Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

-S.Y CRONICL,^ Rhif 742.] CHWEFROR, 1905. [Cyf. LXIII. Llyffr ffy Mam. (Cyflwynedig i Miss M. E. Parry, Bethesda.) (I) Wrth gerdded llwybrau bore oes Yn hoew a dinam, *Rwy'n cofio am y Beibl mawr Ddarllennid gan fy mam. Cyn deflFro o'r fwyalchen bêr I byncio yn y llwyn, Fy mam ddarllennai Air ei Duw Wrth oleu'r ganwyll frwyn. (H.) Mi welais lawer deigryn hallt, Fel marc ar ambell salm, ÌLle cafodd hi yn oriau ing I'w chalon glwyfus falm— Mae'r bennod fawr am Ing yr Ardd, A'r loes ar Galfari, Y funyd hon yn dal yn llaith, Gan ôl ei dagrau hi. (iii.) Ei chofio wnaf ar lawer tro— Yn llawen ac yn drist, Yn rhoi fy mys yn ddistaw bach Dan enw Iesu Grist. A chyn i'm ddysgu'r Wyddor oll, Na llythyrennu gair, Adwaenwn enw'r anwyl Un Fu gynt ar liniau Mair. (IV.) Mi welais mam ar fin y bedd, A'r niwloedd dros ei hael; Ond yn y niwl fe wyddai mam P'le 'roedd y goleu i gael. 'Roedd hen adnodau'r Beibl mawr Yn d'od i'w cho'r pryd hyn, Ac yn eu goleu clir aeth mam Dan ganu drwy y glyn. (v.) Dychmygaf glywed cyn bo hir Lais rhyw hiraethus ffrynd Yn dweyd wrth rywrai'n dyner-leddf Mod innau "wedi myn'd." Ond caffed ddweyd yn groew glir Fy mod wrth roddì llàm Dros drothwy'r byd, yn pwyso'n gry' Ar " Feibl mawr fy mam." Rhys J. Huws.