Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CRONICL. Rhif 682.] CHWEFROR, 1900. [Cyf. LVIIÍ. Nodiadau ©refyddol. NIS gallaf ddechreu fy nodiadau yn well y mis hwn na thrwy roi y lle blaenaf i goffadwriaeth y di- weddar D. L. Moody. Bu farw yn ei sdŷ èi hun yn Northfield, Mass., dydd Gwener, Rhagfyr 2iain, 1899, a chladd- wyd ef y dydd Mawrth canlynol yn Round Top, Northfield. Ganwyd Dwight Lyman Moody yn Northtìeld, Chwefror ^ed, 1837. Saer-maen oedd ei dad, a fu farw yn mhen pedair blynedd wedi geni Dwight, gan adael ei weddw a naw o blant mewn dvgn dlodi. Ymladdodd y fam yn galed i gadw cartref i'r plant, a dylanwadodd y blynyddoecid geirwon hyny yn dda ar gymeriad yr Efengyl)rdd. Bu'n wâs fferm, a thra yn gweithio mewn lle unig syrthiodd clawdd neufence arno, ac nis gallai ddoJ yn rhydd. Rhoes brawf y pryd hwnw o'i grediniaeth boreu yn effeithiolrwydd gweddi. Nis gallai symud y coed oedd ar ei gefn er ym- egnio'n galed, ac er gwaeddi, nid oedd neb yn d'od i'w waredu. Dechreuodd weddì'o, ac wedy'n cododd y rails yn berffaith rwydd. Aeth i Boston pan yn ddwy-ar-bymtheg oed at ewythr iddo, a gadwai faelfa esgidiau. Daeth yno o dan weinidogaeth y gweinidog Anibynol enwog, Dr. Kirk, a chafodd " droedigaeth," oblegid ni wybuasai am hyny o'r blaen gan mai gyda'r Undod- iaid y magesid ef. Symudodd i Chicago yn 1855 i agor siop esgidiau. Yno y dechreuodd ddysgu yn yr Ysgol Sul, ac y daeth o hyd i waith mawr ei fywyd. c # Casglodd ddeunaw o blant carpiog ac aflan y ddinas ato, a gosododd i lawr sylfaen ei ddefnyddioldeb cyson gyda chrefydd. Pan dorodd y rhyfel cartrefol allan yn America aeth yn genhadwr i faes y gad. Wedy'n dychwelodd a chodwyd capel mawr iddo yn Chicago. Tyrai torfeuydd i'r capel hwn i wrando ar Moody a'i enaid ar dân yn dyweud am y Ceidwad. Daeth drosodd i'r wlad hon yn y íì. 1073 gyda Mr. Sankey. Dechreuasant eu gwaith yn Edinburgh, ac aethant drwy y wlad gan ddiweddu yn Llundain. Yr oedd dylanwad yr ymweliad hwnwyn rhyfeddol. Toddwyd beirniadaeth oer a llosgwyd amheuaeth goeg gan dân y diwygiad. Enillwyd dynion o alluoedd meddyliol cryfion tebyg i Dr. Dale i gefnogi cenhadaeth Moody a Sankey, ac i wneud eu goreu drosti. Y pryd yma y dechreuodd y di^-eddar Proff. Drummond bregethu a chynal cyfarfodydd diwygiadol, a ffynai cariad mawr rhwngMoody aDrummond hyd y diwedd. Daeth Moody drosodd i'r wlad hon wedy'n yn 1883, onc^ n^ enynwyd yr un brwdfrydedd crefyddol ar yr ail ymweliad. Cartrefodd Mr. Moody vn ei hen fro vn 1875, ac agorodd Ysgol i Ferched yn 1879, ac ysgol i fechgyn a dynion ieuainc yn 1879. Addysg grefyddol yw nod amlwg yr ysgolion hyn. Bu Mr. Moody yn loddion i gychwyn y Bible Institute yn Chicago hefyd, a'r Northfield Training College. Yr oedd yn llawn gwaith hyd y diwedd, ac ar daith bregethu yr oedd pan gymerwyd ef yn glaf.