Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

•Y GENINEN: Cplrögraton CeneMaetöol. Rhif 3.] GORPHENAF, 1891. [Cyf. IX. EHESYMAU DROS DDADGYSYLLTIAD YNG NGHYMEU. Gan fod Dadgysylltiad ar hyn o bryd yn bwnc y dydd yn ein plith, nid ammhriodol i Eglwyswr fwrw brasolwg, yn ein cylchgrawn cenedlaethol, ar rai o'r prif resymau a ddygir ym mlaen ger bron y Saeson dros Ddadgysylltu yr Eglwys yng Nghymru. Ỳng Nghymru dadleuir yn fynych dros Ddadgysylltiad neillduol ar dir cyffredinol. Ond yn y Senedd ac ym mysg y Saeson cenfydd Dad- gysylltwyr fod yn rhaid cael rhesymau neillduol dros Ddadgysylltu yr Eglwys yng Nghymru ar wahan i'r Eglwys yn Lloegr. Amlwg yw na wnaiff rhesymau cyffredinol yn unig dros Ddadgysylltiad ym mhob man mo'r tro. Dengys araeth Mr. Gladstone yn y Senedd, fis Chwefror diweddaf, linellau yr ymresym- iad ar hyd pa rai yn unig y gellir disgwjd sicrhau mwyafrif yn Lloegr dros Ddadgysylltiad yng Nghymru. Delir y fantol ar y cwestiwn gan Eglwyswyr Rhyddfrydol yn Lloegr. Ni wneir ond pellhau Eglwyswyr Ehyddfrydol oddi- wrth Ddadgysylltiad wrth ledaenu haeriadau diraddiol, dibrawf, am gymeriad Eglwyswyr Cymru. Yn Nhy y Cyffredin y ddau brif reswm a ddygid ym mlaen oedd fod Cymru yn unìlais dros Ddadgysylltiad, a bod y Cymry yn genedl o Ymneill- duwyr. Ceisiaf ddangos nad oes sail i'r naill haeriad na'r llall. Yn lle bod Cymru-yn unllais di'os Ddadgysylltiad, nis gellir profì fod mwy o fwyafrif na thri ym mhen dau yng Nghymru o'i du. Yn lle bod y Cymry yn genedl o Ymneillduwyr, nis gellir profi fod mwy na haner. poblogaeth Cymru yn perthyn mewn modd yn y byd i enwadau Ymneillduol. Dadleuid gan bleidwyr Dadgysylltiad yn y Senedd, fis Chwefror diweddaf, fod etholiadau 1885 ac 1886 yn profi fod Cymru yn ymarferol yn unllais dros Ddadgysylltiad. Nid wyf yn Darod i addef mai ar Ddadgysylltiad yn unig y penderfynwyd y ddwy etholiad ddiweddaf yng Nghymru. Ond er mwyn ymresymiad, cyfarfyddaf y Dadgysyllt- wyr ar eu tir eu hunain : a chan fod etholiad 1885 yn fwy ffafriol iddynt nag etholiad 1886, edrychaf pa mor bell yr oedd Cymru yn unllaisdros Ddadgysyllt- iad yn 1885. Yn 1885 bu ymdrechfa mewn 30 allan o 34 o etholaethau yng Nghymru, a chynwys Mynwy. Etholwyd 30 o aelodau Ehyddfrydol, a 4 o aelodau Ceidwadol. Ond, os ydys am farnu yn gywir lais y wlad ar bwnc mewn etholiad, rhaid cyfrif nid yn unig nifer aelodau Seneddol ond hefyd nifer y pleidleiswyr ar bob ochr. Yn 1885 pleidleisiodd yng Nghymru oddeutu 120,000 dros Ddadgysylltiad—pe dyna faen prawf yr etholiad—ac oddeutu 80,000 yn ei erbyn. Hyny yw, am bob tri a bleidleisiodd di-osto, pleidleisiodd dau yn ei erbyn. Nis gall neb ddywedyd fod mwyafrif o dri yn mhen dau yn ddigon o reswm dros haeru fod Cymru agos yn unllais dros Ddadgysylltiad. Dylid cofio hefyd fod Cymru yn ystod haner olaf y ganrif bresenol wedi cyfnewid ei barn ar bwnc lled gyffelyb i Ddadgysylltiad. 'Cydolygai Ymneillduwyr Cymru unwaith â'r diweddar Mr. Henry Eichard, A.S., na ddylid derbyn arian o'r Llywodraeth at addysg, ond y dylid cynal addysg yn holloì ar yr egwyddor wirfoddol. Ond erbyn hyn y mae y rhod wedi troi gymmaint yn ein plith fel nad oes genedl yn y byd yn fwy unfryd a chadarn na ni yn ei chred yn nyledswydd y Llywodraeth ì dalu yn haèl at gynal addysg elfenol, ganolraddoí, a cholegol. Gwanheir nerth