Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GEN I NE N: Cglcjrgntton: €meìrla*tíjal. Rhif. 3.] GORPHENAF, 1885. [Cyf. III. CYFIEITHIAD O'R EPISTOL AT YR HEBREAID. [Ceir y Testun gwreiddiol a ddefnyddiwyd wrtli wneyd y cyfieithiad a ganlyn yn yr argraííiad a gyhoeddwyd dan olygiad Proffeswr Palmer yn Rhydychain.] 1 Duw, wedi iddo lefaru mewn llawer rhan a llawer dull gynt Peunod I. wrth y tadau yn y prophwydi, 2 yn niwedd y dyddiau hyny a lefarodd wrthym ni mewn Mab, yr hwn a osododd efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe yr oesoedd; 3 yr hwn, gan ei fod yn danbeidiad ei ogoniant ac yn ddelw ei hanfod, ac yn cynal pob peth â gair ei nerth, wedi iddo wneuthur puredigaeth y pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y mawredd yn y goruchel- ion, 4 wedi ei wneuthur o hyny yn well na'r angelion, o gymaint ag y mae efe wedi etifeddu enw mwy rhagorol na hwynt-hwy. 5 Canys wrth bwy erioed o'r angelion y dywedodd efe, Fy Mab 'ydwyt ti ; myfì heddyw a'th genhedlais di ì A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau a fydd i mi yn fab. 6 A phan y dŵg drachefn y cyntaf-anedig i'r byd, dywed, Ië, addoled holl angelion Duw ef. 7 Ac am yr angelion dywed, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angelion yn wyntoedd, a'i wasanaethwyr yn fflam o dân ; 8 ond am y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd ; ac, Teyrnwialen dy deyrnas di ydyw teyrnwialen union- deb. 9 Ti a geraist gyfiawnder ac a gaseaist anwiredd ; am hyny Duw, sef dy Dduw, a'th eneiniodd di âg olew gorfoledd tuhwnt i'r rnai sydd gyfranog â thi; 10 ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear, a gweithredoedd dy ddwylaw di yw y nefoedd ; n hwynt-hwy a ddinystrir, ond 'tydi wyt yn parhau; a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant, 12 ac fel mantell y plygi hwynt, fel dilledyn, à hwy a newidir; ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant. 13 Ond am ba un o'r angelion y mae efe erioed wedi dywedyd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodaf dy elynion yn droedfainc dy draed ? 14 Onid ysbrydion addolgar ydynt oll, yn cael eu hanfon allan er gwasan- aeth oherwydd y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth ? * Oblegid Pennod II. hyn ni a ddylem yn helaethach roi ein bryd ar y pethau a glybuwyd, rhag digwydd ein myned gyda'r llifeiriant. 2 Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angelion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn daledigaeth, 3 pa fodd y diangwn ni ymaith wedi esgeuluso iachawdwriaeth mor fawr, yr hon, wedi dechreu ei thraethu trwy yr Arglwydd, a gadarnhawyd i ni gan y rhai a'i clywsent, 4 gan fod Duw yn cyd-dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau ac amrywiol nerthoedd a dosran. iad doniau yr Ysbryd Glân yn ol ei ewyllys ? 6 Canys nid i angelion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn y llefarwn; 6 0nd fe dystiolaethodd un, bid sicr, gan