Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CRONICL. Emr 667.1 TACHWEDD, 1898. ("Cyf. LVI. NODIADAU ENWADOL. DR. PAN JONES AR " CRONICL. Mae'r hyn a ysgrifenais ar Gymdeithasiaeth {Socialism) dro'n ol wedi enyn anghymeradwyaeth Dr. Pan Jones. Yr wyf wedi arfer ei ddilyn ef bron ar bob pwnc cyhoeddus yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, ie, hyd yn nod i'r llys a'r frawdle. Eto nis gallaf Jyncu daliadau rhai ysgolion yn mhlith y Sosialwyr (ac os wyf yn cofio yn iawn dyna oedd ysbryd y tipyn a ysgrifenais). Myn rhai Sosialwjr fod crefydd yn dysgu y dylai Cristionogiou ranu a rhoi pobpeth sydd ar eu helw. Ni ddysgodd Iesu Grist hyn ericed. Unwaith y soniodd am y peth, a hyny wrth ddyn di-grefydd, gwel Marc x. 21. Ceisiodd yr eglwys wneud prawf ar Gwmwdiaeth (Communism) yn Jerusalem, "ac yr oedd pob- peth ganddynt yn gyfiredin," ond cyn pen nemawr ddyddiau nid oedd gan yr apostolion penaf geiniog yn eu llogellau, oblegid cyfaddefodd Petr wrth wr c'off, "Arian ac aur nid oes genyf," a chyn pen deng mlynedd yr oedd yr eglwys yn J^rusalem wedi suddo i angenoctid mawr, ac wedi myn'd i bwyso ar eglwysi eraill am help. Yr hyny mae Iesu Gnst yn ei ddysgu yw ein b~>d yn " Frodyr," a'n bod i wasanaethu ein gilydd, a phan y mae Sosialwyr yn dysgu yn amgen i hyn nis gallaf eu cymeradwyo. CYFARFODYDD YR UNDEB. Ni fu'm yn y cyfarfodydd yn Halifax, fel'y nis gallaf roi barn bersonol arnynt. Barn y Parch. E. R. Barrett, B.A., Lerpwl, am danynt yw, mai'r ddau gyfarfod nad oeddynt wedi eu trefnu gan awdurdodau yr Undeb oedd y rhai goreu. Y cyfarfod di'.west< 1, a chyfarfod y " Koino- nia" oedd y ddau hyny. Clwyfwyd y rhai sy'n caru heddwch, ac yn proffesu egwyddorion Tywysog y Tangnefedd wrth ddarllen araeth fFol Dr. Goodrich. Cododd i fyny i siarad ar bwnc y dydd, heb baratoi— medd efe—ac yn lle bod y ffuith hono yn esgusodi ei eiriau amrwd y mae yn ychwanegu at ei drosedd, oblegid nid amser i s;arad yn ddi- feddwl yw'r amser presenol, pau y gall gwreichionen roi Ffraioc a Bryd-