Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

jl*Y CRONICL.A Rhif 734.] MEHEFIN, 1904. [Cyf. LXII. NOS A CHYSGOD. (i.) Gwelais Sami bach llygadlon Ar y traeth ryw nawn o Fai: Casglai gregyn yn y tywod Dàn chwibanu yn y trai. Tra yr oedd y môr yn treio Llanw'r hwyrddydd welodd Sam— G-yrodd nos heb dori geiriau Wr y cregyn at ei fam. (ii.) Cyn i'r heulwen sychu'r gwelltyn Wlychwyd gan ddefnynau'r gwlith, Chwiliai deryn du dan ganu Am ddefnyddiau at ei nyth. Canai weithiau ar y brigyn, Droion arall yn y nen ; Ond pan ddaeth yr hwyr—distawodd, Dan gysgodion gwyrddlas bren. (iii.) Gwn am Gymro wadodd Iesu Ym mlynyddau cyner oes : Gwerthodd enaid am bleserau A gwrthododd " gario'r groes." Daeth y nos o'r diwedd drosto Yntau yn eiddilyn trist Lithrai lawr i swn yr afon Gan ddwys sibrwd, " Iesu Grist." &ì Rhys J. Huws. \C)