Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

52 CENINEN GWYL DEWÍ. yn un o'r rliai mwŷaf perffaith y daethom erioed i adnabyddiaeth o hono. Dynoliaeth ardderchog oedd ganddo. Yr oedd yn ddyn hardd yr olwg arno, cyn iddo heneiddio a gwaelu. Meddai wyneb agored, genau Uydan, talcen uchel, a'r gwallt cyn i mi gael ei weled y tro cyntaf wedi cilio er niwyn rhoddi pob chwareu teg i'r talcen ddyfod i'r golwg. Yr oedd ei lygaid yn Uawn serchogrwydd yn gystal a threidd- garwch. Yn y pulpud edrychai yn hardd mewn gwirionedd; ac yn en- wedig, wedi i'w enaid gael ei oleuo a'i yspryd gael ei wresogi, yr oedd yr olwg arno yn un i'w chofio byth. Ac megys ei ddyn oddi allan felly hefyd ei ddyn oddi mewn. Nid oedd ynddo, o ran cymeriad nac ymddygiad, ddim nad oedd gyson â true nobilüy. Ac am ei gartref, ni bu erioed ei ddedwyddach. Heulwen wastadol cedd yn y ffurfafen yma. Of er fyddai dy wedyd na chaf odd hrofedigaethau, ac nad oedd yn feimlo i'r byw oddiwrthynt; ond er hyny ni ehaniatawyd i unrhyw gwmwl dywyllu am foment ffurfafen yr aelwyd. Cyn y diwedd yr oedd yn ymddangcs yn hen apharchedig, ondynmyned yn anwyl- ach o wythnos i wythnos hyd y dydd yr aeth, fel y dywedai ei hun, i mewn i " orphwysfa Duw." A phrydferth- ach yr â am byth yn ei gymeriad, ac anwylach anwylach hefyd fydd ei goffadwriaeth. Bootle. GniFFiTii Ellis. EDWAED JONES, MAES Y PLWM. Maes y Plwm, pob cwm mewn co'—a'i Tra hudol iaith Cyniro, [deil ef, A dwys enaid i'w swyno â thwymn waith ei hymnau o. O bob dawn cyflawn y'i caid,—a'i euwog Farddoniaeth mor danbaid,— Awenog wres doniau graid Yu cynnu'n farwor canaid. O'i emynau mae i weinion—deulu Duw Hwyl dan bob trallodion ; Diliau gair dihalog Ion Y'nt ogoniant ei geinion. Ein hodfeuon difywyd— a hudir A'i blethiadau tanllyd: Fel nawf awel lawn o fywyd Y cerdda'i gân trwy'r cwrdd i gyd. Aelwydydd ein tylodion—adwaeuant Èi anwyl benülion : Parch ein bro fyth a'i choíion Red o'i serch at Edward Sion. Ac wedi dodi i dân—olaf Ion Elfenau pedryfan, O fewn y Wynfa'i huuan Chwydda, ymeigiona'i gân. Isaled. DEWI GLAN DULAS. Englynwr yn ngoleuni—haul Awen Dryloewaf, oedd Dewi,— Naturiol wawl yn tori Ar y wlad yn ddysglaer li'. Dewi Glan -Teifi. DEWI HAVHESP. Ganwyd y bardd uchod—" angel lun- iwr englynion," nad oes eu rhagorach yn yr iaith—mewn bwthyn o'r enw Penrhos-isaf, yii mhlwyf Llanfor, ger y Bala. Enwau ei riaint ydoedd Eobert a Margaret Roberts. Brodor o Landrillo yn Edeyrnion oedd ei dad: hanai ei fam o Benllyn. Yn nghyf- nod maboed Dewi — y cyfnod tywyll hwnw, cyn i oleuni addysg dreiddio drwy ein gwlad—nid oedd arngen ffawd yn aros plant y bythynwyr na chael eu " rhwymo " yn dra ieuanc, naill ai wrth fainc y saer coed, neu ar fwrdd y teiliwr, a hyny cyn derbyn ond y peth nesaf i ddim o ddiwylliad meddyliol. Dyna hanes boreuddydd Dewi. Gwelwn ef, cyn bo hir, yn yr un ystum a'i frawd-fardd Trebor Mai—" a'idraed yn ymyl ei drwyn." Ond daeth yn feistr ar ei gelfyddyd. Ennillodd barch gwreng a boneddig fel dilledydd o'r chwaeth oreu. Yn y tymhor hwn deffrödd ei feddwl, a dangosodd ei awyddfryd at farddoniaeth. Darllenai yn ddyfal yn ngweithiau y beirdd, a daeth yn gyd- nabyddus â cheinion awen Dafydd ap Gwil) m, Huw Morus, Goronwy Owain, yn nghyda'r Du a'r Gwyn o Eifion. Diau mai yr hyn a'i cymhellodd i'r llafur hwn ydoedd yr athrylith fardd- onol oedd, megis tân, wedi ei gau o fewn ei esgyrn. Dyna oedd yn ei symbylu i ymdrechu am wybodaeth ymarferol. O ran dim addysg foreuol a dderbyniodd, ni fuasai ond gwerinwr anwybodus, aelod diddim o'r gym- deithas ddynol; ond yn nghrym hunan- ddiwylliant, mewn undeb âg athrylith w^reiddiol, argraffodd ei enw yn anni- lëadwy ar galon ei wlad. Yn y llinellau cofiannol hyn nis gallwn aros nemawr gyda helynt ei oes; ac y mae llawer darn ohoni yn fwy priodol i dir angof nag igyhoedd- usrwydd Y Geninen : gwell genym o lawer ydyw adgofio ei geinion llen- yddol, a gwahodd sylw y darllenydd at ei ragorion diamwys fel bardd,— un o feistriaid y gynghanedd. Gresyn na fuasai ei fywyd. mor loew, mor ber- seiniol, a'i gynghanedd ! Ond dyrys- wyd ac archollwyd ef, lawer prjTd, ar lwybrau'r ysbeilydd. Gelyn cyffredin meibion athrylith oedd ei arch-elyn yntau. Y mae anffodion ei oes yn llefaru'n hyglyw wrth bob Cymro ieuanc a gobeithiol—" Gochel y gwpan: gochel hi." Ac onid yw y gwirionedd hwn wedi ei ysgrifennu megis â haiam ac â phlwm, ac wedi ei drochi yn nagrau edifeirwch—-yn ei englynion dihafal ef ei hun ? Gwelir