Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrögeaton Cene&IaetöoL * Bhif. 2.] EBRILL, 1890. [Cyf. IX. VULCAN FEL LLENOR, ATHRONYDD, A BARDD. GrWNAETH Vulcan le anrliydeddus iddo ei hun yn mhlith goreugwyr ein cenedl. Ni bu neb llai uchelgeisioì. Yr oedd mor anymhongar a phlentyn. Ni pharai glywed ei lef yn inhwyllgoraii yr Eisteddfodau, ac nid ynrwthiai i amlygrwydd ar eu llwyfanau; ni wnai ei hun yn amlwg yn nghynghorau na chynadleddau symudiadau cyhoeddus ei genedl a'i wlad; ond yr oedd yn fyw i'r oll, ac yn cymeryd y dyddordeb dj'fnaf ynddynt. Yr oedd dyrehafiad a dedwyddwch y gymdeithas ddynol yn gyffredinol yn agos at ei galon; ond yn arbenig felly íf-rchafiad a dedwyddwch ei genedl yn ol y cnawd. Eiddigeddai dros bobpeth yn perthyn i G-ymru, Cymro, a Chymraeg. Yr oedd addysg, llenyddiaeth, moes, :i chrefydd y genedl yn cael lle helaethyn ei galon. Nid oedd am ochel cyfrifol- üeb na'llafur. Yr oèdd ei dafod, ei ysgrifell, ei logell, a'i ddylanwad yn barod bob amser ar allor gwasanaeth ei genedl a'i wlad. Ond yr oedd yn naturiol enciliedig a gwylaidd. Ni fynai ymwthio i amlygrwydd. Yr oedd yn argyhoeddedig mai trwy lafur tawel a diwyd i ddyrchafu tôn llenyddiaeth ei wlad, a ehwyddo ei chyfoeth llenyddol, y gallasai ef wneuthury wasanaeth fwyaf, ac yn hyn ni bu yn ol i apostolion penaf ei genedl. Bu o wasanaeth i'w genedl a'i wlad trwy ffurfio cymeriad moesol a chrefyddol pur a dilychwin, a thrwy lafur gonest a helaeth fel efengylydd a gweinidog da i Iesu Grrist. Mae cymeriad da yn un o'r moddion effeithiolaf i leshau y gym- deithas ddynol. Y mae ei ddylanwad yn bwysicach ac eangach na phob rhagor- iaeth mewn dysg, gwj'bodaeth, a dawn. Tra y mae y naill yn gwella y galon, nid yw y llall ond yn diwyllio y meddwl. Erys dylanwad cymeriad moesol a chref'yddol Yulcan yn berarogl i'r genedl tra y pery ei enw mewn coffa ; a bydd yn elfen werthfawr yn ei chynysgaeth. Felly hefyd fel efengylydd a gweinidog. Pa mor enwadol bynag ydyw cylch gwasanaeth yr efengjdydd a'r gweinidog,— os yn alluog, gonest, ac ymroddol, y mae yn wasanaeth i'r genedl a'r wlad. Y mae bod yn offerynol i roddi amfygrwydd effeithiol i'r moddion cymhwysaf mewn bod i adfer cymeriadau llygredig, ac i gryfhau a sefydlu cymeriadau rhin- weddol, yn lles cyffredinol. Mae meddyg medrus mewn cymydogaeth yn fantais, nid yn unig i'r cleitìon, ond i'r trigolion i gyd. Ceidw yr afiechyd rhag ymledu, a sicrha barhad cysur y rhai sydd mewn iechyd : ac wrth fod yn fantais i'r g5rm- ydogaeth hono, y mae yn fantais hefyd i'r cj-mydogaethau cylchynol. Eelly hefyd y mae yr efengylydd a'r gweinidog gonest a ffyddlon. Gwna les, nid yn unig i'r rhai y llafuria yn eu plith, ond hefyd i'r ardal a'r wlad yn gyfrredinol. Rwnaeth Vulcan hyny. Yr oedd yn " ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd." Meddai ddawn neillduoì i eglìaro gwirioneddau mawrion yr efengyl, ae i'w cymhwyso at gydwybod a chalon ei wrandawyr. Yr oedd yn ymroddol i'w waith. Llafuriai '' mewn amser ac allan o amser." Bu yn ofîerynol yn llaw Yspryd Duw i argyhoeddi a dychwelyd llawer o bechaduriaid, ac i adeiladu tyrfa o " saint ar y santeiddiaf fîydd." Yr oedd hyn yn wasanaeth i'r genedl a'r wlad, ac ^'r gj^nideithas ddynol yn gyfîredinol. Dyma ei gjleh pwysicaf a mw5raf cysegredig. Ond rhagöriaethau ereill o'i eiddo sydd i gael sylw neillduol yn awr —Yulcan fel llenor, athronydd, a bardd. Edrychwn arno yn gyntaf fel LLENOH. Ystyr y gair Uenor yn y geiriaduron ydyw y dysgedig; yr ysgólor. Grolyga un cyfarwydl yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth, un cydnabyddus â ehyn-