Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENINEN GWYL DEWI (ARGRAPBIAB ARBENIG O'R " GENINEN," FAWRTM, 1890J Y CYNTAF 0 D E W I S A N T. A garo Dewi, da gyniydog, Cared ymwared ag anghenog.—Gwynfarch Bryeheimog. Ee ys amryw ganrifoedd gwerm Cymru wedi cytun bellach, mae gwerm lymru weai cytuno i fawrygu Dewi fab Xon fel sant gwarcheidiol y genedl. Ymddengys hyn yn rhesymol iawn o'i gydmaru à pharch yr Ysgotyn i Andreas, na wyddys iddo erioed fod yng ngolwg Ynys Prydain, ac eiddo y Sais i Sior, archesgoh yn Alexandria, oedd mor ddieithr i'r ynysoedd hyn ag ydoedd i'r rhinweddau Cristionogol. Ond anhawdd ar yr un pryd ydyw deall pa fodd y daeth Dewi yn wrthrych cdmygedd a chlod gan y Cymry oll, ag yntau o ran maes ei lafur a chylch ei ddylanwad yn perthyn mor neillduol i'r De. Ceir yng Nghymru a Lloegr dros ddeg a deugain o eglwysi yn arddel cysylltiad â"r sant mewn rhyw fodd neu gilydd, ond nid oes gymaint ag un yn ei gydnabod yr ochr ogleddol i'r Dyfi. Dengys hyn mai yn gydmarol ddiweddar y daeth gwyi* y Gogledd i'w anrhydeddu, a phair i ni feddwl yn uchel am egni a bywiogrwydd ein brodyr Deheuol, yn llwyddo fel hyn i wneud eu ffafryn arbenig hwy yn wr anwyl gan yr holl Dywysog- aeth. Yn yr un modd, maent wedi gallu darbwyllo y Cymro mai y geninen ydyw ei arwydd cenedlaethol, er mai anaml iawn, os da rwy'n cofio, y gwelir ei brigyn gwyrdd ar lechweddau oer y Gogledd. Yn y dyddiau hyn mae cysyíltiad agos ac annatodadwy rhwng cenin â Dygwyl Dewi. Ünd nid yw yn ymddangos fod yr undeb rhyngddynt yn hynafol iawn. Ÿr oedd yr arferiad o wisgo ceninen ar ddydd Calan Mawrth, fel arwydd allanol o genedlgarwch Cymreig, yn llosgi yn y fynwes, mewn hri mawr yn amser Shakespeare. Yn ei " King Henry V." gwna'r bardd nid yn unig i Fluellen, y cadben Cymreig, ond hefyd i'r brenin Harri ei hun, aned yn Nhrefynwy ar yr Wy, wisgo'r llysieuyn cenedlaethol, ac y mae drwy enau y Sais Gower yn datgan cryn harcii ei hun i'r hen ddefod. " Ai dirniygu a wnewch," medd hwnw wrth y °orgi llwfr Piatol, " draddodiad o'r hen amser, gafodd ei ddechreuad mewn am- gflchiad anrhydeddus, ac a barheir byth; yn ddyledus goffa am wToniaid ymadaw- edigp" ()nd nid yw Shakespeare, gafodd ei wybodaeth ar y mater yn sicr gan ry w Gymro, yn olrhain y ddefod ym mhellach yn ol na brwydr Cressi (1346) : y pryd ! hwnw, yn ol eì syniad ef, y gwisgwyd y geninen am y tro cyntaf erioed, ac er cof am y fuddugoliaeth hono y gwisgid hi byth. Amlygir yr un peth gan hen gofnodydd y ceir ei waith yn yr Iolo MSS. ('tud. 65). Ym mrwydr Cressi, medd hwnw, •* y gwaeddoddy Capden Cadwgan Foel ar y* Cymry a deisyf arnyn gymeryd cenhinen yn eu helmau"; mewn cae cenin yr ydoedd yr ymladd, a phan edrychwyd o bob tu, Cỳmry oeddynt oll onid naw ar hugain yn y lìu hyny, a'r Saeson mewn rhan arall lle nad oedd yr ymladdfa, a hjmy fu'r achos i'rCymry wisgo cenhinen." Yn lled ddiweddar, felly, y lluniwyd y chwedl adnabyddus arall amadechreuad yr arforiad, sef mai Cadwallon yn y seithfed ganrif a barodd i'w filwyr wisgo'r geninen gyntaf, pan yn ymladd ya. erbyn y Saeson. Ni chlywir am y peth, mewn gwirionedd, cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a damweiniol hollol ydyw ei gysylît- iad â gwylmabsant yr hen Ddewi. Gellir olrhain parch y Gogleddwyr i'r sant amryw ganrifoedd ym mhellach yn ol. Ff urf arall ar ei enw oedd Dafydd, ac j^n y canol oesau mae pcth afrifed o fechgyn Cymru yn derbyn yr enw yma gan eu rhieni. Ar dafod trwstan y Sais ai Dafydd yn rhwydd iawn yn " Taffy," a daeth yn ddigrifwch gan ein cymydogion chwareus i alw pob Cymro yn " Taffy," megis yn y llinellau athrodus hyny— Taffy is a Welshman, Taffy is a thief, etc. Ac nid oeddent ym mhell iawn o'u lle, yn hyn beth bynag, fod yr enw bron mor gyffredin ym mhlith y Cymry ag ydyw Jòhn jTn mysg tylwyth John Bull. Chwilier, er engraifft, y " Record of Carnarvon," casgliad o ysgrifau yn dwya perthynas â Gogledd Cymru yn y hedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed,