Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: déÿltfymòni ëtmhhúìol Rhif 4.] HYDREF, 1890. [Cyf. VIII. DYGIAD YE, EFENGYL I BEYDAIN. Y mae hanes Eglwys Crist, er pan blannwyd hi yn y byd hyd yr amser presennol, yn destyn dyddorol gan bawb a addef ant yr Efengyl yn rheol bywyd. i Hanes ydyw am sefydliad, Dwyfol yn ei gychwyrriad, a seiliedig ar Berson, oddiwrth yr Hwn y mae pob peth hanfodol i'w fodolaeth yn deilliaw. Y mae ei' Sylfaenydd yn honni hawl i gael ei ystyried yn Dduw ac yn ddyn, ac yn ddechreuad ar greadigaeth newydd, yr hon a eiìw yn deyrnas nefoedd. Ond teyrnas ydyw, yn yr hon, yn anghyffelyb i deyrnasoedd ereill, y mae ei holl nerth yn ymddibynu, nid ar eangder ei thiriogaethau, na lliosowgrwydd ei deiliaid, ond ar ei Brenin yn unig, ac a reolir gan ddeddfau ag sydd ynddynt eu hunain heb gyffelyb, ac yn anghymwys i bob teyrnas arall. Yn yr oruchwyl- iaeth newydd hon, yr hon yn y dechreua gynnwysid mewn un Person, gwnaeth- pwyd darpariaeth i'w íledaenu a'i galluogi i gynnwys, tu fewn i'w therfynau, bawb ag ydynt barod ac ewyllysgar i fyned i mewn, ar y telerau o ymostwng i'r ddefod ddechreuol a ordeiniwyd gan ei Sylfaenydd. Y ddefod ddechreuol hon yw bedydd, trwy ba un, megis offeryn, 3' derbynir dynion i mewn i'r gread- igaeth newydd, ac y gwneir hwynt, mewn ystyr ddirgolaidd ac annealladwy i'r anian ddynol, yn un â'r Pen, trwy ou gwneuthur yn aelodau o'r corph a sefydlwyd ganddo Ef. Y ddarpariaeth hon ar gyfer lledaeniad y corph newydd hwn a ymddiriedwyd i bersonau neillduol, y rhai a ddewiswyd gan y Sylfaenydd ei Hun, ac a dderbyniasent awdurdod oddiwrtho Ef yn y geinau hyn: " Rhoddwyd i mi bob awdui-dod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glan ; gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf tì gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Hwynt-hwy, i ba rai y rhoddwyd y commissiwn hwn, a ddechreuasant weithredu arno heb oedi. Mewn ufudd-dod i orchymyn eu Harglwydd aethant rhagddynt, gan ddysgu a bedyddio, nes i'r corph a ddechreuasai mewn un Pereon fyned yn llu mawr, ac i'r ffydd a ddatguddiwyd yn Judea ymdaenu yn fuan, nid yn unig dros yr ymerodraeth Eufeinig, ond hyd yn oed dros yr holl fyd adnabyddus. Ei chenadwri Ddwyfol o hedd ac ewyllys da a amcenid ar gyfer holl ddynolryw yn gyffredinol, a'r gwaith a ymddiriedai Sylfaenydd y fiydd Gristionogol i'r sawl a osododd Efe i weithredu yn ei enw oedd trosglwyddo y gennadwri hon i derfynau eithaf y ddaear. Addefir gan haneswyr yn gjŵedinol ddarfod i'r gennadwri ddwyfol gael ei chludo yn fore iawn i Ýnys Prydain. Pa mor fuan, ar olplannu Criîtionogaeth yn Judea, y clywyd swn ỳr Efengyl gyntaf yn y parthau hyn, nid ÿw ynhawdd gwybod. Mor ychydig. sydd wedi disgỳn i lawr hyd attom ni o hanes yr Eglwys Gnstionogol yn Ÿnys Prydain yn y ddwy ganrif gyntaf; ac y mae yr ychydig y gwyddom am dano mor wasgaredig dros awduron estronol tu allan i gylch Uen- yddiaeth y Cjanry, fel mai gwaith dyrus ac anhawdd yw gosod y digwyddiadau yn eu iawn drefn mewn adroddiad pàrhaol. Ac etto, y mae yn rhaid addef fod y gwaith yn waith dyddorol. Pa Gristion gwerth yr enw na ddymunai wybod pa pryd, a' chan bwy, y dygwj-d Cristion- ogaeth gyntaf i'r wlad hcn, ac yr effeithiwyd y cyfuewidiad anrhaethol yn