Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

144 FY NGHYLCII-FYWYD. yn mhlith y dorf liosog yn cyduuo oll yn adrodd rhauau o'r Hyfforddwr, y mae " Creadigaeth ac etholedigaeth i'r Tad, prynedigaeth ac eiriolaeth i'r Mab, a sancteiddiad i'r Ysbryd Glân," yn fy ngwefreiddio wrth adgofio y cyfnod hwnw. Arweinydd y gàn yno ydoedd Moses Jones, am yr hwn y bydd genyf air eto i'w ddywedyd. Er fy mod ar y pryd yn fachgenyn, yr oeddwn mewn barn grefyddol yn Pedyddiwr selog, eto barn gyda mwy o sê'í nag o wybodaeth ydoedd fy eiddo y cyfaod hwnw; oblegid yr oedd yn gàs gan fy nghalon fynychu i gapel y Bedyddwyr, a hyny o achos y clauarineb, y marweidd-dra, a'r diffyg ynni a nodweddai yr holl wasauaeth a geid yno; a dyna, yn ddiau, achos eu haflwydd- iant hyd y dydd heddyw. Cafodd y Bedyddwyr y blaen ar yr holl enwadau i godi eu capel yn y dref. Cyn hyny, addolent yn y Glasgoed, tu uchaf i Dyddyn Fadog. ger y Felin Isaf. Williani Owen, Pantyllin, oedd cychwyuydd achos y Bedyddwyr : efe hefyd ydoedd blaenor y gân, er yn mhell ar oì ei oes i fod felly. Ar nos Sul arferwn fyned i Danybryn, Llanddoged, i addoli. Anedd-dy eang oedd yno gwedi ei neillduo, ac nid capel. Yr oeddwn yn cael pleser yno, am y byddai bywiogrwydd yn y gwasanaeth, a'r canu yn ardderchog, yr hwn a flaenorid gan gerddor galluog, yn mherson Evan Owen, mab Pantyllin. Fy ysgolion dyddiol ag y bûm ynddynt oedd Bethel, capel y Bedyddwyr. Yr athraw oedd Bardd Du Môn, fel ei gelwid. Creadur clauar, diddrwg didda, oedd efe fel athraw ysgol. Yna aethym i ysgol Tabernacl yr Annibynwyr. Yr athraw ydoedd y gweinidog, Peter Griffiths, taid o du ei dad i R. Ffoullces- Griffiths, a f u yn ymgynnyg am gynnrychioli Merthyr fel aelod seneddol; a nai iddo o du ei fam ydoedd Richard Foulkes (Silas Glan Dyfrdwy), gweinidog i'r Bedyddwyr yn y Cefn Bychan. Drachefn aethym i ysgol a gedwid mewn ty anedd yn Denbigh Street, gan un John Gibson. Ellyll o ddyn oedd hwn, yn gymmysgryw o ddyn a chythraul. Yn olaf aethym i " Ysgol Ysgubor Geryg " fel ei gelwid, bron yn ymyl Trefriw. Athraw yr ysgol hon ydoedd un Bobert Hughes, yr hwn oedd yn athraw galluog ac awyddus i addysgu ei ysgolorion. Yr oeddwn erbyn hyn tua 12 oed; a darfu am chwaneg o ysgol i mi, am y llenwid fi âg ysfa i ddechreu dysgu gweithio ; ac felly y bu arnaf fi. Currier wrth ei grefît oedd fy nhad, yn gweithio ar ei gyfrifolder ei hun i gryddion y dref a'r cylchoedd. Yr oedd yn y dref ddau arall fel yntau yn gweithio yr un modd, sef William Jones a Ẁilliain Davies. Cymmerodd fy nhad fi i'w gynhorthwyo, ac i ddysgu y grefft currier ; a mi a'i dysgais hefyd mewn llai na blwyddyn, oddigerth y naddu. Ni chawn gynnyg ar naddu, am fy mod yn rhy fyr o gorffolaeth, heb roddi ystôl uchel o dan fy nhraed. Am hyn monais, a mynwn gael myned yn grydd, am fod cyfaill i mi o'r enw Emmanuel Roberts newydd ei brentisio yn grydd. Boddlonodd fy nhad i mi gael fy nymuniad. Yr un y chwenychai fy nhad fy ngymmeryd yn brentis oedd Moses Jones, yr hwn oedd yn ddyn crefyddol, parchus, ac yn feistr i lawer o weithwyr. Cytunodd y ddwy ochr ar i mi fynei ar fis o brawf ; ao os byddai y prawf yn foddhaol, y rhwymid fi ar ol hyny. Gan i mi gael fy mhrofí yn fodtìáol megis trwy dàn, rhwymwyd fy mhrentisiaeth ar noson ffair Awst lOfed, 1826. Yr oedd pob peth o'r eiddof wrth fodd fy meistr, ond fy chwareu. Gwyddwn, oddiwrth ei ymddygiad tuag ataf, fy mod yn dysgu yn gyflym; oblegid yn mhen y chwe' mis, rhoes dop botasen, oedd mewn arferiad y pryd hyny, i'w chlosio yn wrym ysgafn, graen y cyfryw ydoedd yn hynod frau gau effaith vitriol. Eglurodd i mi bob peth cyn dechreu, gan roddi tri neu bedwar pwyth ei hun yn enghraifft. Wrth fy ngweled yn lled bryderus, dywedai, " Paid ag ofni: os gwnei di spwylio y top, nid arnat ti y bydd y bai, ond arnaf fi." Lluchiodd hyny y pryäer oddiwrthyf; a phwythais y top yn well na'i ddysgwyliad, fel mai i mi y rhoddid pob un ar ol hyny. Nid yn unig yr oedd fy meistr yn ofalus gyda'ì fasnach, ond yn ofalus gyda'i grefydd hefyd. Bob bore am naw o'r gloeh gelwid y gweithwyr i'r gegin, a dechreuid ar y ddyledswydd deuluaidd. Wedi darllen y bennod dysgwylid i bob un gofio adnod, neu ran o adnod, neu ynte air o adnod. Wrth ei ochr aswy yr eisteldai ei ddau fab, Eobert a James, a minnau ar ei ochr dde; a byddai y wialen fedw yn wastad yn ei law. Un tro aeth y ddau fab yn aflonydd ac i chwerthin tra yr oedd eu tad yn gweddio; yna ataliodd ei weddi ar y foment, a rhoes bwysau y wialen ar gefn y ddau; yna aeth yn mlaen gyda'i weddi, gan gyflwyno ymddygiad ei feibion i sylw ei Dduw. Ar ol y gwasanaeth aeth pawb at eu gwaith; ac O, fel y beirniadid y gweddiwr am ddefnyddio y wialen fedw at ei blant ar ganol ei weldi; gan edliw mai gweddi blaen tafod, ac nid y galon, ydoedd hi. Minau, o blaid fy meistr, a ddywedwn nad oe Id hyd y nod gweddi y gnlon yn cau clustiau y corff