Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WAWR. Cyp. VI.] AWST, 1881. [RfciF. 5. PAUL YN ATHEN. GAN Y GOLYGYDD. E.HIF I. Rhagarweiniol. Awn yn ol ddeunaw cant a haner o flynyddau, a pha beth welwn ? Gwel- wn "gyflawnder yr amser" wedi dod yn ffaith—goruchwyliaeth newydd wedi gwawrio ar y byd. Y fath wanwyn raoesol a dorodd allan ! Yr amser i'r adar ganu a ddaeth, ac mae llais y ddur- tur yn y wlad. Murmurai bywyd hy- lifol drwy holl anian; nawseiddiodd tymeredd awyrgylch y byd. Onid yw ysbryd y peth byw yn y fan hyn ac yn y fan draw ? Onid yw awel y dydd yn fwy lledneisfwyn nag arfer ? A mwy na hyn, oni adnewyddodd siriol- deb y ser, tegwch y Ueuad, ac urddas yr haul? Yn ddiau ar ddaear dyn gwawriodd gobaith gwell; " Blwyddyn y Jubili a ddaeth A rhyddid cu i'r enaid caeth." Mae goruchwyliaethau blaenorol yn ymddatod a diflanu. Mae goruchwyl¬ iaeth ragorach wedi ymddangos. Tros- glwyddir gwaed newydd i wythienau y corph cymdeithasol. Adeg y diwyg- iad ydyw—diwygiad y diwygiadau. Gwireddir y geiriau, " Yr hen bethau aethant heibio, wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd"—cyfreithiau, dysg- eidiaeth, cymellion, rheolau ac arferion newydd. Hen ganolfuriau gwahaniaeth cenedloedd dynir i lawr hyd eu syl- faeni. Dychlama calon dynoliaeth o dan ddylanwad gobaith gwell; ym- ddadebra ysbryd a meddwl dyn ; byw- heir cyneddfau meirwon. " Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a os- tyngir ; y gwyr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wastadedd." " Tir Zab- ulon, a thir Naphtali, wrth ffordd y mor, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea y Cenedloedd : y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chys- god angau, y cyfododd goleuni idd- ynt." Daeth teyrnas Dduw yn agos at ddyn. Yn ddiau, dyma adeg na welsai y byd erioed ei thebyg. Bu ad- egau rhwysgfawr, cynhyrfus a thryst- fawr yn flaenorol, a gadawsant eu hoi ar genedlaethau, ond nid un yn gyffel- yb i hon. Fel mewn pedair-awr-ar- hugain gall llawer dygwyddiad yn nat- ur fod yn fwy trystfawr a chynhyrfiol na chodiad haul y boreu, eto nid oes yr un mor effeithiol ac ymlonol—yr un mor bwysig i'r myrddiynau, ac mor hanfodol i fywyd—mor angenrheidiol i anian fawr amgylchog : felly hefyd yn ystod pedair mil o flynyddoedd, ol- wynodd heibio adegau o bwys i'r hil ddynol—adegau cynhyrfiol, brochus, ac weithiau bendithiol; ond eilfydd i'r adeg hon ni fu. Yn awr coda Haul Cyfiawnder ar y byd tywyll cenedlig, a meddyginiaeth yn ei esgyll. Yr efeng- yl a bregethir i'r Cenedloedd—sefydlir teyrnas Dduw ar y ddaear. Yr amcan yw dyrchafu dyn—ei urddasoli yn fat- erol, yn gymdeithasol, ac ysbrydol. Bydd y naill urddas yn amod i'r Halt