Symud i'r prif gynnwys

ÍERTHYNAS Ÿ ^ESLÊYAID A LtËNYfcDIAETH GYMllEIG. 33 1. Esboniad l)r. Gohe.—Yr oedd y Doctor bychan enwog yn enedigol o Aberhonddu, ac yn fab i ynad heddwch yn y dref honno. Wedi cael o hono addysg athrofaol yn Rhydychen derbyniodd urddau Eglwysig. Bu yn giwrad yn South Petherton, yn Neheudir Lloegr: ond fel Daniel Rowland, Howell Harris, ac ereill, cyffyrddwyd â'i wefusau gan y niarwor oddiar allor y Diwygiad; ac yr oedd ei weinidogaeth yn rhy gynhyrfus a thanllyd i grefyddwyr cnawdol yr Eglwys Sefydledig yn y dyddiau hynny, ei goddef. Gadawodd yr Eglwys; a daeth yu wr deheulaw Mr. Wesley. Ysgrifenodd esboniad yn yr iaitli Seisneg er cynorthwyo y darllenydd cyffredin i ddeall gwirioneddau yniarferol erefydd. Dr. Coke oedd y prif symudydd i aufon y cenhadon i Gymru; ac efe a'i gyfeillion a ddygeiit y rhan fwyaf o lawer o'r draul. Yr oedd yn naturiol, felly, i esboniad y gwr da hwn gael ei gyfieithu yn gynar i'r iaith Gymraeg. Nid wyf wedi digwydd gweled copi o'r esbouiad hwn er pan oeddwn yn hogyn; ac nid wyf, felly, yn gwybod nemawr am dano. Nid oedd ond math o dalfyriad o esboniad y Doctor; ac ni roddodd foddlon- rwydd i'r awdwr nac i'r darllenydd Cymreig. Ymddengys fod gan y Parch. J. Hughes, Aberhonddu (un o'r ddau genhadwr eyntaf) law yn y cyfieithiad, yn nghyd a dau neu dri ereill nad wyf yn sicr o'u henwau yn awr. Nid yn unig yr oedd y. cyfieithiad Cymreig yn daífyriad, ac wedi ei argraffu ar bapyr gwael; ond cymerodd y cyfieithwyr yr hyfdra i ddodi ynddo lawer o sylwadau nad oedd yn yr un gwreiddiol. Cyfieithwyd Esboniad. Coke ar y Testament Newydd wedi hyny gan un Mr. Davies, yr hwn oedd fab i'r enwog Davies Castellhywel. 2. Esboniad Wesley ar y Testament Newydd ; neu, fel ei gelwir yn yr iaith arall, Wesleyìs Notes on the New Testament. — Nid yw hwn ond esboniad hynod fyr; ond y mae wedi ei ysgrifenu yn arddull glir, fachog, yr awdwr; ac yn csboniad gwir werthfawr. Cytìeithwyd ef i'r Gymraeg, y waith gyntaf, gan y Parch. H. Hughes (taid y Parch. H. Priee Hughes, Llundain), a'r Parch. J. Williams, a daeth y rhan gyntaf o hono allan yn 1821. Yn mhen tua 30 mlynedd ar ol hynny cafwyd argrafliad newydd o Esboniad Wesley, yn nghyd a chyfìeithiad diwygiedig. Y cyfieithydd y waith hon oedd yr enwog Barch. Rowland Hughes. 3. Esboniad Adam ClarJce ar y Tesiament Ncwydd.—Yr oedd Adam Clarke yn wreinidog Wesleyaidd ; a safai yn rheng flaenaf ysgolheigion ac esbonwyr ei oes. Ysgrifenodd esboniad, mewn wyth cyfrol drwchus, ar yr holl Feibl. Ystyrid ef ar y pryd yr esboniad mwyaf llafurfawr a dysgedig yn yr iaith Sacsneg. Cafodd gylchrediad tra eang yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef ynddi. Yr oedd yn naturiol ddigon i'r Wesleyaid Cymreig i ymawyddu am i esboniad mor ddj'sgedig a phoblogaidd, a hwnnAV wedi ei ysgrifenu gan weinidog Wcsleyaidd, gael ei gyfieithu i'r Gymraeg a'i gyhoeddi. Ond pwy oedd ddigonol i'r gwaith ? Yr oedd eisiau ysgolor cydnabyddus â'r ieithoedd gwreiddiol a'r ieithoedd Dwyreiniol ereill i gyfieithu Esboniad Clarke yn iawn ; orid nid oedd cymaint ag un o'r gweinidogion Wesleyaidd Cymreig wedi cael addysg Athrofaol. na'r un felly yn gymwys i'r gwaith; ond cafwyd cyfieithydd 311 mherson y Parch. Isaac Jones, yr hwn a fu yn beriglor, os wyf yn cofîo yn iawn, yn Llangeinwen, Mon ; a chafwyd ef hefyd heb i'r Wesleyaid chwiho ain dano, canys ymgymerodd â'r gwaith o'i hunan gynhyrfiol gariad. Brodor o Sir Aberteifi ocdd y Parch. Isaac Jones. Adwaenwn frawd iddo, ddeugain mlynedd yn ol, yr hwn oedd yu brif geidwad helwriaeth ar etifeddiaeth Iarll Lisburn. Nid wyf yn gwybod pa fodd y daeth Mr. Jones i gydymdeimlad â'r Wcsleyaid ; canj-s nid oedd achos Wcsleyaidd yn agos i'r cwmwd lle y magesid ef. Ond mae'n amlwg ei fod cf nid yn unig yn edmygydd o'r Dr. Adam Clarke ond liefyd mewn cydymdeimlad á Wesleyaeth Gymreig. Dygwyd y rhan fwyaf o'i lyfrau, os nad y cwbl oll, i'w ardal cnedigol i'w gwerthu. Aethum, yn hogyn, gydag ereill, i'r arwerthiant. Yr oedd yno amrai lyfrau Wesleyaidd, ac yn cu phth gyfrolau o'r Euryrawn. Yno y gwclais YDrysoryell Efengylaidd (y caf gyfeirio ati eto), gyntaf erioed, ac yno y prynais y copi sydd yn fy meddiant yn awr. Nid yw yr argrafíiad Cymiacg cyntaf o Esboniad y Dr. Adam Clarke wrth law genyf yn awr, ac nid wyf yu hollol sicr pwy oedd y cyhoeddwr, na pha íiwyddyn y cyhocddwyd ef. Dacth ail-argi-affiad o hono allan, yn 1878. 4. Yr Esboniad JJeirniado/. — Amcenid i hwn fod yn esboniad hclaeth ar yr holl Feibl. Ni chynwys y copi sydd genyf tì ond Pmn' Llyfr Moses a'r Testament Newydd; a thybiwyf na ddaeth ond hynny allan. Math o gasgliad ydyw o farnau gwahanol feirniaid, yn benaf. Y cyfieithydd a'r golygydd oedd y diweddar Idrisyn ; a ehafodd y gwaith ei argraffu a'i gyhoeddi yn swyddfa yr Eurgrawn yn Llanidloes. Daeth y gyfrol gyntaf allan yn 1837.