Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CRONICL. Ehif 656.1 RHAGFYR, 1897. [Ctf. LV. NODIADAU ENWADOL. Pe caem eistedd wrth y dollfa mewn ambell eglwys, dichon y deuem oddiyno yn well apostolion nag oeddym cyn eistedd i lawr. Nid a yw ein henwau ar lyfr yr egiwys yw'r pwnc penaf, ond faint o aberth sydd wrtho ? Yr oedd gan y diweddar Dr. Arthur Jones golofn yn y llyfr lle cadwai restr aelodau ei eglwys, ac yn y golofh hono, arferai yr hen weinidog, wneud sylwadau craff ar ambell un o'i ddisgyblion. Gwaith diangen fyddai ysgrifenu nodion ar gyfer ein henwau, pe edrychid ar golofn yr aberth. Gwyr y gweiuidog safle'r aberth mewn presenoldeb a ffyddlondeb i foddion gras, a gwaith ysbrydol yr eglwys. Hwyrach mai'r trysorydd sydd yn gwybod oreu beth yw cymeriad yr aelodau fel cyfranwyr. Rhaid i drysorydd feddu llawer o natur dda a chrefydd neu bydd yn sicr o fyn'd yn ddi-ffydd. Synir ef weithiau gan yr ysbryd aberth a ddengys pobl o amgylchiadau cyffredin na ddisgwylid llawer oddiwrthynt: a chlwyfìr ef bryd arall wrth weled pobl o foddion yn pasio'r dollfa heb ddim ond ymgrymu iddi. Nid yw pobl yr un bwysau, na'r un daldra, o edrych arnynt o'r tu ol i'r dollfa. Nid y dyn mwyaf yn y cwrdd brodyr yw y mwyaf wrth y dollfa: hwyrach mai gwraig weddw dlawd, na wnaeth gymaint ag eilio penderfyniad erioed, yw'r dalaf yno. Nid y rhai sydd yn llenwi'r prif-gadeiriau bob amser yw y rhai mwyaf yn marn y trysorydd. Ac os yw hyn yn wir am eu safle yn marn dyn, yn mha le y safant yn marn Duw ? Ychydig sydd ya cofio fod Duw yn gwel'd i waelod y blwch casglu. Sarhad ar aberth yw y darnau arian a phres diwerth, a'r arian drwg a geir yn y casgliad ar ddiwedd ambell oedfa. Swllt drwg a roed iddo am bregethu yn Eg- lwysbach, a dorodd galon yr hen John Williams, Caecoch, ac a'i rhwystrodd yno byth wed'yn. Dichon mai yn y casgliad y cawsai'r trysorydd y darn drwg. Sut bynag y bu, oni bai'r swllt drwg hwnw dichon y buasai John Evans, Eglwysbach, wedi rhoi ei oes werthfawr i wasanaethu yr Anibynwyr, oblegid gyda'r Anibynwyr yr addolai ei dad hyd nes i'r achos Anibynol fyn'd i lawr. Nid yw arian drwg o help i ddyn, nac yn anrhydedd i Dduw, am hyny alltudier hwy o gasgl y saint. Gofaler peidio rhoi aberth cloft. Gwelais gynulleidfa fawr Dr. Talmage yn Brooklyn yn rhoi darnau newyddion ya y blychau casglu, a hofFais