Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PARCH. D. HÜGHES, B.A., TREDEGAR. Pan gyntaf y gof ynwyd i mi barotoi ysgrif goffadwriaethol am y gwr enwog hwn i'r GeniIíen, teimlwn duedd i ymesgusodi, am yr ofnwn fy mod yn brin o ddefn- yddiau at y gwaith Önd gan y gwesgid arnaf fyned yn mlaen gyda'r hyii oedd yn fy meddiant, nis gallwn mwyach fod yn anufudd. Teimlwyf heddyw yn fwy parod i'r gorchwyl, wrth ystyried fy mo'd i ac yntau o'r un gymydogaeth, a'm bod yn ei gofio, cr pan wyf yn cofio neb, o'r tu allan i gylch fy nheulu fy hun. Mwynheais lawer o'i gymdeithas, yn mlynyddoedd cyntaf fy mywyd, a der- byniais oddiwrtho wersi buddiol nid ychydig. Y mae bellach ragor na drvy Jiynedd ar bymtheg wedi myned heibio er pan y bu farw ; eto, ofer hyd yn hyn a fu ein disgwyliad am weled cofiaiìt llawn am dano. Gwyddom iddi ddigwydd yn debyg gyda choffadwriaetb enwogion, lawer tro ; ond nid yw yn beth hyfryd i'w gofìo, serch hyny. Yn niffyg y fath goffad helaeth a manwl ag a garasem weled am I " Hughes o Dredegar," dichon na fyddyr ychydig grybwyllion canlynol am dano yn annerbyniol gan ddarllenwyr Y Geninen. Gwir, nad oes berygl i'w "enw fyned yn anghof yn ein mysg. Yn nglyn â'i Eiriadur penigamp, heb son am ddim arall, rhaid yw y pery ei glod dros amser oenhedlaeth a chènhedlaeth. Ond er fod enw Mr. Hughes yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus i lenorion Cymreig, y mae genym le i gredu na ŵyr y lìuaws, yn mhlith trigolion ein gwlad, ond pur ychydig am fanylion ei hanes. Pan fyddis yn teithio'r ffordd a arweinia o Gaernarfon, drwy Bethel, tua Bethesda, ni a welwn ar y chwith, wedi ein dyfod yn lled agos i Egiwys Llanddeiniolen, fferm a'i gogwydd tua'r gorllewin, o'r enw Cefn Uchaf " yno y ganwyd hwn,"—nid yn y ffermdy a welir yno yn bresenol, ond mewn ty arall o hynafiaeth diamheuol, a safai ar yr un llanerch. Amser ei enedig- aeth oedd, Mehefin 21ain, 1813. Yr oedd hyn tua dwy flynedd cyn gorthrechiad Buoüaparte ar faes "Ẁaterloo. Adeg ryfedd ydoedd,—y wlad oll yn arswydo rhag "Boni," ac Èwrop yn llawn terfysg a chy ffro drwyddi draw. Ond yr oedd y baich trwm wedi ei ryddhau, a'r byd mewn heddwch, cyn iddo'ef allu amgyffred dim ynghylch digwyddiadau arswydlawn tymhor ei fabandod. Fel y tyfai i fyny, daeth i deimlo hoffder mawr at le ei enedigaeth. Ond er fod y tir oddeutu yn gynyrchiol, a'r safle yn'ysgafn, nid ocs dim yn rhamantus nac yn neillduol bryd- ferth o gylch y fan. Bu i rieni ein gwrth- ddrych lawèr o blaut,—ineibion gan «iwyaf,—y rhai, yn moreu eu hoes, a ddysgid i drin y ddaear, ac edrych ar ol anìfeiliaid. Pobl gall, hynaws, a gofalus am eu heiddo a'u plant oeddynt, ac a fuont, drwy holl ystod eu hoes. I eglwys y plwyí> gan eu bod yn agos, yr arferent hwy fyned; ond y plant fel rheol a ddewisent wrando y gair yn Bethel: arweiniodd hyn i ganlyniadau pwysig, yn neillduol gyda golwg ar ddau o honynt, sef, Grifflth a Darid Hughes. Yn Betheí y goleuwyd hwy am drefn i iachawdwr- iaeth, y derbyniwyd hwy yn aelodau, ac y dechreuasant bregethu. O'r ddau, Griffith. oedd yr hynaf, gan iddo gael ei eni yn 1810 ; ond, David oedd y cyntaf i ymuno â'r achos ac i ddechreu pregethu hefyd. Am yr amser, fel hyn y dywedir yn y byr-goffàd a geir am dano yn y " Covngi-egational Year Book " am 1873:— '' Teimlodd argraffiadau crefyddol dwysion pan yn ieuanc ; a thra eto yn fachgen, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Bettíel, i'r hon yr oedd y Parch. D. Grifîith, hynaf, yn weinidog ; a phan yn 19 oed, ar ddymuniad taer y cyfeillion yn y lle, dechreuodd bregethu." Yn fuan ar ei ol, cafwyd gan ei frawd esgyn i'r areithfa; ac efe, yn yr adeg honno, a ystyrid gryfaf o gorfí, ac o alluoedd meddylioì hefyd. Ond heb fanylu yn y ffordd yna, rhaid mai d^^nion ardderchog oeddynt ill dau. Yr oedd son am eu doniau, a'u hymroddiad i lafur, yn llenwi yr holl wlad. Ymddygasai eu rhieni yn ganmoladwy, drwy ro'ddi iddynt gymaint 0 foddion addysg ag oedd o fewn terfynau eu gallu. Ni raid dweyd i'r naill fel y llall wneud y defnydd goreu o'r manteision a roisid yn eu ffor'dd. Yr oedd eu syched am wybodaeth yn fawr, a'u cynydd yn mhob cangen o addysg yn rhyfeddol. Ar 01 cael y fath gychwjTiiad da, aed rhag- ddynt i ddysgu eu hunain, a dysgu eu gilydd; a mawr oedd awydd yr ardalwyr am eu gweled yn troi i ddysgu eraill hefyd. Ni cheid yn y wlad yr adeg honno ysgolion a dim llewyrch arnynt bron yn unman. Yn wyneb hyn, meddylid pa mor dda f uasai cael gan un o'r ddau frawd agor ysgol yn ardal Bethel. Yr oedd y capel, fel yr oedd, i fod i gyd at eu gwas- anaeth, dim ond iddynt gydsynio. Ond hwy ni wnaent dros amser. Edrychid ar swydd yr ysgolfeistr gwledig fel un lled isel y pryd hwnw. Onid oedd perygl niweidio ùrddas y teulu ? Felly, meddir, y_ tybiai yr hen bobl. Ond llwyddwyd i orchfygu eu rhatrfarnau. Ymgymerodd Mr. Griffith Hughes â chadw ysgol yn Bethel, am ryw gymaint o amser, ac addawai ei frawd ei gynorthwyo wrth angenrhaid. Cododd y sefydliad i fri mawr ar unwaith, Cyrchai bechgyn