Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

220 Y NEWYDDIADUR. Yr Egwyddor Wirfoddol.—Cyfranodd Eglwys Rydd Scotland yn j flwyddyn ddiweddaf tuag at gynnaliaeth a Uedaeniad erefydd, er holl dlodi eu gwlad, ac er holl wasgfeuon yr amseroedd, £350,000. Y mai eu cyfraniadau at achosion cenhadol yn awr yn fwy deirgwaith nag oeddynt pan y derbynient eu cyflogau o drysorlys y wlad. League of Universal Brotherhood.—Y mae cynghrair o frawdoì- iaeth gyffredinol, dan y titl yma, wedi cael ei chychwyn er's tros flwyddyn gan EHhu Burritt. Ei phrif amcan ydyw meithrin ysbnd heddwch a chydweithrediad drwy'r byd. Un o'r cynnygion pwysicai dan sylw y cyfarfod diweddaf ydoedd, Toll Geiniog y Môr. Gobeithio y parhant i resymu nes cael eu dymuniad rhesymol i ben yn sefydliad trefn o'r fath fuddioldeb cyffredinol. Y mae ein llywodraeth yn ddali- hleidiol iawn na afaelent ar unwaith yn y fath gynnygiad. Y Parch. Henry Richard.—Cafodd ei benodi yn ddiweddar yn Ys- grifenydd i Gymdeithas Heddwch, un o'r sefydliadau pwysicaf ei ddy- lanwad yn awr yn y deyrnas. Y Frenhines Elizaf,etii.—Dywed yr Esgob Jewel, mewn llythyr at ei gyfaill Bullinger, yn 1559, fod y Frenhines Elizabeth y pryd hyny yr. gwrthod cymeryd y titl—" Pen yr Eglwys," am ei fod yn dìtl nad oedd yn gweddu i unrhyw greadur marwol. Buasai yn anrhydedd uchel i Elizabeth pe buasai ei cbydwybod yn parhau yn ddigon goleu ac yu ddigon tyner i wrthod y titl hyd ei marw. Titl lled ddyeithr ac enbyd fydd i benaduriaid daear roddi cyfrif am eu gwaith yn ei wisgo pan \ gelwir hwynt i sefyll ger bron gorsedd Iesu. Father Mathew.—Y mae argoelion y caiffgroesaw mawr pan gyr- haeddo America; ac y mae yn haeddu croesaw o herwydd ei ymdreci o blaid Dirwest. Madagascar.—Y mae etifedd y goron yn parhau i garu ac i astudio egwyddorion ac ysbryd Cristionogaeth. Y mae mcwn modd caruaidd a gostyngedig yn rhoddi llawer o'i gymdeithas a'i gynnorthwy i'r Cristionogion. Y mae yn dangos hoffder mawr i gael rhan yn eu gwedd- 'iau. Y mae prif-weinidog y frenhines yn sychedu am ei waed; 011! hyderir ei fod yn rhy anwyl gan ei fam, fel ei hunig blentyn, iddi byth allu cydsynio i'w osod i farwolaeth: a bod gwawr rhyddid yn hyfryd, er yn graddol, wawrio ar Madagascar. Anfoner eirchion aml rif a! orsedd y nef am estyniad oes, a helaethiad defnyddioldeb y tywysog ieuanc. Rhodd haelionus.—Y mae Miss Fleaureau newydd roi £4,533 14s. 4c i Gymdeithas Genhadol Llundain, gyda chyfarwyddyd am i lóg y rhodd gael ei ddefnyddio i gynnal Cenhadwr yn China, ac Athraw brodoro! yn India. Y Parchedig W. C. Williams, Caerynarfon.—Y mae bron holl ganghenau llenyddiaeth Gymreig, yn gystal a'n cymeriad i'el cenedl, yn rhwymedig i lafur a doniau Mr. Caledfryn Williams; ac nid anmhriodoí fydd i holl ddysgyblion yr awen, a holl gyfeillion heddwch a rhyddid, 0 Fôn i Fynwy, ddyfod yn mlaen yn ddioed í gael rhyw gyfran o'r byfryd- wch o gydweithio â'r Committee yn Ngbaerynarfon, pe na byddai ond trwy anfon ychydig o stamps, er estyn iddo anrheg deilwng ar ei sy- mudiad 0 Gymru i'r brifddinas. Byddai hyny yn gymhelliad iddo gadw Hes y Dywysogaeth yn ei olwg dros weddill ei oes.