwy bore oes. Hawen. WILLIAM SALISBITRY. Salisbury enwog, ddihalog feddyliwr, Yn addas godwyd vn brif ddysgawdwr : â choeth iaith haeddol, â chwaeth ieithyddwr, Bu'n fyw, gyfoethog, henaf gyíìeithwr: A thra'b'o'r iaith, gwaith y gwr—hwn barha, Dewr y siarada dros ei Waredwr. Glan Tecwyn. Y PARCH. W. NICHOLSON. Caed talent ynddo'n blentyn;—ei fyw nwyf, Y nefoedd wnai enyn: â gwedd heulog, ei ddilyn Yr oedd mawredd delwedd dyn. William anwyl noswyha—yn dawel, Wedi diwyd yrfa: Mwy, yn ei hûn, y mwynha, Wr addf wyn, ei orweddfa. Y Foel Gron. Owen Hughes. Y PARCH. J. EVANS (EGLWYSBACH). Tywysoo holl blant Iesu,—â'i dda ddawn Ddyddanai feib Cymru: Angeì y fwyn Efengyl gu, Yn hoffi'r gwaith o'i phregethu. Aber Gwyn Gregin. R. J. Rowlands. MR. NICHOLAS BENNETT (TREF- NANTJ. Ae ol deng mlynedd ar hugain o adna- byddiaeth bersonol a chyfeillgarwch â gwrthrych hyn o sylwadau teimlaf ry wsut mai peth anhawdd yw ysgrifenu ílawer mewn ffordd o hanes am dano. Ychydig, yn wir, oedd nifer prif ffeithiau ei fywyd —bywyd go faith, ond nodedig o wastad, tawel, dirodres, a digynwrf; ac felly ni fforddiant nemawr o ddefnyddiau i'r hanesydd. Ganwyd Nicholas Bennett yn Glan- yr-afon, plwyf Trefeglwys, sirDrefaldwyn, yr 8fed o Fai, 1823 ; ac yno, ar ei dref- tadaeth ei hun, y treuliodd bron holl ddyddiau ei einioes. Enwau ei rieni oedd Nicholas a Sarah Bennett: ac efe oedd yr hynaf o dri o blant. Anhawdd dweyd pa mor foreu y daeth ei henafiaid i'r gymy- dogaeth i fyw ; ond ceir eu hanes yno yn agos i dri chan mlynedd yn ol. Plas- y-morwynion, mae'ndebyg, ygelwidGlan- yr-afon yn yr hen amser. Lle go anghys- bell a digon diaddurn a llwydaidd ydy w— ar fin afon chwyrn y Trannon, yn ngwaelod un o ddyffrynoedd mwyaf rha- mantus Sir Drefaldwyn. Am nad oes yno na phont na phontbren, yr unig fíordd i fyned ato yw trwy yr afon, (ac ar lifogydd nid peth hawdd na diberygl yw hyny), neu ynte trwy fras-gamu drosti ar sarn geryg. Derbyniodd Mr. Bennett ei addysg foreuol mewn ysgolion yn Llanidloes a'r Trallwm. Bu wedi hyny yn aros am ryw dymhor yn agos i Abertawe, gyda'r diweddar Gapten Thomas, yr hwn oedd berrhynas iddo : a dyna'r cwbl o amser y bu, fel rwy'n deall, o ardal ei enedigaeth. Ni bu erioed yn briod, ac ni ymgymerodd âg unrhyw alwedigaeth neillduol, ond treuliodd ei holl ddyddiau mewn neillduedd gwledig fel boneddwr Cymreig o'r hen ddull. Hoffai bron bob math o ddifyrwch yn yr awyr agored — saethu, hela, a physgota; yr oedd hefyd yn bur fedrus gyda gwenyn a garddwriaeth ; ac yr oedd ganddo durn (lathe) gostus, gyda'r hon yr ymddifyrai weithiau yn gwneyd ambell i ddodrefnyn. Ond yr hyn a'i hynodai yn benaf oedd ei gariad at lenyddiaeth, yn enwedig llenyddiaeth gerddorol, ac at feirdd, ílenorion, a thelynwyr. Gellir yn briodol iawn g\Tnhwyso at Mr. Bennett eiriau Ceiriog am dano ei hun:— " Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd, Carodd fyw'n naturiol,— Cárodd gerdd yn angerddol." Defnyddiai bob cyfie a gai i gasglu llaw- ysgrifau a llyfrau prinion, ar hyd ei oes ; a gadawodd ar ei ol gasgliad mawr a gwerthfawr anghyffredin o'r eyfryw. Credaf nad oes ei fath mewn rhai cang- enau, megis mewn casgliadau o alawon Cymreig a chyfnodolion Cymreig. Y mae Mr. T. Hamer Jones, o Lundain, a enill- odd y wobr yn Eisteddfod Caerdydd am y traethawd ar Lyfryddiaeth Cerddoriaeth Gymreig, ar hyn o bryd yn brysur gyda'r