Symud i'r prif gynnwys

BAEDDONIAETH: EI NATUE A'I DYBEN. ii. Cyhuddir ni y beirdd, h.y., y beirdd wrth " ddefod ac arfer"—o fod yn ddosparth hynod o arwynebol fel meddylwyr. Ac, a siarad am y lliaws o honom, ofnaf fod gormod o wir yn y cybuddiad. Nid yn unig y mae swm mawr o'n cynnyrchion yn arwyddo diffyg dyfnder meddwl, ond cynnyrchion felly a werthfawrogir fwyaf gan lawer iawn Nid yw yn Uawer o bwys pa beth fydd y meddyliau, neu a fydd meddyliau o gwbl yn ein llinellau, os ceir ynddynt lyfnder mydryddol a digon o swn cydseiniaid yn clecian. Fel y ceir ambell ffarmwr gwael yn " rhedeg ei ffarm " drwy aredig llawer yn hynod o fâs, a dim gwrteithio o'r bron, nes methu cael nemawr ddim cnwd ond llaeth- ysgall a dail carn yr ebol; felly yr ydym ninau wedi bod yn llawer rhy dueddol i redeg wyneb meusydd gwirionedd, nes peri nad yw swm mawr o'n barddon- iaeth ond grawn lled ysgafn. Er esiampl, tybier fod "'Doli' y Plentyn," neu " Y Plentyn a'r ' Ddoli,' " yn cael ei gynyg fel testyn cystadìeuol am un englyn. Dyna o ddau i bum' dwsin, fe allai, yn dechreu meddwl cystadlu arno, heb fwy na rhyw haner dwsin, hwyrach, yn meddwl na theimlo ail i ddim o'i farddoniaeth. Cynygir, hwyrich, gystwyo ychydig o gynghaneddion i roddi rhywfath o ddarlun allanol o hono : ac os ufuddha y cynghaneddion i wisgo meddyliau cyffredin yn weddus, gan ddiweddu gyda mynegiad fod " Elen Yn dylu braidd ar ei doli bren," tybir ei fod yn englyn lled gymeradwy; ac ni ryfeddem ddim weled lliaws y cystadleuwyr yn rhoddi eu pleidlais ddyfarniadol o du englyn o'r fath yn erbyn rhai yn myned yn llawer dyfnach i wir farddoniaeth y testyn. Ac eto, gymaint o farddoniaeth a olyga ei " doli " i'r eneth fach, ac i unrhyw fardd a edrycho yn is na'r arwyneb ! Fel y mae dychymyg yn chwareu rhwng calon y fechan a'i " doli," onid ydym yn gweled hadau planedig y Creawdwr yn ei natur— hadau cymdeithasgarwch, y duedd i efelychu, a'r ymwybodolrwydä fod Rhywun tuallan i ni—yn fwy na ni—yn ymagor ac yn dechreu blaguro, pan y mae yn ei gwneud yn fath o gwmni arbenig iddi, yn ffugio ymddiddan â hi, yn gwisgo am dani, ac yn ei gwasgu at ei mynwes, mewn efelychiad o'r fam yn gwisgo y baban ac yn ei anwylo ! Ië, oni welsom yr eneth fach yn ofni myned i'r gwely wrthi ei hun y nos heb ei " doli ?" ond wedi ei chael, yn myned yn ddigon diddig, ac yn cysgu yn ddigon tawel, fel pe buasai y " ddoh" yn fath o bersonoliaeth arall cr^^fach na hi i'w hamddiffyn. Ac nid oedd y " ddoli" i ddychymyg bywiog y fechan ond math o adnod, yn ddatguddiad tywyll iddi o'r " Md myfi " mawr sydd yn ein hamgylchu ar bob Ilaw. Ond i ba le y crwydrais ? O ! ie, dyna'r hyn yr amcanwn ato—dangos mor dueddol ydym i chwareu, megys, ar y làn gyda thestynau yn meddu dyfnder o farddoniaeth digon i nofio llongau, mewn ffordd o siarad. Drwy gadw unoliaeth y gwir- ionedd yn fwy o fiaen ein nieddwl, yn lle ei dori yn dameidiau, megys, o'i gysylltiadau, i chwareu â hwjmt, felpe na byddent ond teganau plant, dyfnhëid, eangid, a dyrchefid ein barddoniaeth lawer iawn, yr wyf yn bur sicr, ragor yr hyn ydyw llawer o'r hyn a elwir yn farddoniaeth genym. Ẁrth siarad yn fychanus am ein barddoniaeth yn gyffredinol, nid wyf yn anghofio fod genym, serch hyny, gryn swm o farddoniaeth ragorol, ag ystyried maiut y wlad ac amgylchiadau anfanteisiol y lliaws o'n beirdd; ac er dyddiau Dafydd ap Gwilym hyd heddyw, tybiaf fod nifer ein beirdd godidog wedi bod i fyny â nifer y cyfryw mewn unrhyw wlad o'i maint a'i manteision. A da iawn genyf weled arwyddion fod y beirdd godidog yn lliosogi, a bod barddoniaeth yn nosparth y " Bardd Newydd " yn arbenig fel pe byddai yn myned i oresgyn meusydd newyddion o fwynhad yn nhiriogaethau anfesurol Gwirionedd. Pe rhenid ein beirdd—yr wyf yn meddwl, ein gwir feirdd—yn ddau ddosparth, tybiwn y gellid galw un—Dosparth y Teilwriaid Barddol, a'r llall—y Dargan- fyddwyr Barddol. Nodwedd arbenig y dosparth cyntaf ydyw eu medrusrwydd i wisgo y cynefin â newydd-deb. Mae hyny, yn ddiau, i fod yn un amcan i farddoniaeth. Yr ydym yn colli ein meddiant yn barhaus ar lawer o wirioneddau, o ran eu gwerth ymarferol i ni, os na chânt newid dillad. Ac fel arf yn pylu drwy fynych ddefnyddiad o hono, mae Uawer o'n gwirioneddau cyffredin yn colli eu min o eisieu rhyw fardd i'w hogi, megys, drwy eu dwyn i gyffyrddiad â phrofiadau amrywiol. Mae hen ffurfiau ystrydebol o'u mynegu yn ffurfio gwain am danynt, yn hytraeh na bod yn gyfryngau effeithiol i'w hawchlymu. Mae corfanau ac odlau hapus, a chynghanedd lefn, yn naturiol yn eu gwisgo â math o newydd-deb; ac os ychwanegir at hyny ambell ffugr a chymhariaeth a dybir yn dra chymwys, ymddengys y meddyliau yn " dwt" anghyffredin, nes bron