Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CW^N COLL AM ENWOGION. Y PARCH. 8AMUEL DAVIE8. Ein gwiw dirion Gyn-gadeirydd,— a'n cryf A'n craff adolygydd, Gollodd Cymru,—darfu dydd Eín mawr a'n gwych. ladmerydd. Wesley wiw fu'n syw Lywydd—a chyson Iachusol wych Dref nydd ; Cadarn, diragfarn, a rhydd, A didwyll Gristion dedwydd. Ganwyd hwn yn genad hedd,—i addas Gyhoeddi tangnef edd; Gwas Duw Ion mewn gwirionedd,— Daliai'n bur hyd lan y bedd. Ca'dd fanteision cryfion cred—yn ebrwydd At Aubrey caad fyned ; I efrydu'n gu ca'dd ged Athraw ar air a gweithred. Uthr a llon bu'n athraw llad,—iawn addas Y gweinyddai'n wastad Egwyddorion mawrion mad Y Deyrnas, nes eu dirnad. Davies fu'n ben ysgrifenydd—ein talaeth, A'n teilwng gofnodydd, Yn ethol wasanaethydd—tra gorwych, A gwiw a dewrwych wir Gadeirydd. Pa'mtristawnar olSamwel,—mae heddyw Mewn meddiant goruchel, Mewn byd llawn gwynfyd, lle gwel Ei Wirdduw yn ei arddel. Clwydfardd. Ei wasanaeth dros ei enwad—ro'es ef, Drwy'i oes hir, yn wastad; Enwog wr f u yn y gâd, â mawreddus ymroddiad. Y Dalaeth sydd yn mud wylo,—yn awr, Mewn hiraeth am dano: Du, amlwg fwlch i'w deimlo, Drwy y wlad, ar ei ol o. Fel gwr o gyngor cafodd flaenoriaeth, Ynwirdeilwng, yn "NghadairyDalaeth," Yn ei sel a'i awydd tros Wesleyaeth, Efe a noddai—hoffai'i threfnyddiaeth. Hir oes o yni mewn pur wasanaeth A fu ei dalent a'i brofiad helaeth; [wlad A allai wneyd, ei wneyd a wnaeth—i'w 0 wir gariad, yn llawn o ragoriaeth. Yn ei ddawn, efe oedd enaid—y dalaeth— Ei dwylaw a'i llygaid ; A thrachefn efe'n gefn gaid I luoedd y Wesleyaid. Mae düwch trwy'i ymadawiad,—a gloes, Trwy eglwysi'r enwad; Diogel dŵr, di-gel dad,—mewn helynt, Ydoedd iddynt hyd ei ddiweddiad. 1 enw Duw cenad oedd,—â'i fawr aidd, Wefreiddai dyrfaoedd; Dros y gwir dyn cywir c'oedd A fu mewn cymanfaoedd. â'i fyw nerth ei benaf nôd—oedd treiddio At wraidd y gydwybod,— Cymell cyndyn ddyn i dd'od O'r camwedd at Dduw'r cymod. Ei laf ur a ddeil hefyd—yn golof n Deg eilwaith i'w fywyd; A cholofn ddifrycheulyd, A barha yn bur o hyd. Ioan Glan Menai. yr hybarch aechddiacon iohn evans. Archddiacon Ion yn wir—f u Ioan; Yn ei fywyd difri' Rhyw aruchel sant welir Hyd fin oea a'i dŵf yn îr. Ar ei wedd, heb gythruddo,—arafwch Gartrefai'n mhob cyffro; I lwyr hedd ymlareiddio Wna deifiol nwyd o'i flaen o. Gedy lamp ei ddysgeidiaeth—oleuni Ar lenyrch hynafiaeth,— Ac aml geinion chwedloniaeth I'w nhol hwy i'r anwel aeth. I'w olaf awr ymlafuriodd,—wed'yn Dioedi'r noswyliodd, — 0 frau oes tranc ar frys trodd, Am ne' wèn ymunionodd. ISALED. I Archddiacon Meirionydd—canaf:— Ond cwyno sy' beunydd ; Trigaloestrwy Eglwysydd—ambrelad Dewr fu yng ngalwad yr efengylydd. Urdd-lenor o ddylanwad,—un difost, Dyfal ei ymroddiad: 0 oesol wyÜ oedd dros y wlad,—i ni Gyrodd ar leni gywir ddarluniad. O'r Uwch trysorau llachar—a gododd Gydag aidd ymchwilgar: Rhoi trem wnaeth lawer tro ar Ystorgudd i'r ystyrgar. Dysyml ydoedd, di siom wlad wr,—gafodd Gytìawn glod dyngarwr; [gwendid Rhanwr llôg, trugarog wr—mewn I'r egwan welid yn wir gynaliwr. Ni fu i'w gael fugeilydd,—ar y gwr Eagorai'n ein broydd; Mewn gofal, dal nos a dydd Bu ei lafur i'w blwyfydd. Difefl was da, da i'r diwedd—i'w Feistr, Ac yn fab tangnefedd; " Aur-enau " i wirionedd Diau a fu hyd ei fedd. Dewi Glan Ffrydlas. Oes Giraldus hygar, ildiodd—i'r bêdd; A'i wlithfawr bin sychodd: Poenus ofid, pan safodd—nwyf bywiog Allu heulog y llaw a'i hwyüodd î