Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CRONICL.^ Rhif 748.] AWST, 1905. [Cyf. LXIII. Gweled Gwyneb Ouw. Mi welais olygfa nodedig o dlos, Gwel'd tad gyda'i blentyn yn chwareu fin nos. Am lygaid y bychan 'roedd gorchudd yn dŷn; A mawr oedd ei helbul wrth chwilio fan hyn A chwilio fan arall am guddfan ei dad, A'r chwareu er hyny yn llawn o fwynhad. Clustfeiniai yn astud am dwrw ei droed, A rhedai yn ffyddiog i'r fan yn ddioed; Ond erbyn myn'd yno siomedig yr hynt, Ei dad ddiangasai fel Uawer tro cynt. Wrth weled y siomiant yn oeri'r mwynhad Daeth cariad i'w orsedd yn mynwes y tad. Ond dyma beth doddodd ei galon yn lân, Sef gwel'd ei hofí blentyn yn mherygl y tân. Cyfododd y bychan yn serchog i'w gôl; Symudwyd y mwgwd, daeth mwyniant yn ol, Pob un a ganfyddai ei gariad di-ball 'N disgleirio yn Uachar yn ngwyneb y llall. Mae hanes y plentyn yn ddrych o'r iawn ryw 0 ymchwil diflino yr enaid am Dduw. Fe glyw ei leferydd yn ymchwydd yr aig, Gwel olion diymwad Ei droed yn y graig, A cheinwaith ei fysedd hyd ddaear a nen, Ond pery y Duwdod ei hunan dan len. Ond credaf mai holf gan y Tad yn y nef Yw clywed ei blant yn dyrchafu eu llef Am weled gwynebpryd cariadlawn eu Tad Heb orchudd 0 fater yn rhwystro'r mwynhad. A beth ydyw angeu ond enaid y dyn Yn cael ei ddyrchafu i'r nefoedd ei hun; Lle tynir pob gorchudd; ceir gweled yn llawn, A nabod a charu y Duwdod yn iawn. Uỳỳer Brighton. R. H. JONES.