Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

244 Y PARCH. WILLIAM JONES, ABEÍtGWAEN. weinidogaeth yn Mhenyfron. Wedi hyny daeth yn efrydydd caled o John Loche a John Stuart Mill; ond seìisationalists y galwai ef y ddau hyny, tra mai intuitionist ydoedd ef ei hunan. Yn ddiweddarach ymafaelodd yn y gwaith o feistroli Kant; ac yr oedd ganddo syniad clir am holl ddanicaniaethau Hegel. Darllenodd lawer o lyfrau sydd yn dadleu y dylid cyfaddasu dysgeidiaeth duwinyddiaeth i hawliau casgliadau athroniacth ; ond angorodd ef ei enaid wrth wirioneddau iachaw^dwriaeth, Gan ei fod yn berchen meddwl annibynol, gallai hyfforddio darllen llyfrau yr anghyttunai â hwy heb ei gyfnewid. Ac yr oedd yn feddyliwr annibynol. Ni chaniatäi i neb weithio allan ei ddarholebau deallol drosto. Syrthiai yn ol ar ei adnoddau ei hunan. Àm y rheswm hwnw yr oedd delw o wreiddioldeb, newydd-deb, a chadernid ar ei ddrychfeddyliau, ac, fel canlyniad, gwelsoin ef droion yn arwain cynulleidfaoedd dros faesydd anhygyrch iddynt, gan greu ynddynt sirioldeb, mawrygiad, a fFydd. Nid ydym wrth hyn yn meddwl na chafodd yr yraadawedig ei fiino gan amheuon. Tystiai ef ei hunan ei fod yn cael ei gyffwidd ganddynt; a dy wedai— " Diolch am dipyn o amheuaeth; pâr i ni chwilio yn fwy cywir am wreiddiau ac egwyddorion sylfaenol pethau." A hyny a wnelai. Cofus genym ei gyfarfod yn union wecli ymddangosiad y traethawd duwinyddolhwnw yn ngwisgledrithiol nofel—Iwhrt Elìsmere; ac mewn atebiad i ofyniad, dyna ddywedai— " Pw ! fedra nhw ddim alltudio y goruwchnaturiol o grtfydd gyda eu nofelau. Ac a welsoch chwi, (meddai) y fooì Catherine yn aberthu ei hawl i farnu drosti ei hunan." Ac ychwanegai drachefn—" Ynfydrwydd ydyw treio esbonio Efengyl â tìteory dadblygiad." Bu cyfarwydd-deb ein harwr yn nyfaliadau athroniaeth, yn enwedig athroniaeth Eoegaidd henafol, yn ennillfawr iawn iddo fel pregethwr yr efengyl. Fel specialist yn y llinell hono y daeth yn anghyffredin. Ei waith yn edrych ar bob adnod o safle yr athronydd, barai fod yr adnodau yn dyfod yn fwy byw, cynhes, a dealladwy i feddyliau ei wrandawyr. Ychydig o bobl,- ac y mae aelodau pwyllgorau ein hathrofeydd enwadol yn eu mysg,— sydd yn credu fod athroniaeth yn gynnorthwyol o gwbl i'r pwlpud : edrychir arni yn hytrach fel estrones i deyrnas y myfyriwr Beiblaidd ; a thrwy hyny amddifadir y pre- gethwr Cymreig o wasanaeth un o'r gwybodaethau mwyaf eglurebol a chynhyrfiol. Beth bynnag, yn Jones, Abergwaen, cafwyd engraiff't o rym anorchfygol meddyliau athronol. Yn annibynol ar gwrs arbenig astudiaeth ei oes, buasai yn fawr yn y pwljmd ; ond gwnaeth hwnw ef yn fwy. Yr oedd yn uwchraddoì fel pregethwr cyn ei fynediad i'r coleg. Cafodd oedfa yn Seion, Cefnmawr, pan bregethai ar brawf, er i'r Parch. A. J. Parry arwyddo ei ddeiseb am dderbyniad i Hwlffordd, a gofir gyda syndod gan gynnifer o'r rhai oedd yn bresenol ag sydd yn aros hyd yr awrhon. Ei destyn ydoedd —"Na ddiffoddwch yr Ysbryd." Trydanwyd yr holl gynulleidfa y boreu hwnw yn Seion i'r fath raddau í'el, cyn diwedd yr oedfa, yr oedd yno lawer o wragedd cryfion yn syrthio yu hanuer marw mewu llewvg- feydd! Yn gyuiharol ddiweddar ar ei fywyd y rhoddwyd iddo gyfleusterau mawrion fel pregethwr, ac yn y rhai hyny yr ymddangosodd yn fwyaf manteisiol. Cyf- leustra felly, a'r pwysicaf, a ddisgynodd i'w ran, ydoedd oedfa anfarwol yr TJndeb yn Nghaerynarfon, yn 1892. Y mae llawer o " oedfaon hynod " yn hanes Cymru Anghydffurfiol; ac, yn sicr, y mae hono yn un o honynt. Y boreu hwnw rhoddodd Jones, Abergwaen, lam o gylch enwogrwydd enwadol i gylch eangach enwogrwydd cenedlaethol. Cadeiriwyd ef y pryd. hwnw yn brif bre- gethwr ei wlad. Cymmerai goreugwyr crefydd ran yn y gorseddiad. Morfyw i gof y rhai oedd yn bresenol ydoedd gwaith y gwr mawr, Dr. Hughes, ar ol colli dagrau gorfoledd o dan y bregeth, a thra y pregethwr eto heb ddisgyn oddiar y llwyfan, yn cyfodi ei wyneb tuag ato, gan ddyrchafu ei law longyf- archol, a dweyd—" Wel, b'le ryda'ch chi wedi bod 'r " Gwyddai ei fod wedi bod cyn y dydd hwnw. Nis gallasai jaegethwr felly gael ei cni mewn un dydd. Ehaid fod iddo gynhanfodaeth : y syndod i'r Dr. ydoedd ei fod wedi bod cyhj^d heb fod yu weledig i Israel. Yn credu fod y nerthoedd cydfyncdol â gweini- dogaeth Mr. Jones, Abergwaen, y boreu hwnw, yn oithriadol,— a diau fod hyny i raddau yn gywir,—dyuiuniad y Parch. Evau Jones, Caerynarfon, ydoedd, na fyddai iddo byth gael y cyfleustra i'w wrando drachefn : diau ei fod yn ofni di- lëad ei argraphiadau. Nid llai mawrygol ydoedd syniad yr Hybarch Thomas Gee, o Ddinbych, am dano ar ol ei wrando yn pregethu buin' waith yn olynol yn y dref hono, pan y datganodd ei farn mewn un frawddeg—" Efe ydyw y pre- gethwr mwyaf yn Nghymru." Waldo.