Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

itY CRONICL,^ Rhif 687.] GORPHENAF, 1900. [Cyf. LVIIí. Nodiadau ©refyddol. IBOB dyn sydd yn caru heddwch y mae—o'r safbwynt crefyddol— agwedd ofidus iawn ar yr hen fyd yma y dyddiau hyn. Pan oedd cynad- ledd fawr heddwch a chyflafareddiad yn eistedd yn Mhrifddinas Holland y llynedd, yr oeddem yn rhyw led obeithio •fod asgwrn cefn rhyfel wedi ei dori, a thiriondeb Iesu o Nazareth yn dechreu dylanwadu ar deyrnasoedd y ddaear; ond cyn fod yr inc wedi sychu ar femrwn y cytundeb, dacw hi yn rhyfel gwyllt yn Neheudir Affrica, ac erbyn hyn dyma hi yn goelcerth fawr eto yn China ! # * *• Ar hyn o bryd, nid wyf am benderfynu cyfiawnder nac anghyfiawnder rhyfel Affrica. Mae genyf fy marn fy hun, ond nid oes galw am ei cbyhoeddi yn y fan hon. Ond y mae un peth—ar wahan i'r rhyfel presenol—sydd yn sicr o brofi yn félldith anfesurol i'n gwlad ni, sef cynydd enfawr yr ysbryd ymladd yn mhlith ein pobl ni yn wyr, gwragedd a phlant. Ar heolydd Llundain nid golygfa anghyffredin yw gorymdaith o blant bychain carpiog yn efelychu mil- wyr, ac yn marchio drwy'r heolydd gan chwythu cyrn aflafar a chario baneri a chasglu ceiniogau. oddiwrth y fforddol- ion. Rywfodd, bod yn fìlwr yw'r idea fawr gan fechgynach ar hyn o bryd, a Baden Powell yw eilun-dduw y werin. # # Cwestiwn difrifol ydyw hwn. I ba le y mae yr ysbryd yma yn debyg o'n harwain yn y diwedd ? Yn sicr, y mae crash arswydus yn ein haros cyn bo hir. Wedi i'r dwymyn hon oeri fe ddaw relaỳse, a phobl ddiniwed fydd yn gorfod ta\Wr fiddler wedi i'r loddest fyned heibio. Yr )rdym yn gwan- obeithio weithiau, ac yn ofni fod Preg- eth Fawr y Mynydd wedi colli ei gafael ar y byd, ond wed'yn daw i'n cof mai yr Arglwrydd sydd yn teyrnasu, ac yn ei amser da Ef ei hun fe ddaw trefn ar y byd. Ein dyledswydd ninau fel pobl grefyddol yw sefyll fel callestr yn erbyn yr ysbryd milwrol yma sydd wedi meddwi'r wlad. Un o'r pethau hynotaf yn hanes Cymru yn ddiweddar oedd y dull gwaradwyddusyr ymddygwyd at M r Lloyd George yn Mangòr. Nid wyf yn cydolygu a phob peth a ddywed yr aelod anrhydeddus dros Arvon am y rhyfel presenol, ond beth am yr hen ddywed- iad gogoneddus " Rhyddid i bob meddwl ei farn a phob barn ei llafar ? " Rhwng y Jingo ar un llaw, a'r dafarn ar y lla.ll, y mae breakers ahead ddarllenwyr anwyl. Gweddiwn am i'r " Hwn sy'n rhodio brig y dòn" lefaru wrth y storom. * # Mae yr hen Gristion gloew Dr. Ryle, Esgob cyntaf Llynlleifìad wedi newid y groes am y goron. Eíe oedd y mwyaf syml ac efengyîaidd o'r holl esgobion ar y fainc. Disraeli dorodd: y corn olew ar ei ben. Mae Lerpwl, fel y gwyr pawb, yn gryf iawn ei Phrotestaniaeth, a phan enwyd Dr. Bickersteth fel yr