Symud i'r prif gynnwys

i88i.] Dyddanion. 131 yr ymunodd a'r Bedyddwyr, ac y bed- yddiwyd ef gan y diweddar Dr. Ellis Evans. Nid ydym yn gwybod dydd- iad ei fedydd, ond tybiwn i hyny gym- eryd lie er's dros 50 mlynedd yn ol. Symudodd o'r Cefn i Brymbo. Daeth a'i lythyr gollyngdod gydag ef, ond nid oedd achos gan y Bedyddwyr yn Brymbo y pryd hwnw. Dechreuwyd yr achos yn y flwyddyn 1836, pan ddaeth y Parch. Benjamin James heib- io i'r lie i bregethu. Yr oedd Alltud yn un o dri neu bedwar a ymunodd i ddechreu yr achos yn y lie y pryd hwnw. Efe yn awr oedd y Bedyddiwr hynaf yn y lie. Bu yn gymorth mawr i'r achos yn ei wendid. Yr oedd yn gyfaill mawr i bregethwyr, ac y mae lie i gredu iddo fod yn fwy hael nag y gallasai ei amgylchiadau fforddio mewn croesawu pregethwyr i'w dy, &c, a hyny pan oedd y Bedyddwyr yn ym- drechu gosod eu traed i lawr yn y gym- ydogaeth. Y mae enw Alltud Glyn Maelor yn adnabyddus trwy Gymru fel bardd, ac fel awdwr rhai o'r emynau goreu yn yr iaith Gymraeg, megys, " Cofio'r wyf yr awr ryfeddol, Awr wirfoddol oedd i fod," &c., a hefyd, " Mi welaf yn medydd fy Arglwydd, Ogoniant gwir grefydd y groes," &c , a lluaws o rai eraill nas gallwn eu nodi. Cyhoeddwyd llawer o'i weithiau awd- urol yn llyfryn, dan yr enw, " Y Fod- rwyAur,"ac y mae darnau amrywiol o'i waith yn britho tu dalenau ein cyf- nodolion yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Cymerodd ei angladd le dydd Mer- cher, Mai 11. Claddwyd ef yn myn- went hen eglwys Brymbo. Gweinydd- wyd yn y capel ac wrth y bedd, gan y brodyr J. Davies, gweinidog, S. Rob¬ erts, a J. Pickering, Coedpoeth.—Y Greal. —Ysgrifena y brawd fFyddlon Mr. Robert Roberts, Ffestiniog, G. C, (Uticagynt), fel hyn : "Lied farwaidd yw y fasnach lechau, ond yr ydym ni yn Ffestiniog yn cael gweithio chwe' diwrnod j ond pedwar y mae Llanber- is a Bethesda yn ei weithio. Y mae yma adeiladu capelau anarferol. Mae Bedyddwyr Tanygrisiau bron a chael to ar eu capel newydd hardd; hefyd y mae Bedyddwyr Four Crosses ar dde¬ chreu adeiladu capel yn Llan Ffestin¬ iog. Mae lie i gredu fod dychweliad pobloedd lawer at y Siloh i fod, gan ei fod yn rhoddi yn nghalon ei blant i barotoi mor helaeth am le i'w derbyn. Darllenais eich erthygl yn y Wawr ddiweddaf, yn cwyno fod y gyfeillach grefyddol yn colli tir yna. Mae yr un peth i'w weled yma. Yn wir, gellir dyweyd yr un peth am holl gyfarfodydd yr wythnos; mae gogwydd yr oes at wagedd. Bu ein cyfarfod blynyddol y Sabboth olaf yn Mai, y brodyr can- lynol yn ei gynal : Dr. Fred. Evans, Seth Jones, a Dan Davies, Bangor. Hefyd bu Dr. Evans yn traddodi dar- lith ar " Y Cymro yn America," y nos Lun ganlynol. BEDYDDIWYD- Yn Niles, Ohio, Mai 20, 1881, bedyddiwyd dau frawd ar broffes o'u ffydd yn Iesu Grist, gan y brawd D. C. Thomas. Yn yr un lie, a chan yr un brawd, bedydd¬ iwyd un, Mehefin 19, 1881. Da genym fod llafur ein gweinidog yn cael ei fendithio.— Brawd. GANWYD— Mai 28, yn Niles, O , bachgen tlws iawn i Mrs Job, anwyl briod John Job, diweddar o Gymru, gelwir ei enw William Vernon Job. Niles, Ohio.—Mae yr eglwys hon yn bres- enol yn gweithio gydag egni er harddu y capel.—Brawd. DYDDANION. YMWELIAD A SHELTER ISLAND, YN NGHWMNI Y PARCH. LL. D. BEVAN. [Parhad.J Y GWADWR A'R BRADWR. Rhwygiedig eiriau'r gwadwr—a ddioed Faddeuai'n Hiachawdwr; Eithr ei hedd dros gamwedd gwr, Ni furiadodd i'w fradwr.