Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

86 Y WAWR. MARWOLAETH Y PARCH. OWEN GRIFFITH, GOLYGYDD Y "WAWR." Am 1:30 o'r gloch boreu dydd Iau, Mai 14, yn St. Elizabeth Hospital, Utica, bu farw y Parch Owen Griffith (Giraldus)* ar ol cystudd poenus o tua chwech wyth- nos, yn 63 mlwydd, 3 mis a 13 diwrnod oed, gan adael i alaru ar ei ol briod hoff, ei ferch, Miss Anna L. Griffith, a'i nith, Miss Annie Griffith, y rhai gawsant weini iddo yn ei oriau olaf. Mae hefyd frawd a thair chwaer iddo yn Nghymru, set' Evan Griffith (Ieuan Dwyfach), Gam ; Mrs. Margaret Williams, Caernarfon; Mrs. Mary Williams, Lerpwl, a Mrs. Ellen Lewis, Tyddyncastell, Llwyndyrus, Lleyn. Cym- erwyd ef i'r ysbyty ryw bythefnos yn flaenorol er myned dan operation ; ond pob ymdrech meddygol yn aneffeithiol. Ei afiechyd oedd diabetes. Bydd yn chwith gan ganoedd yn mhob rhan o'r wlad dde- all na eilw Giraldus gyda hwy mwy. Yr oedd er ys ugain mlynedd yn teithio bron yn barhaus dros y Wawb, ac i wasanaethu yr eglwysi Bedyddiedig yn yr efengyl; a chan fod yr elfen o gyfeill- garweh yn gref ynddo, yr oedd iddo gylch eang o gyfeillion. Wele brofiadau rhai o honynt: D. Lloyd Jones, Pittsburg : "0, y mae yn ddrwg genyf am ei deulu parchus; ac yn chwith iawn genyf na chaf eto siglo llaw a brawd mor ddiniwed, ac eto mor dalentog a golygydd y Wawr." Y Parch. E. J. Davies, Plymouth: "Bydd ei farwol- aeth yn golled fawr i ni fel Bedyddwyr Cymreig trwy y wlad, canys gwasanaeth- odd ni yn ngwyneb rhwystrau am dros ugain mlynedd." B. Hughes, Hyde Park: " Yr oeddwn yn adwaen Giraldus er's 30 mlynedd. Bu yn llafurus dros ben gyda y Wawr, yn gweithio yn galed am ychyd- ig dal. Anhawdd sylweddoli y golled gan yr enwad Bedyddiedig ar ol un wnaeth gymaint drosto. Hyderaf ei fod wedi cyraedd gwlad sydd well i fyw." Y Parch. W. F. Davies, Providence: "Yr oedd gen- ym afael gref ynddo fel enwad trwy y Talaethau. Mae wedi gadael bwlch yn ein rhengoedd anhawdd, os nad anmhosibl ei lanw. Duw yn unig wyr ein dyled iddo yn ei gysylltiad a'r Wawr am ugain mlyn¬ edd, a symudiadau eraill. Nid oedd gen- ym fel enwad ond un Giraldus." Y Parch. D. E. Richards (leuan Fardd), Slatington: '•Mae yn wir ddrwg genyf am yr hen Gir¬ aldus, oblegid yr oedd fy nghariad ato yn fawr, a bydd ei goffadwriaeth yn fendig- edig genyf."' Y Parch. D. Rhoslyn Davies, Allegheny, Pa.: "Daethym i adnabyddiaeth ag ef pan oedd yn weinidog yn Minersville, 28 mlyn¬ edd yn ol. Bum gryn lawer yn ei gym- deithas wedi hyny, a chefais ef bob amser yn gyfaill doeth, cj'wir a charedig. Yr oedd yn bleser i mi gael ei gymdeithas ddyddan pan alwai heibio yn achos y Wawr, ac y mae yn chwith genyf feddwl ei fod wedi galw gyda mi am y tro di- weddaf. Gweithiodd yn rhyfeddol o ffydd- lon i gadw cyhoeddiad yr enwad yn fyw, ac ymddaliodd ati yn ngwyneb anhawsder- au lawer. Wele ef fel gwas ffyddlon wedi myned i dderbyn ei wobr; yr Arglwydd fyddo yn gymorth i'r teulu i ymdawelu." PRIF LINELLAU EI HANES. Ganwyd y Parch. Owen Griffith yn Tan- ybraich, Garn, Dolbenmaen, yn 1832; ac yn ysgol genedlaethol y llan, dan hen ath- raw o'r un enw ag yntau, y derbyniodd ei addysg foreuol. Yr oedd Richard E. Jones, John Street, TJtica, yn gydysgolor ag ef. Bedyddiwyd ef pan yn 13 mlwydd oed. Yn fuan wedi hyny, prentisiwyd ef yn saer llongau yn Mhorthmadoc, a bu yn gweithio wrth y gelfyddyd hono nes oedd tua 30 mlwydd oed, pryd yr aeth i Goleg Hwlffordd er parotoi ei hun i waith y weinidogaeth. Yn gydfyfyrwyr ag ef yno yr oedd y Parchn. B. Thomas, Toronto, Canada; N. Davies, Aberteifi ; W. Jones, Abergwaen, &c. Cafodd alwad i weinid- ogaethu yn Moriah, Risca, a bu yn dra llwyddianus yno. Yn 1866, ymfudodd i