Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

18941 Awdwyr Emynau Cymreig. 241 ond fel llawer eraill yn yr oes hono, gweithiodd ei hun i fyny, a daeth ya bregethwr cymeradwy. Cyfansodd- odd lawer o emynau, a chyhoedd- wyd un llyfr o'i waith pan nad oedd ond 23 mlwydd oed. Trwy gychwyn a golygu Seven Gomer (1814) y daeth efe fwyaf i'r amlwg. Evan Evans (Ieuan Glan Geirion- ydd). Ganwyd ef yn Tanycelyn, yn ymyl Trefriw, yn y flwyddyn 1795. Bu yn gofalu am y fferm gyda ei fam am beth amser (oblegid gweithiai ei dad ei grefft, sef saer llongau.) Caf- odd well manteision addysg na llawer o'i gyfoedion, oblegid aeth i ysgol rad Llanrwst, a bu yno hyd nes yr oedd yn 21 mlwydd oed, pryd yr ym- adawodd, ac aeth i gadw ysgol ei hunan i Talybont. Pan yma, rhodd- odd ei fryd ar farddoni. Ymadawodd oddiyno yn mhen dwy flynedd, ac aeth i swyddfa argraffu yn Nghaer- lleon. Yr oedd yn fuddugol gyda yr awdl ar y 'Dywysoges Charlotte,' yn Eisteddfod Llanelwy, yrhyn awnaeth i Arglwydd Mostyn gymeryd sylw o hono, a chynyg arian iddo, er cael ychwaneg o ysgol i ymbarotoi i'r off- eiriadaeth. Teg ydyw hysbysu mai gyda y Methodistiaid yr arferai gref- ydda cyn hyn, ond bu y cynygiad yma yn foddion i'w droi at yr Eglwys Sefydledig. Wedi treulio ei amser colegawl, urddwyd ef gan Esgob Caerlleon yn gurad ar yr Eglwys Gymreig yn y dref hono. Yn mhen amser, symudodd i Ince, Sir Gaer, ac yno y bu am flynyddoedd, er ewyll- ysio o hono gael dychwelyd i Gymru at ei genedl ei hun. Cyfansoddodd lawer o emynau, a chyfieithodd lawer o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, a gallwn restru ei waith gyda y rhai mwyaf arferedig yn ein cynulleidfaoedd. Y maent yn goeth a gorphenedig, o berwydd byddai bob amser yn gwneyd ei oreu. Yn mysg ei emynau gwreidd- iol, cawn y rhai sydd yn dechreu fel y canlyn: 'At un a wrendy weddi'r gwan,' 'Ar for tymhestlog teithio'r wyf,' 'Mae 'nghyfeillion adre'n my- aed,' 'Ar Ian Iorddonen ddofn,' O ! Dduw, rho im' dy hedd,' 'Dy gymorth, Arglwydd, dod,' &c. J. K. Jones (Alltud Glyn *Maelor). Yn Llanarmon yn Ial, Sir Ddinbych, y ganwyd ef, tua'r flwyddyn 1796, ac y treuliodd foreu ei oes. Symud&dd oddiyno i Brymbo, lie y gorphenodd ei yrfa, Cyhoeddodd ddau .lyfryn o farddoniaeth, yn mha rai y mae llaw¬ er o'i waith ei hun. Dyma rai o honynt: 'Yn Nghalfaria mae fy myw- yd,' 'Yr awr weddio garaf,' &c; ac iddo ef yr ydym yn ddyledus am yr emyn hwnw ag sydd mor werthfawr yn ngolwg pob Bedyddiwr, 'Mi welaf yn fy medydd fy Arglwydd,' &c; ond y mae yn debyg nad oes yr un o'i waith yn euro y penill byrfyfyr hwnw a gyfansoddodd wrth wrando preg- eth ar y testyn, kY Tad, daeth yr awr/ a chanwyd ef ar ddiwedd yr oedfa gyda hwyl anarferol, sef— "Cofio'r wyf yr awr ryfeddol, Aw; wirfoddol oedd i fo<i; Awr a nodwyd cyn bod Eden, Awr a'i dyben wedi d'od; Awr wynebu ag un aberth, Awr fy Nuw i wirio'i nertb; Hen awr anwyl prynu enaid, Awr y gwaed, pwy wyr ei gwerth ?" William Jones (Ehedydd Ial). Efe yw awdwr yr emyn, ' Er nad yw 'nghnawd ond gwellt,' &c. Nodwn o dan ba amgylchiad y cyfansoddodd ef. Yr oedd yn gwasanaethu mewn fferm yn mhlwyf Llanelidan, yn mha le yr oedd gwraig weddw a dwy o ferched yn byw. Cymerwyd un o'r merched yn glaf, a bu yn dihoeni yn hir o'r darfodedigaeth; ac ebai yr hen wraig wrth "William Jones, 'Dos i fyny y grisiau, a dywed rywbeth i godi calon fy merch anwyl; y mae yn wraeth heddyw, ac yn fwy ofnus ac isel fedd- wl. Soniai fod mellt gorchymynion Sinai yn peri dychryn iddi.' Aeth yntau allan ar y pryd, ac i Ian yr afon (hen bwlpud llawer un cyn heddyw),. gan feddwl beth i'w ddweyd er ei chysuro; ac wedi ,cyfansoddi pedair llinell gyntaf y penill, yna aeth yn ol, ac adroddodd hwynt iddi, yr hyn a fu o fawr gysur iddi, gan beri i'w hofn- au ffoi. Gorphenodd y penill hwnw ar ol hyny, ac hefyd amryw eraill ato.