Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IEREMIAH. 209 wch yw eu hunig wasanaeth. Clywsom ferch ieuanc unwaith yn ateb boneddwr oedd yn ymosod yn drwm ar ddull y boneddigesau o wtego, gan ddatgan ei f arn mai buddioldeb yn unig ddylai fod yn rheol, ac nid y prydferth. Ar ol gwraudaw am beth amser, meddai, mewn duU gwawdlyd: " Pwy wisgodd y lüi tybed ? .oni allasai hi wneyd y tro â gwisg mwy syml a chyffredin? Pwy fu yn gwastraffu gyda chynffon y paen, tybed ? oni fuasai un llawn byrach, ac un yn cynwys llawer Uai o liwiau, yn gwneyd y tro lawn cystal ?'' îsíi allodd y boneddwr, ar ol hyn, ateb gair iddi. Yn y diriogaeth hon, os yn rhywle, y mae deddf buddianaeth o eiddo Natur yn rhoddi lle i brydferthwch, a'r dychytnyg megis yn cael goruchaflaeth ar y rheswm. Braidd na themtir rhai i haeru fod Natur yn gwastraffu yn y diriogaeth hon! Gymaint o ddifrod sydd ar flodau! Pe na allesid dweyd dim am liwiau ond eu bod yn prydferthu, buasai hyny yn ddweyd Uawer iawn; oblegid y mae gan brydferthwch Natur le mawr yn niwylliad a dyrchafiad dynolryw—dyma farddoniaeth Natur. Ond nid hyn yw y cwbl sydd i'w ddweyd am danynt. Y mae Wallace, a Bates, ac eraül, wedi dwyn pethau rhyfedd i oleuni yn y cyfeiriad hwn. Y maent wedi dangos yn eglur fod manteision mawrion yn deiUiaw o Uwiau anifeiííaid a phlanhigion. Nodwn rai o'r manteision hyn, wrth adael y pwnc dyddorol hwn. Y mae yn wybyddus fod Uwynogod ac ysgyfarnogod Arcticaidd yn myned yn wyn yn y gauaf, a'u bod yn manteisio ar y cyfnewidiad, er fod y naül yn (Äoddef oddiwrth fantais y UaU; oblegid y mae lliw yr eira, er yn galluogi yr ysgyfarnog i ddiangc, hefyd yn rhwyddhau agoshad Uechwraidd y llwynog. Y mae yn wybyddus hefyd fod anifeüiaid, mewn Uawer o ddiffaethleoedd, yr un lliw a'r ddaear yn y Ueoedd hyny. Gallem feddwl fod yma awgrym o eiddo Natur o berthynas i liw gwisg milwrol,—nid coch yw i fod, fel yr un Brydeinig. Y mae Uiwiau blodau yn denu pryfaid ac adar atynt, a thrwy ymweliad y rhai hyn ceir ychwanegiad mawr yn eu ffrwythlondeb. Hefyd, y berthynas hon rhwng deniadol- rwydd ac amaethiad sydd yn esbonio absenoldeb lUw gwahanol ar flodau y planhigion a ffrwythlonir yn unig gan y gwynt; ac y mae hefyd yn eglurhad da ar amledd blodau mewn ynysoedd bychain anghyfanedd. Mwy rhyfedd, eto, o bosibl, yw fod rhai creaduriaid yn tebygu o ran lliw i eraül o rywogaeth hollol wahanol iddynt, a thrwy hyny yn diangc rhag ymosodiadau llawer o elynion. Er enghraifft, y mae pryfaid bychain diniwed yn debyg i'r gwenyn a'r cacwn; ac felly yn diangc oherwydd fod eu gelynion yn ofni y ddau ddosbarth olaf o greaduriaid. Y mae yr enghreifftiau hyn, yn nghyda Uu eraill, yn dangos fod y prydferth a'r buddiol yn agos at eu güydd trwy Natur, fel mewn moesoldeb a chrefydd. Mewn gair, y mae prydferthwch barddoniaeth Natur, fel prydferthwch barddoniaeth Grefydd, yn rhagdybied ei gwirioneddolrwydd a'i defnyddioldeb. Waenfawr, Arfon. William Ryle Dayies. IEEEMIAH. (Aiodl Gadeiriol Msteddfod Meirion, 1883.) Fbl prophwyd, rhoddwyd i'r hen Ieremiah rym awen ; Ac O ! na chawn genych chwi, Dduwiau'r gân ddi-ddrygioni, O'r nef uchod, ran fechan O'i awen gu luniai gân : Odli wnawn, er dilyn ol Ei brudd enaid barddonol ! Ei Dduw welai addolwr—ynddo ef Pan oedd wan ei gyfiwr : 0 Anathoth, yn weithiwr—dros Dduw da, Caed Ieremiah 'n ieuanc dramwywr. Yn y groth, ac yn ei gryd,—pan ydoedd, Penodwyd ef hefyd 1 Dduw'n fab, yn ddawn i fyd,— Duw ydoedd yn dy wedyd. Fel hyn ei ddwyfol enwi—-yn gyfiawn Gafodd mewn musgrellni Ar y fron ; ac, er ei fri, Bu'n uniawn hyd benwyni. Llefaru ei holl fwriad Grasusol wnai'r Dwyfol Dad Wrth ei was di-nerth isod, Rodiai'n awr yn ŵr di nôd, Heb erioed deilyngu bri Mewn talent na maintioli. " Wele'n awr dy alw wnaf,— Yn Fy enw'th anfonaf; Ac i'r cenedloedd cyhoeddi—ddifai Ddwyfol genadwri : Gallu tanbaid d'enaid di Adwaenais cyn dy eni." Ond o flaen y Dwyfol Iah Ymwywodd Ieremiah ! Yn "fachgen"* ymgyfenwodd — ger Ei Mewn gwir fraw gofynodd:— [fron,— " Pwy wyf fì ? ac 0 ! pa fodd Y medraf fi ymadrodd ?" * Ier. i. 7.